Ewch i’r prif gynnwys

Cymrodyr er Anrhydedd yn dathlu gyda myfyrwyr yn seremonïau graddio Prifysgol Caerdydd

17 Gorffennaf 2023

Honorary Fellows 2023

Bydd enwau o bwys o fyd y cyfryngau, y celfyddydau, gwleidyddiaeth a'r byd academaidd yn mynd yn Gymrodyr er Anrhydedd yn seremonïau graddio Prifysgol Caerdydd a gynhelir yr wythnos hon. (Gorffennaf 17-21)

Cyn-fyfyrwyr yw llawer o'r rheini fydd yn casglu'r gymrodoriaeth sy’n cael ei rhoi i bobl sy'n rhagori yn eu maes.

Dyma a ddywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan: “Rwy’n llongyfarch ein Cymrodyr Er Anrhydedd 2023, gan fod pob un ohonynt wedi cyflawni mewn ffordd nodedig yn ei briod faes. Bydd llawer o'n cymrodyr wedi dechrau eu gyrfaoedd drwy ddewis astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Dwi'n amau dim y bydd hanes eu llwyddiant yn ysbrydoli graddedigion eleni wrth iddynt ddechrau ar eu llwybrau eu hunain, ni waeth beth fo’u dewisiadau nesaf."

Y Cymrodyr er Anrhydedd eleni yw:

Elis James (BScEcon 2002, MA 2005)

Elis James

Cyn-fyfyriwr israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd yw'r digrifwr a'r darlledwr Elis James. Yn gefnogwr chwaraeon brwd, mae Elis yn cyflwyno Fantasy Football League ar Sky ar y cyd â Matt Lucas, The Socially Distant Sports Bar gyda Mike Bubbins a Steff Garrero, y Feast of Football i BBC Radio Wales a Football Weekly yn The Guardian.

Yn 2018, cyhoeddodd Elis Holy Vible a ysgrifennodd ar y cyd â John Robins. Ers hynny, maen nhw wedi cyflwyno’r Friday Afternoon Show ar BBC 5 Live gyda'i gilydd. Mae’n golofnydd cyson yn The Guardian lle bydd yn ysgrifennu am bêl-droed Cymru.

Beverley Humphreys MBE (BA 1968)

Beverley Humphreys

Mae gyrfa Beverley Humphreys yn rhychwantu Opera Cenedlaethol Cymru, cymryd rhan mewn cyngherddau a chynnal sioeau un fenyw, gan groesi’r ffiniau rhwng opera, theatr gerdd, jazz a chomedi. Mae’r gyn-fyfyrwraig o Brifysgol Caerdydd wedi mynd ar daith gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac yn aml bydd yn arwain Sunday Worship a Prayer for the Day ar BBC Radio 4.

Mae Beverley yn eirioli dros gyfiawnder hiliol, a hi yw Cadeirydd Prosiect Digartrefedd Pontypridd a’r elusen iechyd meddwl Growing Space. Mae’n aelod o fwrdd cynghori Mencap Cymru, yn curadu arddangosfa Let Paul Robeson Sing, yn gweithio gyda’r Cynllun Ailsefydlu Pobl sy’n Agored i Niwed ac yn oedolyn y gellir ymddiried ynddo ar gyfer saith ffoadur.

Rhodri Talfan Davies (PgDip 1993)

Rhodri Talfan Davies

Dechreuodd gyrfa Rhodri ym mhapur newydd y Western Mail ar ôl astudio ar gyfer Diploma Ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Ym 1993, ymunodd â'r BBC yn hyfforddai a threuliodd yr wyth mlynedd nesaf yn gohebu ac yn cynhyrchu yn Lloegr. Bellach, ef yw Cyfarwyddwr Gwledydd y BBC, ac mae Rhodri yn arwain gwaith y darlledwr gan wasanaethu’r cenhedloedd a’r cynulleidfaoedd lleol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Professor Karen Holford CBE FREng FIMechE FLSW FWES (BEng 1984, PhD 1987)

Professor Karen Holford

Is-Ganghellor Prifysgol Cranfield yw'r Athro Karen Holford. Yn ddeiliad y CBE, mae ei gyrfa ym maes peirianneg yn rhychwantu byd diwydiant a’r byd academaidd gan ddechrau yn Rolls-Royce yn fyfyrwraig israddedig cyn gwneud ei gradd a’i PhD ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn Rolls-Royce cyfrannodd at brosiectau technegol gan gynnwys datblygu peiriannau Adour a Pegasus.

