Ewch i’r prif gynnwys

“Mae’r Gymraeg yn iaith ar gyfer gwyddoniaeth”

19 Gorffennaf 2023

Dyn ifanc yn gwisgo gŵn doethurol Prifysgol Caerdydd o liw gwyrdd, coch a gwyn gyda bonet ddu.
"Byddwn yn annog unrhyw un i ymuno â'r gymuned honno," cyngor Owain Beynon i'r rhai sy'n ystyried astudio gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Myfyriwr doethurol o Gaerfyrddin fydd y person cyntaf yn hanes 140-mlynedd Prifysgol Caerdydd i gwblhau PhD ym maes Cemeg yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg pan fydd yn graddio heddiw.

Dywedodd Owain Beynon, siaradwr Cymraeg iaith gyntaf a chyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Sir Gaerfyrddin, ei fod yn “ddewis naturiol” cwblhau ei PhD yn y Gymraeg.

Mae Owain, a wnaeth gyfraniad unigryw at faes cemeg catalytig pan amddiffynnodd ei draethawd ymchwil yn rhan o’i arholiad llafar yn gynharach eleni, yn credu ei bod yn bwysig dangos bod “Cymraeg yn iaith ar gyfer gwyddoniaeth”.

Meddai: “Mae’n ymddangos bod syniad ym myd addysg uwch ac mewn ysgolion uwchradd mai Saesneg yw unig iaith gwyddoniaeth, gan fod myfyrwyr yn troi at y Saesneg os ydyn nhw am astudio gwyddoniaeth yn y brifysgol neu ystyried dilyn gwyddoniaeth yn eu gyrfa.

"Yn bersonol, rwy'n credu ei bod yn bwysig i mi ddangos bod y Gymraeg yn iaith ar gyfer gwyddoniaeth a bod cwblhau astudiaethau ac ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg nid yn unig yn bosibl ond hefyd yn gyffrous."

Owain Beynon

Yn ei draethawd ymchwil ‘Astudiaeth Gyfrifiadurol o Synthesis a Sefydlogrwydd Defnyddiau Mandyllog Anorganig’, defnyddiodd Owain wyddoniaeth gyfrifiadurol i weld sut y gellid defnyddio deunyddiau mandyllog ar gyfer prosesau ynni gwyrdd a chemeg gynaliadwy.

Ariannwyd PhD Owain drwy gynllun Ysgoloriaeth Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd â’r nod o gefnogi myfyrwyr PhD i gynnal ymchwil ac ysgrifennu traethawd ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn rhan o’i astudiaethau, bu i Owain ganfod bylchau yn nherminoleg wyddoniaeth y Gymraeg

Gweithiodd gyda therminolegwyr ym Mangor i greu termau newydd, a gyda chymorth gan y gymuned gemeg Gymraeg ehangach, ychwanegodd Owain dermau newydd at y geiriadur Cymraeg ym maes gwyddoniaeth.

Ymhlith y rhain mae:

  • “damcaniaeth d wysedd f fwythianolion” sef “density functional theory”
  • “brasamcan graddiant cyffredinol” sef “general gradient approximation”
  • “dull gwahaniaeth feidraidd” sef “finite difference method”

Meddai: “Drwy gynnal fy ymchwil yn y Gymraeg, cefais fynediad at gymuned gefnogol o ymchwilwyr.

“Drwy’r Coleg, llwyddais i ymgysylltu â rhwydwaith o wyddonwyr ac academyddion Cymraeg eu hiaith a chefais gyfle i fynd i seminarau a chynadleddau gan gyflwyno fy ymchwil yn y rhain, a lle gallwn wrando ar drafodaethau ar wyddoniaeth wirioneddol arloesol a chyffrous trwy gyfrwng y Gymraeg, a chymryd rhan ynddynt.

“Byddwn yn annog unrhyw un i ymuno â’r gymuned honno.”

Dywedodd yr Athro Damien Murphy, Pennaeth Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd: “Wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd yn 140 oed eleni, mae llwyddiannau Owain yn garreg filltir arwyddocaol i’r Ysgol.

"Mae'n dyst i'r cyfraniadau hirsefydlog y mae ein hysgol wedi'u gwneud i addysg uwch ac ymchwil yma yng Nghymru. A nawr, mae Owain wedi dangos sut y gallwn wneud cyfraniadau pellach drwy ein cefnogaeth ddiysgog i'r Gymraeg ym maes y gwyddorau cemegol."

Yr Athro Damien Murphy Athro Cemeg Ffisegol

“Rydym yn disgwyl mai Owain fydd y cyntaf o blith nifer i gael eu harholi drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Hoffwn estyn fy llongyfarchiadau iddo ar amddiffyn ei draethawd ymchwil yn llwyddiannus a diolch i’r pwyllgor arholi a’r Coleg yn arbennig am eu cefnogaeth.”

Bellach yn gydymaith ymchwil ôl-ddoethurol yn y Sefydliad Darganfod Deunyddiau yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL), mae Owain yn parhau â’i ymchwil ar ddeunyddiau, gan ddefnyddio dulliau cyfrifiadurol a dulliau a yrrir gan ddata.

“Mae pawb yma yn UCL wedi bod yn gefnogol, yn frwdfrydig ac yn meddwl ei bod yn ddiddorol iawn ac yn cŵl fy mod wedi cwblhau fy noethuriaeth yn y Gymraeg.

“Mae fy mhrofiad i yn dangos nad yw’r Gymraeg yn rhwystr i unrhyw fath o gyflawniad na dyhead chwaith o ran eich gyrfa wyddonol wedi hynny,” ychwanegodd Owain.

Rhannu’r stori hon

Mae gwaith ymchwil ac addysg yr Ysgol ar flaen y gad yn rhyngwladol ac yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau gwyddonol pwysig yr 21ain ganrif.