Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaeth i Raddedigion Bell Burnell i ffisegydd o Gaerdydd

11 Gorffennaf 2023

Ymchwilydd ôl-raddedig benywaidd mewn labordy yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd.
Yn ôl Clara Cafolla-Ward, enillydd cyllid Cronfa Ysgoloriaeth i Raddedigion Bell Burnell 2023, mae’r gronfa’n ymwneud â rhoi’r un chwarae teg i unrhyw un a gaiff ei ystyried yn wahanol i’r arfer.

Mae myfyriwr ymchwil o Brifysgol Caerdydd wedi'i enwi ymhlith y rhai sy'n derbyn cyllid ysgoloriaeth fawreddog sydd â'r nod o wella amrywiaeth ym maes ffiseg.

Mae Clara Cafolla-Ward, sy'n astudio PhD yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, yn un o ddeg ymchwilydd ôl-raddedig i dderbyn cyllid gan Gronfa Ysgoloriaeth i Raddedigion Bell Burnell.

Dyfarnwyd y cyllid gan y Sefydliad Ffiseg (IOP), ac mae'n cynnig ysgoloriaethau doethurol i grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd yn y gymuned ymchwil ffiseg gan gynnwys menywod, pobl â statws ffoadur, lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl neu fyfyrwyr dan anfantais ariannol - ac eraill a fyddai fel arall yn cael trafferth cwblhau cwrs astudio ôl-raddedig oherwydd eu hamgylchiadau.

Mae PhD Clara yn canolbwyntio ar ffiseg mater cywasgedig. Meddai: “Bydd y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr gan nad oes gen i unrhyw ffordd arall o gefnogi fy hun yn ariannol. Rwy'n ddiolchgar iawn.

“Mae Cronfa Ysgoloriaeth i Raddedigion Bell Burnell wirioneddol yn estyn allan i ystod eang o amrywiaeth. Mae'n ymwneud â rhoi’r un chwarae teg i unrhyw un a gaiff ei ystyried yn wahanol i’r arfer.

“Mae gan bob unigolyn ei brofiad a'i bersbectif ei hun sy'n creu cyfraniad unigryw a gwerthfawr. Mae ffiseg yn herio pob rhagdybiaeth - i wneud hyn, mae angen ystod o safbwyntiau. Felly mae'r ymgyrch tuag at ddeall ein realiti ffisegol yn gofyn am amrywiaeth o bobl i edrych arno.”

Clara Cafolla-Ward

Sefydlwyd y gronfa gan y ffisegydd blaenllaw, yr Athro Fonesig Jocelyn Bell Burnell, a'r IOP yn 2019 ar ôl i'r Fonesig Jocelyn dderbyn y Wobr Torri Drwodd Arbennig mewn Ffiseg Sylfaenol am ei gwaith wrth ddarganfod pylsarau.

Rhoddodd y Fonesig Jocelyn ei gwobr gyfan o £2.3 miliwn i'r IOP ar unwaith. Ei nod oedd helpu i daro'n ôl yn erbyn yr hyn a ddisgrifiodd fel “y rhagfarn anymwybodol sy'n dal i fodoli ym maes ymchwil ffiseg”, gan ychwanegu: "Does dim angen yr arian arna i fy hun, ac roedd yn ymddangos i mi mai dyma'r defnydd gorau y gallwn ei wneud ohono efallai."

Hyd yn hyn, mae'r gronfa wedi galluogi 31 o fyfyrwyr na fydden nhw wedi gallu dechrau PhD fel arall i wneud hynny.

“Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i sicrhau bod ffiseg yn hygyrch fel bod pobl o ystod o gefndiroedd yn gallu gweld pa mor ddiddorol yw'r ddisgyblaeth mewn gwirionedd. Ar yr un pryd gallen nhw hefyd gyfrannu eu set unigryw o sgiliau a safbwyntiau yn rhan o'u hastudiaethau a, gobeithio, eu gyrfaoedd.”

Yr Athro Haley Gomez Head of Public Engagement, School of Physics and Astronomy

“Rydyn ni’n cymryd y math hwn o ehangu mynediad o ddifrif yma yng Nghaerdydd ac mae'n llywio ein rhaglenni allgymorth mewn ysgolion a chymunedau ledled de Cymru.

“Felly, ar ran pawb yn yr ysgol, llongyfarchiadau mawr i Clara am sicrhau'r cyllid pwysig hwn gan yr IOP i ddilyn ei hymchwil PhD.

“Edrychaf ymlaen at ddilyn ei chynnydd!”

Rhannu’r stori hon

Ar hyn o bryd, rydym yn gwahodd ceisiadau ar gyfer nifer o ysgoloriaethau EPSRC wedi'u hariannu'n llawn ac sydd ar gael o 1 Hydref ymlaen mewn ystod o feysydd ymchwil.