Ewch i’r prif gynnwys

Cyn-fyfyriwr pensaernïaeth yn cael ei gydnabod gyda gwobr ryngwladol ar gyfer cynaliadwyedd

6 Chwefror 2024

Cyflwynwyd y Wobr Gwyddoniaeth a Chynaliadwyedd i gyn-fyfyriwr Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Dr Hashem Taher (MSc 2017) yng Ngwobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK yr Aifft.

Mae’r gwobrau, a drefnir gan y Cyngor Prydeinig, yn taflu goleuni ar effaith cyn-fyfyrwyr o brifysgolion y DU sy’n byw y tu allan i’r DU. Lansiwyd degfed flwyddyn Gwobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK yn y noson wobrwyo yn yr Aifft.

Enillodd Dr Taher y Wobr Gwyddoniaeth a Chynaliadwyedd. Mae’r wobr hon yn cydnabod y cyn-fyfyrwyr hynny sy’n gallu dangos cyfraniad cadarnhaol sylweddol ym myd gwyddoniaeth a chynaliadwyedd, gyda ffocws penodol ar feysydd megis camau er budd yr hinsawdd, ynni glân, meddygaeth, dinasoedd a chymunedau cynaliadwy, peirianneg, diwydiant ac adeiladu.

Astudiodd Dr Taher Fega-Adeiladau Cynaliadwy yn ystod ei gyfnod yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Yna aeth i Brifysgol Dwyrain Llundain i gynnal ymchwil PhD. Trwy ei ffocws ar ddatblygu coridorau gwyrdd, mae’n gallu hawlio ei fod wedi effeithio'n anuniongyrchol ar 9.8 miliwn o drigolion Llundain, yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar ddegau o filoedd sy'n wynebu llygredd a straen thermol.

Dywedodd TJ Rawlinson, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr:

Mae Prifysgol Caerdydd yn falch iawn o Dr Taher. Mae wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol o Lundain i Cairo, ac mae’n hyrwyddwr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn falch iawn ei fod wedi gweithredu ar yr hyn a ddysgodd yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, ag yntau nawr yn sylfaenydd Ysgol y Celfyddydau Creadigol yn yr Aifft, mae mewn sefyllfa unigryw i sicrhau bod gwerthoedd Caerdydd yn parhau ac yn cael eu meithrin yn y genhedlaeth nesaf o arweinwyr. Llongyfarchiadau cynnes.
TJ Rawlinson Cyfarwyddwr

Rhannu’r stori hon

Byddem wrth ein bodd yn clywed am daith eich bywyd ers eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd. Rhannwch eich hoff atgof, taith eich gyrfa neu’r cyngor y byddech yn ei roi o wybod yr hyn rydych yn ei wybod nawr!