Ewch i’r prif gynnwys

Dysgu Cymraeg yn y brifddinas

1 Awst 2016

Learn Welsh in the Capital

Mae Ysgol y Gymraeg wedi ei gwahodd i weithredu ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Bydd yr Ysgol yn gyfrifol am ddarparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn ardal Caerdydd ar ran y Ganolfan, sef corff cynllunio newydd sy’n gyfrifol am bob agwedd ar y maes.

Mae’r Brifysgol ymhlith un ar ddeg o ddarparwyr sydd wedi eu gwahodd i weithredu ledled Cymru ar ran y Ganolfan.  Bydd y drefn newydd, a ddaw i rym ar 1 Awst 2016, yn adeiladu ar y gwaith pwysig a gyflawnwyd yn flaenorol gan chwech o ganolfannau Cymraeg i Oedolion.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Dyma’r tro cyntaf i gorff cynllunio cenedlaethol gydlynu’r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion ac mae ein nod yn glir – denu dysgwyr newydd i’r Gymraeg a chynyddu’r niferoedd sy’n defnyddio’r iaith bob dydd.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gydag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd wrth inni fynd ati i gydlynu’r ddarpariaeth, gan gyflwyno cwricwlwm ac adnoddau cyfoes a chyffrous a bod yn bwynt cyswllt canolog ar gyfer yr holl wybodaeth am ddysgu’r Gymraeg.”

Meddai’r Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: “Mae gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd brofiad helaeth o ddarparu yn y maes ynghyd â dealltwriaeth drwyadl o anghenion dysgwyr yr ardal; rydym yn edrych ymlaen at gydweithio’n agos gyda’r Ganolfan.”

Cafodd digwyddiad anffurfiol i lansio’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ei gynnal ddydd Sadwrn, 30 Gorffennaf ym Maes ‘D’ ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau.