Ewch i’r prif gynnwys

Proses asesu risg iechyd meddwl yn ennill gwobr

6 Mehefin 2017

Mental health

Mae menter ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl wedi ennill gwobr arloesi.

Gweithiodd Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd gyda Llywodraeth Cymru i leihau’r risg o ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl yn cyflawni hunanladdiad neu’n rhoi niwed i eraill.

Mae Rhwydwaith Ymchwil Risg Gymhwysol Cymru (WARRN) yn helpu i sicrhau dull cyson o asesu risg iechyd meddwl ym mhob Bwrdd Iechyd.

Mae dull WARRN yn gwrthod sgorau risg ‘blychau ticio’ traddodiadol, gan ffafrio asesiad ‘seiliedig ar fformiwleiddio’ sy’n galluogi defnyddwyr a chlinigwyr i gydweithio wrth bwyso a mesur y ffactorau perthnasol. Arweiniodd at hyfforddiant unfath drwy Gymru gyfan, gan roi’r sgiliau, terminoleg a thechnegau i staff y mae modd eu defnyddio ymhob un o’r saith Bwrdd drwy ddull ‘hyfforddi’r hyfforddwyr’.

Wedi’i datblygu gydag Asiantaeth Arwain ac Arloesi Cymru ar gyfer Gofal Iechyd, yn ogystal â’r Athro Nicola Gray o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, mae’r broses newydd wedi ennill y Wobr Arloesedd Gofal Iechyd yng Ngwobrau Arloesi ac Effaith Prifysgol Caerdydd eleni.

Dywedodd yr academydd arweiniol, yr Athro Robert Snowden o’r Ysgol Seicoleg: “Mae WARRN wedi’i fabwysiadu gan bob un o saith Bwrdd Iechyd Cymru. Caiff staff eu hyfforddi mewn sgiliau a gweithdrefnau y gellir eu defnyddio ym mhob un o’r Byrddau, gan sicrhau dull cyson o weithredu a ffordd effeithiol o symud staff. Rydym hefyd wedi sicrhau arbedion sylweddol wrth hyfforddi’r hyfforddwyr..."

“Mae cael hyfforddwyr WARRN yn eu gwasanaethau a’u Byrddau Iechyd eu hunain yn rhoi gwybodaeth leol a mynediad at rwydwaith lleol o glinigwyr iddynt, gan felly wella safon yr hyfforddiant a roddir.”

Yr Athro Rob Snowden Yr Ysgol Seicoleg

Dywedodd Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru: “Mae mabwysiadu asesiad risg seiliedig ar fformiwleiddio, yn lle’r broses blychau ticio mwy cyffredin, yn ddull arloesol iawn o weithredu. Mae dull cyson yn seiliedig ar fformiwleiddio o asesu risg wedi helpu defnyddwyr gwasanaeth a chlinigwyr i ddeall yn well rolau a chyfrifoldebau rheoli risg..."

“Mae WARRN wir wedi helpu i godi safonau gofal yn y gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru."

Dr Frank Atherton Prif Swyddog Meddygol Cymru

Rhannu’r stori hon

Mae Gwobrau Arloesedd ac Effaith 2017 y Brifysgol yn amlygu’r partneriaethau rhwng academyddion a chyrff allanol.