Digwyddiadau
Rydyn ni’n cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau sy'n ymdrin â phynciau arloesedd trwy gydol y flwyddyn academaidd.
Ymhlith y rhain y mae sesiynau gweithdy rhyngweithiol a chyflwyniadau ysbrydoledig. Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfleoedd i bobl o'r un meddwl ddod at ei gilydd i drafod syniadau a gwneud cysylltiadau gwerthfawr sydd o fudd i bawb, sy'n aml yn arwain at gyfleoedd i weithio ar y cyd.
Nid oes unrhyw ddigwyddiadau ar gael.
Bydd manylion ynghylch ein digwyddiadau sydd ar y gweill ar gyfer 2025/26 ar gael yn fuan.
Digwyddiadau blaenorol
Mae ein digwyddiadau yn y gorffennol yn cynnwys cynnal panel o arbenigwyr ar Iechyd Digidol a gweithdy rhyngweithiol ar gyfleoedd cydweithrediad rhwng sectorau.
Iechyd Digidol yng Nghymru
Mae technoleg ddigidol yn trawsnewid gofal iechyd, ond y bobl y tu ôl i’r dechnoleg sy’n gwneud i hynny ddigwydd drwy wireddu syniadau, gweithio ar y cyd ac ehangu arloesedd. Dyma oedd un o’r prif negeseuon yn nigwyddiad Rhwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd ar Iechyd Digidol yng Nghymru, a gafodd ei gynnal ar 15 Mai 2025.
Gweithion ni ar y cyd â Sefydliad Arloesi er Trawsnewid Digidol Prifysgol Caerdydd a Medicentre Caerdydd i gynnal y digwyddiad. Trefnodd Medicentre Caerdydd le delfrydol i bobl ddod ynghyd er mwyn cysylltu ac ystyried technolegau digidol i wella gofal iechyd.
Dan gadeiryddiaeth yr Athro Maneesh Kumar, y Rhag-ddeon ar gyfer Technoleg, Systemau a Data ac Athro Gweithrediadau Gwasanaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd, cafodd y cynrychiolwyr eu hysbrydoli gan siaradwyr o Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Healthy.io, Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd, SimplyDo, Siemens Healthineers, Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Luscii, y Ganolfan ar gyfer Gwerthuso, Asesu Dyfeisiau ac Ymchwil Gofal Iechyd (CEDAR), Llywodraeth Cymru a Qure.ai.
Arloesi: dull traws-sector
Gall cydweithio â gwahanol sectorau ein helpu i fynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n ein hwynebu heddiw drwy ein galluogi i fanteisio ar y wybodaeth, y sgiliau, y profiadau a’r adnoddau unigryw sydd gan bob maes i’w cynnig.
Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydyn ni’n gweithio ar y cyd i ddysgu rhagor a chyd-greu atebion i gyflawni llawer mwy nag y bydden ni’n gallu ei gyflawni ar ein pen ein hunain. Drwy gydweithio â sefydliadau amrywiol, rydyn ni’n cyfnewid gwybodaeth a gwaith ymchwil newydd ac yn mynd i'r afael â heriau heddiw mewn ffyrdd sy’n berthnasol i wahanol sectorau a diwydiannau.
Ar 19 Chwefror, cafodd gweithdy ei gynnal gennyn ni er mwyn i sefydliadau mewn gwahanol sectorau a diwydiannau allu rhwydweithio a chael gwybod am y cyfleoedd amrywiol sydd ar gael i gydweithio.
Ymhlith y siaradwyr yn sbarc|spark roedd Dr Neil Bentley-Gockmann OBE, Prif Weithredwr WIG, Dr Sarah Lethbridge a’r Athro Peter Wells o Ysgol Busnes Caerdydd, Owen Wilce o Brifddinas Ranbarth Caerdydd a Dr Yulia Cherdantseva o Sefydliad Arloesi er Trawsnewid Digidol Prifysgol Caerdydd.
Mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau: dull cydweithredol yng Nghymru
Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru, ac rydyn ni’n cefnogi adferiad yn dilyn pandemig COVID-19 sy’n canolbwyntio ar sgiliau. Rydyn ni’n cydweithio â sefydliadau i fynd i'r afael â'u gofynion o ran sgiliau, gan ddatblygu atebion sy'n helpu’r gweithle i fodloni gofynion esblygol amrywiaeth o sectorau a diwydiannau.
Ar 19 Tachwedd 2024, cafodd sesiwn ddiddorol a difyr ei chynnal gennyn ni er mwyn dod â sefydliadau ynghyd i rwydweithio a chael gwybod am y cyfleoedd sydd ar gael i gydweithio at ddibenion gwella sgiliau’r gweithle yng Nghymru.
Gwrandawodd y cynrychiolwyr ar gyflwyniadau gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnes (NCUB), Prifddinas Ranbarth Caerdydd a thimau o bob rhan o Brifysgol Caerdydd, gan gynnwys Tîm Datblygiad Proffesiynol Parhaus Prifysgol Caerdydd, Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, Tîm Dyfodol Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Genletics, sef un o denantiaid Arloesedd Caerdydd, a gyflwynodd astudiaeth achos ysbrydoledig.
Sut i ymaelodi gyda'r Rhwydwaith Arloesedd