Ewch i’r prif gynnwys

Tlws y Cerddor i fyfyriwr PhD graddedig

5 Awst 2016

Gareth Olubunmi Hughes
© Eisteddfod Genedlaethol Cymru/National Eisteddfod of Wales

Gareth Olubunmi Hughes, myfyriwr PhD graddedig o Brifysgol Caerdydd, yw enillydd Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Cafodd Gareth, sy'n bianydd ac yn gyfansoddwr, ei anrhydeddu mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn yn y brifwyl nos Fercher.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Gareth wedi bod yn cwblhau ei ddoethuriaeth mewn cyfansoddiad cyfoes yn y Brifysgol o dan oruchwyliaeth Dr Arlene Sierra, y gyfansoddwraig o America.

Yn ystod ei ddoethuriaeth, mae amrywiaeth o gerddorion proffesiynol ac ensembles, gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a'r delynores Catrin Finch, wedi perfformio ei waith.

Dyma'r eildro i Gareth gipio Tlws y Cerddor yn dilyn ei lwyddiant ym Mro Morgannwg yn 2012.

Cynhelir yr Eisteddfod eleni yn y Fenni yn Sir Fynwy.