Pan oedd yn uwch-beiriannydd yn AB Electronic Products Ltd. arweiniodd yr Athro Holford y gwaith o ddylunio a datblygu cynnyrch newydd ar gyfer BMW a Jaguar Land Rover. Dychwelodd i Brifysgol Caerdydd yn 1990, a hi oedd y Dirprwy Is-Ganghellor o 2017.

Nneka Akudolu (LLB 2001, PgDip 2002)

Nneka Akudolu

Yn un o saith yn unig o Gwnsleriaid y Brenin sy’n fenywod Du yn y DU, tyngwyd Nneka Akudolu yn Sidanwr yn 2022 ac mae'n arbenigo ym maes cyfraith droseddol. Ar ôl gadael yr ysgol heb yr un Safon Uwch, cwblhaodd Nneka gwrs Mynediad cyn dewis Prifysgol Caerdydd i wneud ei gradd.

Hanner ffordd trwy ei gradd, rhoddodd enedigaeth i'w merch a pharhaodd gyda'i hastudiaethau. Yn dilyn ei hyfforddiant, sicrhaodd Nneka dymor prawf yn 5 King’s Bench Walk ac mae wedi bod yn fargyfreithiwr trosedd ers hynny.

Professor Peter Katjavivi

Professor Peter Katjavivi

Gwleidydd o Namibia yw’r Athro Peter Katjavivi. Ar hyn o bryd, ef yw Llefarydd Cynulliad Cenedlaethol Namibia ac yn Aelod Seneddol yno. Bu’n chwarae rhan amlwg yn y broses o ryddhau Namibia, gan feithrin cymorth rhyngwladol drwy weithgarwch diplomyddol.

Ef oedd Is-Ganghellor Sefydlol Prifysgol Namibia, swydd a ddaliodd tan 2003. Ef hefyd yw Canghellor cyntaf a phresennol Prifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Namibia.

Professor Stuart Palmer DSc CPhys FInstP FREng FLSW

Professor Stuart Palmer

Ffisegydd yw'r Athro Stuart Palmer y mae ei ymchwil yn ymwneud â defnyddio laserau, uwchsain a magnetedd i fynd i'r afael â heriau ym myd diwydiant a meddygaeth. Bu'n Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Warwick am fwy na deng mlynedd. Yn 2014, ymunodd yr Athro Palmer â Chyngor Prifysgol Caerdydd a daeth yn Gadeirydd yn 2016 cyn trosglwyddo’r awenau i Pat Younge yn 2022. Ef bellach yw cadeirydd Cyngor Prifysgol Brunel yn Llundain.

Nina Zhang (MSc 2005, PhD 2011)

Nina Zhang

Nina Zhang yw Is-lywydd Gweithredol, Rheolwr Gyfarwyddwr a Phennaeth Banc Masnachol Citi China. A hithau wedi'i lleoli yn Shanghai, mae'n gyfrifol am holl fusnesau a gweithrediadau Banc Masnachol Citi yn Tsieina. Cyn hyn, Nina oedd Pennaeth Risg Banc Masnachol Citi China, lle bu’n goruchwylio’r gwaith o reoli risg portffolios banciau masnachol yn Tsieina. Cyn ymuno â Citi, roedd gan Nina nifer o rolau rheoli ym maes credyd, benthyciadau a pherthnasoedd â chleientiaid ym Manc Diwydiannol a Masnachol Tsieina a China Everbright Bank. Mae ganddi PhD Bancio a Chyllid a gradd Meistr Economeg Ryngwladol, Bancio a Chyllid o Ysgol Busnes Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Byddwn yn dal awyrgylch #GraddCdydd ledled y campws a'r ddinas ac yn rhannu lluniau y tu ôl i'r llenni mewn cyhoeddiadau, a thrwy lygaid myfyrwyr. Ychwanegwch #GraddCdydd i'ch cyhoeddiadau a byddwn yn rhannu ein ffefrynnau. Cewch hyd i ni ar Instagram, Facebook a Twitter.