Ewch i’r prif gynnwys

Gwyliau Cymru

Byddwn yn mynychu gwahanol wyliau drwy Gymru benbaladr yr haf yma. Darganfyddwch y digwyddiadau a'r gweithgareddau cyffrous sydd gennym ar y gweill i chi yn ystod y gwyliau hyn.

Mae Tafwyl yn dod â'r gorau o gerddoriaeth, celfyddydau a diwylliant Cymraeg at ei gilydd yng nghalon ein prifddinas bob blwyddyn.

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod wythnos gyntaf mis Awst bob blwyddyn, ac mae'n ddathliad o'r celfyddydau, iaith a diwylliant Cymraeg.

Eisteddfod yr Urdd yw un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop sy'n dathlu ein diwylliant a'n hiaith.

Mae un o wyliau llenyddol mwyaf a gorau'r byd yn digwydd bob blwyddyn ar ddiwedd y gwanwyn yn nhref Y Gelli Gandryll.

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd ag ymwelwyr y gwyliau hyn fel y gallwn rannu gwybodaeth am ein gwaith drwy Gymru benbaladr a thu hwnt.

Newyddion diweddaraf

Gŵyl y Gelli

Arbenigwyr y Brifysgol yn rhannu barn, yn goleuo ac yn ysbrydoli yng Ngŵyl y Gelli 2023

26 Mai 2023

Bydd Cyfres Caerdydd yn dychwelyd i'r Gelli Gandryll

Myfyrwyr yn cerdded gyda'i gilydd

Myfyrwyr yn ymuno ag Urdd Gobaith Cymru i lansio neges wrth-hiliaeth

18 Mai 2023

Mae pobl ifanc Cymru yn galw am garedigrwydd a goddefgarwch i bawb

A singer stands on stage and sings in the foreground with a guitar player in the background

Cerddorion yr iaith Gymraeg a’r iaith Māori dan y llifolau

3 Mai 2023

Mae ymchwilwyr yn astudio beth mae'n ei olygu i fod yn perfformio mewn iaith leiafrifol