Ewch i’r prif gynnwys

Newyddiaduraeth ar Flaen y Gad

28 Tachwedd 2016

John Simpson

'Peidiwch â chynhyrfu a phwyll piau hi' – dyna oedd cyngor John Simpson i newyddiadurwyr wrth iddo draddodi Darlith Nodedig Hadyn Ellis 2016 ym Mhrifysgol Caerdydd.

Croesawyd John Simpson i'r Brifysgol i draddodi darlith a sefydlwyd er cof am yr Athro Hadyn Ellis CBE, a wnaeth gyfraniad pwysig at sefydlu disgyblaeth niwroseiciatreg wybyddol, ac a fu â rhan allweddol yn sefydlu Caerdydd fel un o brifysgolion ymchwil mwyaf blaenllaw y DU.

Yn ei yrfa BBC dros bum deg mlynedd, mae John wedi gohebu am ddigwyddiadau o bwysigrwydd byd-eang ym mhedwar ban y byd, a chafodd CBE yn rhestr anrhydeddau Rhyfel y Gwlff ym 1991.  Cafodd ei enwi'n Newyddiadurwr y Flwyddyn ddwywaith gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol, ac mae wedi ennill tri BAFTA, y wobr Newyddion a Materion Cyfoes yn 2000 ar gyfer ei newyddiaduraeth, gyda thîm BBC News, am y rhyfel yn Kosovo, ac yn 2001, cafodd Emmy ar gyfer ei ohebu am gwymp Kabul.

Gan gydnabod ein bod bellach yn byw mewn oes 'ôl-wirionedd', dechreuodd Golygydd Materion y Byd y BBC ei ddarlith drwy drafod rôl newyddiaduraeth yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol. Tynnodd sylw at yr honiadau a wnaed yn ystod ymgyrch etholiadol yr UDA, ac yn y cyfnod cyn refferendwm yr UE, cyn gofyn y cwestiwn "beth ddylai newyddiadurwyr ei wneud ar adeg lle nad yw'r gwirionedd, yn ôl pob golwg, yn bwysig?"

Siaradodd o blaid cydbwysedd a didueddrwydd, gan nodi mai "yr hyn y mae'n rhaid i ddarlledwyr ei gyfleu yw teimlad o degwch, teimlad nad oes mwy o bwys yn cael ei roi i un ochr", gan bwysleisio hefyd, wrth gwrs, na ddylid cydbwyso'r gwirionedd â phethau nad ydynt yn wir.

Tynnodd sylw hefyd at duedd y cyfryngau, yn enwedig y cyhuddiadau o duedd ryddfrydol neu asgell chwith a wneir am y BBC. Dywedodd John, sydd wedi bod yn gweithio i'r BBC ers dros bum degawd, nad yw wedi gweld unrhyw beth i awgrymu bod yn rhaid cyflwyno newyddion mewn modd penodol am resymau gwleidyddol.

Ar gyfer ail hanner ei ddarlith, rhannodd John nifer o straeon o'i lyfr newydd, We Chose to Speak of War and Strife: The World of the Foreign Correspondent, sy'n cynnwys hanesion gohebwyr rhyfel enwog fel Martha Gellhorn a Marie Colvin. Mae'r llyfr yn archwilio achlysuron hollbwysig mewn hanes – gan gynnwys Rhyfel y Crimea a Fietnam; gwarchae Sarajevo a chwymp Baghdad – a hynny drwy lygaid y rhai a roddodd eu bywyd mewn perygl i'w gweld yn y fan a'r lle er mwyn gohebu amdanynt.

Cafwyd canmoliaeth hefyd ar gyfer yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, pan agorodd John ei ddarlith drwy ddweud "Mae'n bleser ac yn fraint dod i Gaerdydd, y ganolfan hyfforddiant newyddiaduraeth fwyaf uchel ei pharch."

John Simpson Tweet

Disgrifiodd ei ddarlith a'i sesiwn llofnodi llyfrau ar Twitter fel "noswaith wirioneddol hyfryd yn @prifysgolCdydd ymhlith rhai o'r myfyrwyr craffaf a mwyaf dymunol i mi gwrdd â nhw erioed. Mae'n rhoi gobaith ar gyfer y dyfodol."

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth am ein hymchwil, cyrsiau ac aelodau staff, ewch i wefan yr Ysgol.