Ewch i’r prif gynnwys

Sbotolau ar Wyliau Cerddoriaeth

17 Mawrth 2017

Crowd at festival

Mae miliynau o bobl yn mynd i gannoedd o wyliau cerddoriaeth bob blwyddyn ledled y DU, gan gynnwys Glastonbury, Green Man, a T in the Park. Ond beth yw cyfrinach gŵyl gerddoriaeth dda?

Mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Caerdydd bydd unigolion blaenllaw ym myd gwyliau cerddoriaeth ac academyddion o'r celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol yn ystyried natur gwyliau cerddoriaeth a'u heffaith.

Cynhelir Sbotolau ar Wyliau Cerddoriaeth ar 27 Mawrth 2017, a bydd yn cynnwys siaradwyr fel Jon Drape (Gŵyl Rhif 6), Steve Muggeridge (Green Gathering) a Gwilym Evans (Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru).

Drwy ystyried cyflwr presennol y diwydiant a'r heriau ar gyfer y dyfodol, bydd siaradwyr yn mynd i'r afael â'r effaith y mae'r twf yn nifer y gwyliau'n ei chael ar ddiwylliant, economi ac amgylchedd Prydain, ac yn ystyried materion megis sut i wella effeithiau cadarnhaol y digwyddiadau, a lleihau eu heffeithiau negyddol.

Dywedodd Cadeirydd Grŵp Ymchwil Gwyliau Prifysgol Caerdydd, Dr Jacqui Mulville, o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd: Mae gan Gymru sîn gerddoriaeth lewyrchus, a nifer o wyliau cerddorol sydd wedi ennill gwobrau...”

“Y llynedd, gweithiodd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ag un o'r rhain, Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd, i ddarganfod mwy am y cynulleidfaoedd, perfformwyr a diwylliant y digwyddiad trefol blynyddol hwn.”

Yr Athro Jacqui Mulville Professor in Bioarchaeology, Head of Archaeology and Conservation

Bydd y digwyddiad hwn yn arddangos ein canfyddiadau, yn annog cyfranogwyr i rannu syniadau ac i ystyried y posibilrwydd o gydweithio yn y dyfodol.

Mae gwyliau cerddoriaeth yn rhan allweddol o ddiwylliant ac economi gwledydd Prydain. Mae nifer y bobl sy'n mynd i wyliau cerddoriaeth yn cynyddu, ac maent o natur ddynamig ac amrywiol, boed hynny mewn cyd-destunau trefol neu wledig...”

“Bydd ymchwil gydweithredol dan arweiniad Prifysgol Caerdydd sy'n canolbwyntio ar elfennau allweddol gwyliau cerddoriaeth, gan gynnwys teithio a bwyd, perfformwyr a phlismona, digwyddiadau hanesyddol a ffantasïau dyfodolaidd, yn ein galluogi i sicrhau bod pwysigrwydd y digwyddiadau mawr hyn yn cael ei gofnodi a'u bod yn parhau i lwyddo.”

Yr Athro Jacqui Mulville Professor in Bioarchaeology, Head of Archaeology and Conservation

Cynhelir Sbotolau ar Wyliau Cerddorol ddydd Llun 27 Mawrth yn Adeilad Morgannwg y Brifysgol (14.00 – 17.00, Ystafelloedd Pwyllgor 1 a 2).  Mae'n rhaid cadw lle ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn.

Mae Grŵp y Brifysgol sy’n Ymchwilio i Wyliau yn cynnwys staff o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Ysgol Busnes Caerdydd, yr Ysgol Cerddoriaeth a’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.