Ewch i’r prif gynnwys

Cyflawni sero net gan ddefnyddio amonia

5 Gorffennaf 2023

O'r chwith i'r dde: Dr. Syed Mashruk a'r Athro Agustin Valera-Medina (Prifysgol Caerdydd), James Rudman a Muhammad Taufiq (Flogas) a Ross Docherty (Protech)

Mae boeler amonia, y cyntaf o’i fath ac a fydd yn helpu busnesau a diwydiannau i gyrraedd eu targedau sero net, wrthi’n cael ei ddatblygu’n rhan o brosiect ymchwil newydd gwerth £3.7m.

Bydd y brosiect ddwy flynedd, o dan arweiniad academyddion yn Sefydliad Arloesedd Sero Net Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â Flogas Britain – arweinydd y farchnad o ran darpariaeth ynni oddi ar y grid – yn cynhyrchu boeler tanwydd amonia a fydd yn gallu bodloni gofynion gwresogi diwydiannol tra'n cynnig ateb technegol ymarferol i ddatgarboneiddio.

Ar hyn o bryd, mae tua 4.5m tunnell o olew yn cael ei ddefnyddio yn y farchnad ddiwydiannol oddi ar y prif gyflenwad bob blwyddyn yn y DU. Mae'r prosesau hyn, sy’n ddwys o ran ynni, yn cyfrannu at allyriadau, sef 14.2 tunnell fetrig o CO2 y flwyddyn. Mae datgarboneiddio'r safleoedd hyn yn her sylweddol a dybryd.

Dyma a ddywedodd Dr Syed Mashruk o Sefydliad Arloesi Sero Net a’r Ysgol Peirianneg a fydd yn arwain y prosiect: “Mewn byd sero net, mae’n rhaid i danwydd sy’n gost-effeithiol ac yn ddi-garbon gymryd lle’r olew a ddefnyddir gan fusnesau a byd diwydiant.

Mae amonia gwyrdd yn danwydd amgen addawol. Gellir ei ddosbarthu'n rhwydd a'i storio'n rhad, gan ddefnyddio seilwaith sydd wedi'i hen sefydlu yn y sector gwrtaith. Fodd bynnag, mae rhwystrau technegol wrth hylosgi amonia yn golygu nad yw boeleri amonia ar gael ar y farchnad eto.
Dr Syed Mashruk Research Associate

Mae'r tîm ymchwil eisoes wedi dangos bod gan foeleri tanwydd amonia gryn nifer o fanteision dros atebion carbon isel eraill. Maen nhw wedi datblygu dyluniad arloesol ar gyfer y boeler, gan oresgyn dwy her allweddol sy'n gysylltiedig â hylosgi amonia: cyflymder isel y fflamau a sefydlogrwydd; a chynnydd o ran allyriadau nitrogen ocsid.

Bydd yr ymchwil newydd yn ehangu ar y gwaith hwnnw ac yn ystod y ddwy flynedd nesaf, nod y tîm yw dangos bod ei ddyluniad yn gweithio mewn lleoliad diwydiannol.

Ychwanegodd Dr Mashruk: “Diben ein prosiect yw datblygu technoleg hylosgi amonia a all ddefnyddio amonia gwyrdd sy’n danwydd gan gyfrannu at dargedau sero net. Yn ystod y prosiect hwn, byddwn ni’n creu ein dyluniad cysyniadol ar gyfer boeler ager 1 MW sy’n defnyddio amonia, gan greu prototeip a'i brofi a'i wella'n drylwyr.

“Erbyn diwedd y prosiect, ein nod yw cael boeler sy’n addas i’w fasnacheiddio ac sydd ond yn defnyddio amonia gwyrdd a di-garbon, a bydd Flogas Britain yn ei gyflenwi wedyn i gwsmeriaid yn opsiwn gwresogi diwydiannol oddi ar y grid.”

Dywedodd James Rudman, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Flogas: “Mae'r diwydiant oddi ar y prif gyflenwad yn y DU yn hynod anodd ei ddatgarboneiddio, ac mae llawer ohono yn dal i gael ei bweru gan olew carbon-drwm, felly mae dod o hyd i ddewisiadau amgen, glanach a gwyrddach yn her sylweddol.

“Mae LPG yn danwydd pontio ardderchog i ddefnyddwyr olew, gan leihau carbon gan 20% * yn ogystal ag allyriadau llygredig eraill — ond er mwyn helpu busnesau oddi ar y grid i gyrraedd yr holl ffordd i sero net, rydym yn ehangu ein portffolio o ynni adnewyddadwy, gan gynnwys amrywiaeth o nwyon gwyrdd.

“Mae amonia yn rhan allweddol o hyn; credwn ei fod yn opsiwn adnewyddadwy grymus ac effeithiol iawn ar gyfer diwydiant oddi ar y grid, ac yn un hynod gost-effeithiol hefyd. Hefyd, bydd busnesau sy'n rhedeg ar LPG nawr yn medru newid i amonia yn y dyfodol drwy addasu offer.”

Yn rhan o'r astudiaeth, bydd Canolfan Ragoriaeth newydd ar Dechnolegau Amonia yn cael ei chreu yn y Sefydliad Arloesi Sero Net, gan ddatblyguarbenigedd a chyfleusterau hylosgi amonia y Brifysgol sydd eisoes yn arwain y byd.

Mae'r brosiect, a elwir yn Amburn, yn cael ei hariannu gan yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net yn rhan o'r Gystadleuaeth Newid Tanwydd Diwydiannol gwerth £55 miliwn, o dan y Portffolio Arloesedd Sero Net gwerth £1 biliwn a bydd yn dod i ben yn gynnar yn 2025.