Ewch i’r prif gynnwys

Yr Haf Arloesedd

Haf cyfan o ddathlu gwaith arloesol y Brifysgol.

Rhwng mis Mehefin a mis Medi 2016, bydd yr Haf Arloesedd yn arddangos gwaith arloesol gorau Prifysgol Caerdydd. Bydd yn dwyn ynghyd academyddion, myfyrwyr a'r sectorau cyhoeddus a phreifat i gryfhau partneriaethau parod a chreu canlyniadau go iawn.

Bydd yr Haf Arloesedd yn rhoi sylw i syniadau ar gyfer prosiectau ymchwil, prosiectau cydweithredol, a chysylltiadau newydd, gan feithrin cysylltiadau'r Brifysgol â'r byd y tu allan, o bartneriaid ymchwil i fusnesau newydd.