Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn derbyn cyfran o fuddsoddiad gwerth £1 biliwn mewn hyfforddiant doethurol

14 Mawrth 2024

Menyw ifanc yn chwerthin wrth ddefnyddio offer labordy
Myfyriwr PhD yn cynnal arbrawf opteg cwantwm yn labordy’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yng Nghanolfan Ymchwil Drosi Prifysgol Caerdydd

Bydd Prifysgol Caerdydd yn arwain un o’r 65 o ganolfannau newydd a sefydlwyd i ddarparu hyfforddiant doethurol (CHD) fydd yn cefnogi ymchwil mewn meysydd o bwys cenedlaethol gan gynnwys deallusrwydd artiffisial (DA), technolegau cwantwm, lled-ddargludyddion, telathrebu a bioleg peirianneg.

Mae buddsoddiad mwyaf erioed y DU mewn sgiliau doethuriaeth peirianneg a’r gwyddorau ffisegol yn fwy na £1 biliwn, yn dilyn cyhoeddiad heddiw gan yr Ysgrifennydd Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, Michelle Donelan.

Bydd y CHD Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, yn cynnal ymchwil i wella’r ffordd y caiff lled-ddargludyddion eu dylunio, eu gweithgynhyrchu yn ogystal â’u cynaliadwyedd amgylcheddol. Mae hyn yn hollbwysig i dechnolegau’r presennol a’r dyfodol megis telathrebu capasiti uchel a’r genhedlaeth nesaf o gerbydau trydan.

Yr Athro Peter Smowton, Rheolwr-Gyfarwyddwr Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd, fydd yn arwain y CHD.

Dyma’r hyn a ddywedodd: “Mae deunyddiau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn dechnoleg alluogi allweddol sydd wrth galon ein cymdeithas fodern, gan drawsnewid effeithlonrwydd ynni. Maen nhw’n greiddiol i ddatblygiad, er enghraifft, y rhwydwaith 6G, synwyryddion cerbydau awtonomaidd, rhyngrwyd y pethau, goleuadau ynni effeithlon y dyfodol, cyfathrebu lloerenni a thechnegau delweddu newydd. Yn y bôn, mae’r dechnoleg hon yn cynnal ein byd cysylltiedig, ein hiechyd, ein diogelwch a’r amgylchedd.

Y cam nesaf yn y CHD fydd creu’r newid sylweddol sydd ei angen ym maes gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd i sicrhau technolegau’r genhedlaeth nesaf a hefyd ganolbwyntio ar ymgorffori effeithlonrwydd ynni ac adnoddau yn y prosesau gweithgynhyrchu hyn.
Yr Athro Peter Smowton Deputy Head of School and Director of Research

Gwyliwch fideo am Ystafell Lân y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ar YouTube

Dywed David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth y DU yn cefnogi Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd gyda'r cyllid hwn. Mae ein clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd blaenllaw yn Ne Cymru ar flaen y gad o ran technoleg sydd mor hanfodol i'n byd cysylltiedig modern. Bydd y buddsoddiad yn galluogi ymchwilwyr i wthio'r ffiniau ymhellach fyth wrth i'r dechnoleg hon ddatblygu.”

Bydd ymchwilwyr o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd hefyd yn dangos eu cefnogaeth i'r ganolfan hyfforddiant doethurol ym maes hedfanaeth sero net.

Dywedodd yr Athro Carol Featherston o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd: "Mae datgarboneiddio hedfanaeth yn her sylweddol, ac mae angen gwneud cynnydd yn gyflym wrth fynd i’r afael â hi dros y degawdau nesaf."

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar draws y sector i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr, a fydd yn helpu i ddatblygu’r technolegau sydd eu hangen yn y diwydiant hedfanaeth a chyflawni uchelgeisiau’r llywodraeth ar gyfer sero net.
Yr Athro Carol Featherston Professor

A hithau’n cael ei harwain gan Brifysgol Cranfield ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Strathclyde a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth Atmosfferig a hefyd ei chynnal mewn partneriaeth â’r diwydiant, bydd y ganolfan yn hyfforddi 64 o fyfyrwyr ac yn troi ymchwil yn atebion newydd at ddibenion datgarboneiddio hedfanaeth.

Bydd y ganolfan yn helpu i gyflawni strategaeth sero net y DU a strategaeth ‘Destination Zero’ y Sefydliad Technoleg Awyrofod. Bydd hefyd yn helpu i sefydlu’r DU yn ganolbwynt rhyngwladol ar gyfer technoleg, arloesedd ac addysg ym maes hedfanaeth sero net.

Mae’r canolfannau hyfforddiant doethurol yn cynrychioli buddsoddiad o £500 miliwn gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) a'r Weinyddiaeth Amddiffyn, yn ogystal â £590 miliwn ychwanegol gan brifysgolion a phartneriaid busnes.

Mae'r CHDau yn fuddsoddiad gan Ymchwil ac Arloesi’r (UKRI) y DU a'r Weinyddiaeth Amddiffyn gwerth £500 miliwn ynghyd â £590 miliwn yn ychwanegol gan brifysgolion a phartneriaid busnes.

Byddan nhw’n hyfforddi mwy na 4,000 o fyfyrwyr doethurol yn ystod y naw mlynedd nesaf, gan ehangu ar hanes hirsefydlog y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) o gefnogi hyfforddiant doethurol yn barhaus.

Ychwanegodd yr Athro Charlotte Deane, Cadeirydd Gweithredol yr EPSRC: “Bydd y Canolfannau Hyfforddiant Doethurol a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i baratoi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ac arbenigwyr byd diwydiant ar draws ystod eang o sectorau a diwydiannau.

“Gan rychwantu lleoliadau ar draws y DU ac ystod eang o ddisgyblaethau, mae’r canolfannau newydd yn enghraifft fyw o ddyfnder arbenigedd a photensial y DU, a bydd hyn yn ein helpu i fynd i’r afael â heriau cymhleth ar raddfa fawr ac a fydd o fudd i’r gymdeithas a’r economi.

“Mae safon uchel y canolfannau a’r ymgeiswyr newydd yn dyst i’r doreth o ragoriaeth ymchwil ar draws y DU, a rôl yr EPSRC yn rhan o UKRI yw buddsoddi yn y rhagoriaeth hon i ehangu gwybodaeth a sicrhau cenedl gynaliadwy, wydn a llewyrchus. ”

Rhannu’r stori hon

The institute provides cutting-edge facilities to help researchers and industry work together.