Ewch i’r prif gynnwys

Newyddiaduraeth Newyddion yn cael ei henwi’r cwrs NCTJ gorau

1 Rhagfyr 2016

News Journalism Director Mike Hill
News Journalism's lecturers Mike Hill and Cathy Duncan

Mae Newyddiaduraeth Newyddion wedi ennill gwobr NCTJ am y cwrs newyddiaduraeth ôl-raddedig gorau ar gyfer 2015-16.

Cyflwynwyd y gwobrau i’r cyrsiau gorau a achredir gan NCTJ yn ystod seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn Amgueddfa Llongau Tanfor y Llynges Frenhinol yn Gosport nos Iau, 24 Tachwedd.

Yn ystod y seremoni, cyflwynwyd gwobrau i'r cyrsiau newyddiaduraeth oedd â'r ganran uchaf o fyfyrwyr a oedd wedi cyflawni safon aur NCTJ: Graddau A-C ym mhob arholiad yn ogystal â'r gallu i ysgrifennu 100 o law-fer bob munud.

Cipiodd Prifysgol Caerdydd y wobr gan fod 93% o fyfyrwyr wedi cyrraedd safon aur NCTJ.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Cwrs, Michael Hill, "Mae Prifysgol Caerdydd yn hen law ar feithrin rhai o newyddiadurwyr gorau'r DU.

"Er bod egwyddorion craidd yr hyn rydyn ni’n ei addysgu wedi aros yn gyson, mae'r adnoddau a'r sianeli rydyn ni’n eu defnyddio i ddweud y straeon hynny wedi newid yn llwyr.

"Mae Newyddiaduraeth Newyddion yn cyfuno'r adnoddau a'r technegau digidol diweddaraf â hanfodion newyddiaduraeth dda. Mae hyn yn creu newyddiadurwyr sy'n barod ar gyfer yr ystafell newyddion.”

Daw'r wobr yn fuan ar ôl i'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol gael ei chanmol gan John Simpson, pan agorodd Ddarlith Anrhydeddus Hadyn Ellis Prifysgol Caerdydd drwy ddweud, "Mae'n bleser ac yn fraint dod i Gaerdydd, y ganolfan hyfforddiant newyddiaduraeth fwyaf uchel ei pharch."

Mae gan fyfyrwyr Newyddiaduraeth Newyddion y cyfle i astudio amrywiaeth o fodiwlau dewisol gan gynnwys newyddiaduraeth chwaraeon, moduro, busnes a data.

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth am ein hymchwil, cyrsiau ac aelodau staff, ewch i wefan yr Ysgol.