Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigwr yn trin a thrafod tafodieithoedd traddodiadol

21 Gorffennaf 2016

Iwan Rees

Mae ieithydd o Brifysgol Caerdydd yn astudio tafodieithoedd Cymraeg traddodiadol sydd ar fin diflannu yn yr ardal lle cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Gyda chymorth dau arbenigwr uchel ei barch, bydd Dr Iwan Wyn Rees, o Ysgol y Gymraeg, hefyd yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng tafodieithoedd traddodiadol a recordiwyd yn ardal y Fenni, ag ardaloedd eraill y wlad.

Meddai Dr Rees: "Yn dilyn poblogrwydd y drafodaeth banel a gafwyd y llynedd am dafodieithoedd Cymraeg Sir Drefaldwyn, bydd sesiwn eleni yn canolbwyntio ar dafodieithoedd sydd wedi'u recordio mewn ardaloedd ger y Fenni, gan gynnwys rhannau o Frycheiniog a Blaenau'r Cymoedd.

"Yn wahanol i'r sefyllfa yn Sir Drefaldwyn, fodd bynnag, mae'r tafodieithoedd Cymraeg yn yr ardaloedd hyn yn eithriadol o brin, neu wedi diflannu'n llwyr, oherwydd dirywiad y Gymraeg yn y rhannau hyn o Gymru.

"Oherwydd hynny, mae astudiaethau a gynhaliwyd yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif gan yr Athro Glyn Jones a Mary Wiliam, ymhlith eraill, yn amhrisiadwy ar gyfer ein dealltwriaeth o'r mathau o Gymraeg oedd yn cael ei siarad mewn ardaloedd sy'n aml yn cael eu disgrifio mannau 'Seisnigaidd' o Gymru."

Bydd yr Athro Jones, cyn-bennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, a Mrs Wiliam, cyn-guradur ac ymchwilydd tafodieithoedd yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, yn ymuno â Dr Rees ar gyfer trafodaeth banel yn yr Eisteddfod am 12:00, ddydd Gwener, 5 Awst.

Bydd Dr Rees yn cyflwyno trafodaeth arall y diwrnod hwnnw am 14:00 ym Mhabell Llenyddiaeth Cymru am TJ Morgan a'i recordiadau o 'siaradwyr Cymraeg olaf' ardal y Fenni. Roedd TJ Morgan yn Athro Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ac yn dad i gyn-Brif Weinidog Cymru.

Yn yr Eisteddfod y llynedd ym Meifod, Powys, defnyddiodd Dr Rees yr Eisteddfod i gasglu gwybodaeth am ddatblygiadau ieithyddol yng Nghymru.

"A minnau wedi bod yn canolbwyntio ar dafodieithoedd y canolbarth yn bennaf, mae pobl yn aml yn gofyn imi am y tebygrwydd rhwng nodweddion ieithyddol y canolbarth a'r 'Wenhwyseg', tafodiaith draddodiadol de-ddwyrain Cymru," meddai Dr Rees.

"Heb os nac oni bai, bydd yr Athro Jones a Mary Wiliam yn gallu taflu goleuni ar y materion hynod ddiddorol hyn, yn ogystal ag esbonio'r cysylltiad rhwng Cymraeg Sir Frycheiniog a'r mathau eraill o Gymraeg.

"Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at chwarae recordiadau TJ Morgan o'r bobl yr oedd ef yn eu hystyried fel 'siaradwyr Cymraeg olaf' ardal y Fenni.

"Cynhaliodd T J Morgan lawer o waith maes mewn ardaloedd lle'r oedd y Gymraeg yn dirywio. Rwyf yn siŵr y bydd y disgrifiad byw ganddo yn un o'i belles-lettres am sut yr oedd yn gweld y Gymraeg yn marw - profiad symbolaidd iddo ar y pryd - o ddiddordeb i siaradwyr Cymraeg heddiw ac yn eu synnu'n fawr."

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Nolydd y Castell, y Fenni, rhwng 29 Gorffennaf a 6 Awst.

Bydd pafiliwn y Brifysgol yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau gan gynnwys gweithgareddau i’r teulu, ffilmiau, lluniaeth a chyswllt diwifr am ddim.

Bydd gwybodaeth ar gael am sut mae'r Brifysgol yn helpu i roi hwb i economi Cymru ac yn cefnogi cymunedau ledled y wlad.

Bydd nifer o ddigwyddiadau'n rhan o'r Haf Arloesedd i ddathlu gwaith arloesol y Brifysgol. Bydd yn dod â phobl o feysydd academaidd a diwydiant gyda'i gilydd i greu a chryfhau cysylltiadau a phartneriaethau.