Ewch i’r prif gynnwys

Cynghrair peirianneg yn ennill Gwobr Partneriaeth

6 Mehefin 2017

Pylon

Partneriaeth i ddatblygu dur trydanol newydd yn ennill gwobr arloesi.

Mae gwaith Prifysgol Caerdydd gyda Cogent Power - busnes o fewn Tata Steel - yn digwydd ers degawdau.

Mae’r berthynas wedi tyfu o raglen wreiddiol o fesur a nodweddu i gefnogi datblygiad deunyddiau, prosesau a chynhyrchion newydd.

Gyda’i gilydd, mae’r partneriaid yn gweithio ar ymchwil newydd gyffrous, gan gynnwys lleihau sŵn trawsnewidyddion a gweithgynhyrchu generaduron modur effeithlon iawn ar gyfer cerbydau trydanol a chyfun ar y cyd â chwsmeriaid arloesol.

Mae’r prosiect wedi ennill y Wobr Partneriaeth yng Ngwobrau Arloesi ac Effaith Prifysgol Caerdydd eleni.

Dywedodd yr academydd arweiniol, Dr Phil Anderson, o’r Ysgol Peirianneg: “Mae’r cydweithio wedi galluogi’r Brifysgol i ddatblygu enw da dros y byd am ymchwil dur trydanol i’w ddefnyddio’n uniongyrchol mewn diwydiant, wrth i Cogent Power gael budd o ehangder a maint arbenigedd yr Ysgol yn y maes hwn...”

“Dechreuodd ein perthynas fel partneriaeth untro, ond mae wedi tyfu’n gyfeillgarwch hirdymor."

Dr Philip Anderson Senior Lecturer - Teaching and Research

Defnyddir dur trydanol yng nghrombil magnetig meddal generaduron trydan, trawsyrwyr a moduron at amryw ddibenion. Wrth i’r llywodraeth a busnesau geisio lleihau effaith amgylcheddol tanwydd ffosil, mae gan y dechnoleg rôl bwysig i’w chyflawni mewn byd glanach, gwyrddach.

Dywedodd Mark Cichuta, Cyfarwyddwr Datblygu Cynhyrchion a Phrosesau Cogent Power: “Mae’r cydweithio wedi galluogi Cogent i wella ei allu technegol ac ymchwil drwy fanteisio ar arbenigedd tîm Prifysgol Caerdydd. Mae hefyd wedi gallu meithrin perthnasau drwy gynllun Ewropeaidd Horizon 2020 ac offerynnau cydweithredu eraill..."

“Mae’r prosiect wedi rhoi mynediad i ni at ymchwil gadarn a phendant i weithio adnoddau ar brosiectau at ddefnydd diwydiannol, a wnaeth ein helpu i feithrin perthnasau â chwsmeriaid newydd."

Mark Cichuta Cogent Power

"Crëwyd syniadau cydweithredol ehangach, gan gynnwys canolfan hyfforddiant doethurol ar y cyd ar gyfer dur trydanol y gobeithiwn ei chreu dros y ddwy i dair blynedd nesaf.”

Mae’r rhaglen waith ar y cyd wedi gweithio ar gysylltu microstrwythurau deunyddiau a pherfformiad magnetig, mecanweithiau peirianneg arwynebol a datblygu haenau newydd, a nodweddu ac optimeiddio at ddibenion penodol.

Mae’r cydweithio wedi galluogi’r prif academyddion i feithrin enw da rhyngwladol drwy bortffolio o ymchwil a gyhoeddwyd a phrosiectau PhD o safon uchel.

Ers 2015/16, mae Cogent wedi cefnogi dros ddwsin o brosiectau israddedig yr Ysgol Peirianneg a cynnig lleoliadau gwaith diwydiannol ym mhob rhan o ymchwil ddiwydiannol a dur trydanol.

Gallwch bleidleisio tan 11:00 ddydd Mercher 21 Mehefin.

Rhannu’r stori hon

Mae Gwobrau Arloesedd ac Effaith 2017 y Brifysgol yn amlygu’r partneriaethau rhwng academyddion a chyrff allanol.