Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth a ddefnyddiodd gamerâu ar helmedau swyddogion tân yn fuddugol yn y Gwobrau Arloesedd

26 Mehefin 2017

I&I 2017 People's Choice

Mae swyddog tân o Gaerdydd a ddefnyddiodd gamerâu ar helmedau swyddogion tân i weld sut yr oedd comanderiaid yn ymdrin ag argyfyngau, wedi ennill gwobr am arloesedd.

Dechreuodd Dr Sabrina Cohen-Hatton, sydd bellach yn Ddirprwy-Gomisiynydd Gynorthwyol gyda Brigâd Dân Llundain, ei hymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd wrth weithio gyda Gwasanaeth Tân De Cymru yn y ddinas.

Dangosodd ei gwaith ymchwil gyda'r Ysgol Seicoleg bod comanderiaid yn aml yn dibynnu ar reddf pan maent o dan bwysau, p’un ai mewn sefyllfa gymhleth neu un arferol.

Gosodwyd camerâu GoPro ar helmedau’r swyddogion tân i gael darlun hollbwysig.

Mae’r canfyddiadau wedi arwain at lunio polisi cenedlaethol i newid y ffordd mae swyddogion tân yn ymdrin â digwyddiadau. Mae proses newydd o reoli penderfyniadau erbyn hyn yn eu helpu i gyfleu nodau, canlyniadau, peryglon a buddion yr hyn a wnânt dan bwysau.

Dywedodd Sabrina Cohen-Hatton: "Rydym ar ben ein digon o fod wedi ennill y wobr hon. Hoffwn gyflwyno’r wobr i holl swyddogion tân Llundain sydd wedi bod yn gweithio mor galed i helpu pawb sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiad yn Grenfell Towers...."

"Cadw swyddogion tân yn ddiogel oedd prif nod yr ymchwil. Mae digwyddiadau diweddar wedi profi i'r byd y sefyllfaoedd mor anodd a pheryglus y mae ein swyddogion tân yn eu hwynebu. Diben fy ngwaith yw eu cadw’n ddiogel er mwyn iddyn nhw allu cadw'r cyhoedd yn ddiogel."

Dr Sabrina Cohen-Hatton Ddirprwy-Gomisiynydd Gynorthwyol, Brigâd Dân Llundain

Ganwyd Sabrina yng Nghaerdydd ac aeth i Ysgol Bassaleg yng Nghasnewydd. Gadawodd yr ysgol yn 16, cyn ymuno â'r gwasanaeth tân yn 18 oed. Cododd drwy'r rhengoedd i fod yn Gomander Grŵp yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Cwblhaodd Sabrina radd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn dechrau PhD yno. Bu'n astudio yn ystod y nos ar yr un pryd â gweithio fel swyddog tân amser-llawn a magu plentyn ifanc. Ar ôl cyfnod ar secondiad gyda Llywodraeth Cymru yn cynghori Gweinidogion ac uwch-weision sifil ar bolisi tân ac achub, symudodd Dr Cohen-Hatton i Lundain dair blynedd yn ôl i fod yn Ddirprwy-Gomisiynydd Cynorthwyol.

"Mae bod yn rhan o’r gwaith arloesol a gynhaliwyd gan y tîm ymroddedig ac ysbrydoledig yma wedi bod yn fraint gwirioneddol."

Yr Athro Rob Honey Ysgol Seicoleg

"Gwirioneddol ysbrydoledig"

Pleidleisiodd dros 600 o bobl ar gyfer y prosiect mewn cystadleuaeth cyfryngau cymdeithasol 'Dewis y Bobl', gan ei wneud yn enillydd cyffredinol y Gwobrau, a noddir gan Grŵp IP, Symbiosis IP Cyf a Blake Morgan.

Mae Kevin McKenzie o Frigâd Dân Llundain yn ennill iPad Mini am bleidleisio ar gyfer y prosiect ac am gynnig ateb oedd yn canmol y gwaith.

Yn ôl Kevin: "Bydd y gwaith rhyfeddol hwn yn dylanwadu ar ymddygiad comanderiaid a swyddogion tân ledled y DU a'r byd, gan arwain at wneud swyddogion tân yn fwy diogel a gwella proffesiynoldeb yng ngwasanaethau tân ac achub y DU. Gwirioneddol ysbrydoledig."

Dysgu mwy.

"Achub bywydau mewn argyfwng"

Mae’r Gwobrau Arloesedd ac Effaith, sydd bellach yn 20 oed, yn amlygu manteision partneriaethau rhwng academyddion a chyrff allanol.

Cyflwynodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Wobr Dewis y Bobl i Dr Sabrina Cohen-Hatton o Frigâd Dân Llundain, Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân a’r Athro Rob Honey o’r Ysgol Seicoleg.

Dywedodd y Gweinidog: "Mae enillydd Dewis y Bobl yn enghraifft ragorol o sut y gellir troi astudiaeth ymchwil yn gyngor ymarferol ynghylch sut i wneud penderfyniadau a allai achub bywydau mewn argyfwng..."

"Mae hefyd yn amlygu pwysigrwydd partneriaethau rhwng y byd academaidd, llywodraeth a sefydliadau allanol wrth lunio a diogelu ein cymdeithas ehangach."

Julie James Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae safon ragorol y gwaith a gyflwynwyd eleni yn dangos ansawdd, dyfeisgarwch a phenderfynoldeb ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wrth ddatblygu partneriaethau o’r radd flaenaf ym meysydd arloesedd ac ymgysylltu."

Dewiswyd enillydd gwobr Dewis ei Bobl drwy bleidlais gyhoeddus ar gyfer y Gwobrau, ac fe ddathlwyd pedwar prosiect arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol:

Trefnir y Gwobrau Arloesedd ac Effaith gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, ac maent wedi bod yn hyrwyddo'r partneriaethau rhwng y Brifysgol â busnesau ers dros ddau ddegawd.

Mae’r Brifysgol yn yr 2il safle yng Ngrŵp Russell am incwm eiddo deallusol ac yn gyfrifol am 98% o’r incwm eiddo deallusol a gynhyrchir gan brifysgolion Cymru.