Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect treftadaeth gymunedol yn mynd o nerth i nerth

17 Hydref 2023

Mid shot man smiling at camera with archaeological dig in the background
Students and volunteers are working with archaeologists on the four-week dig. Pic credit: Oliver Davis

Mae prosiect cymunedol sydd wedi ysbrydoli trigolion i ymchwilio i'r 6,000 o flynyddoedd o hanes ar garreg eu drws wedi cael hwb ariannol.

Partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), ysgolion a thrigolion lleol yn ogystal â phartneriaid treftadaeth yw Prosiect Treftadaeth Ailddarganfod Trelái a Chaerau (CAER). Canolbwynt y prosiect yw Bryngaer Caerau, safle treftadaeth o arwyddocâd cenedlaethol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r prosiect wedi derbyn cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i adeiladu canolfan dreftadaeth gymunedol CAER. Ymhlith yr ystod o weithgareddau eraill y mae’r cloddfeydd archaeolegol ym Mharc Trelái gerllaw a ddatgelodd yr hyn y tybir mai ef yw’r tŷ hynaf yng Nghaerdydd, yn ogystal â nifer o arteffactau sydd wedi'u cadw'n dda. Ymhlith y llwyddiannau eraill sy'n gysylltiedig â'r prosiect mae nifer o ysgoloriaethau a llwybrau’r Brifysgol at fyd addysg uwch.

Er mwyn ehangu ar y llwyddiant hwn a sicrhau cynaliadwyedd y tu hwnt i gyllid y Loteri Genedlaethol, mae Prifysgol Caerdydd wedi gwneud ymrwymiad pellach i'r prosiect, sef creu dwy swydd amser llawn yng nghanol Caerau yng Nghanolfan CAER, a bydd rheolwr partneriaethau cymunedol a rheolwr datblygu’r ganolfan yn gweithio i feithrin mentrau newydd a chyfredol er budd y gymuned.

Dyma a ddywedodd Michelle Powell o sefydliad datblygu cymunedol ACE: "Dyma newyddion hynod o dda i ACE, prosiect CAER a'n cymunedau. Mae ein partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd mor werthfawr gan ei bod yn seiliedig ar berthnasoedd hirdymor ac ymddiriedaeth sydd wedi datblygu ers nifer o flynyddoedd, gan ein galluogi i gyflawni pethau anhygoel - gan ddod â'r Brifysgol i galon y cymunedau hyn er budd pawb. Bydd y swyddi amser llawn newydd hyn yn golygu ein bod yn gallu sicrhau bod Canolfan CAER yn ganolfan dysgu a darganfod, gan agor cyfleoedd newydd i bobl o bob oed tra ein bod yn ehangu ac yn datblygu partneriaethau newydd."

Myfyriwr yn y flwyddyn gyntaf ar Gwrs BA Hanes yr Henfyd ac Archaeoleg yw Scott Bees, 34. Yn gyn-bostmon, penderfynodd astudio gradd ar ôl derbyn bwrsariaeth Treftadaeth gan CAER i gwblhau rhaglen llwybr Archwilio'r Gorffennol y Brifysgol.

Dyma a ddywedodd: “Mae treftadaeth ein hardal yn golygu llawer i’r gymuned ac wedi bod yn llwyddiant ysgubol wrth ddod â phawb at ei gilydd. Mae prosiect CAER wedi rhoi cymaint o wybodaeth inni am ein hanes ac o ble rydyn ni'n dod ond mae cymaint sydd heb ei ddweud o hyd. Mae’n gyffrous iawn meddwl i ble bydd y prosiect yn mynd o fan hyn.”

Dyma a ddywedodd cyd-gyfarwyddwr Prosiect CAER, Dr David Wyatt: "Mae'r ymrwymiad sylweddol hwn gan Brifysgol Caerdydd i ddyfodol ein prosiect yn newyddion gwych i'r gymuned ac yn dyst i'r hyn y mae trigolion a gweithwyr cymunedol wedi'i gyflawni ers i'r prosiect ddechrau yn 2011. Mae maint a chwmpas CAER wedi ffynnu, diolch i egni a brwdfrydedd pobl Caerau a Threlái. Mae dod o hyd i ardal sydd â threftadaeth mor eithriadol o gyfoethog yn brin; ond yr hyn sy'n brinnach byth yw dod o hyd i gymuned sydd mor angerddol am ddefnyddio'r hanes hwnnw i greu newidiadau cadarnhaol a chyfleoedd newydd yn y presennol.

Ychwanegodd cyd-gyfarwyddwr Prosiect CAER, Dr Oliver Davis: “Mae cynifer o bobl wedi cael eu hysbrydoli i fynd i fyd addysg bellach ac uwch ar ôl ymwneud â’r prosiect. Mae cynlluniau dirifedi megis arddangosfeydd a gweithgareddau creadigol wedi codi proffil yr ardal, gan amlygu’r potensial anhygoel. Ar ben hynny, rydyn ni wedi gwneud rhai darganfyddiadau cyffrous sy'n cael effaith wirioneddol ar ymchwil academaidd a'n dealltwriaeth o hanes de Cymru. Rwy ar bigau’r drain i weld beth fydd yn digwydd nesaf."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.