Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr yn gwneud methanol ar dymheredd ystafell

22 Medi 2023

A scientist operating an instrument in Cardiff University's Translational Research Hub laboratories.
Working out of state-of-the-art labs at Cardiff University’s Translational Research Hub, the Cardiff team shared their expertise in catalyst design and advanced characterisation techniques.

Mae dull mwy cynaliadwy o greu methanol – elfen allweddol o danwydd, plastigion a meddyginiaethau – wedi’i ddatblygu gan wyddonwyr Prifysgol Caerdydd a thîm rhyngwladol o gydweithwyr.

Mae'r broses, sy'n defnyddio catalydd hynod weithgar, yn trosi ocsigen a'r nwy naturiol methan yn fethanol ar dymheredd ystafell heb fod angen ffynonellau ynni allanol megis golau neu drydan.

Mae'r datblygiad arloesol yn adeiladu ar ymdrechion tîm Caerdydd i symud i ffwrdd o brosesau costus sy'n defnyddio llawer o ynni trwy ddatblygu dulliau catalytig newydd gyda’r diwydiant a hyrwyddo'r defnydd o gatalysis yn dechnoleg gynaliadwy ar gyfer yr 21ain ganrif.

Mae eu canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn Nature Catalysis, yn gam sylweddol tuag at gynhyrchu methanol glanach a gwyrddach y gellid, gyda datblygiad pellach, ei ddefnyddio mewn prosesau diwydiannol ledled y byd.

Dywedodd yr Athro Graham Hutchings, Athro Regius mewn Cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac awdur cydweithredol ar y papur: “Mae canfod catalyddion newydd ac effeithiol ar gyfer synthesis methanol o fethan yn hollbwysig i ddarparu llwybrau newydd ar gyfer y diwydiant cemegol modern.”

Mae’r astudiaeth yn gydweithrediad rhyngwladol rhwng Canolfan Max Planck ar Hanfodion Catalysis Heterogenaidd, y Sefydliad Arloesedd Sero Net sydd newydd ei sefydlu ym Mhrifysgol Caerdydd a sefydliadau tramor.

Gan weithio yn labordai o’r radd flaenaf yng Nghanolfan Ymchwil Drosi Prifysgol Caerdydd, rhannodd tîm Caerdydd eu harbenigedd ym maes dylunio catalyddion a thechnegau nodweddu uwch, a chwaraeodd rôl sylfaenol wrth ddeall sut mae’r catalydd yn gweithredu a sut y gellir ymestyn ei oes.

Ychwanegodd y cyd-awdur Dr Andrea Folli, Cymrawd Ymchwil y Brifysgol mewn Electrocatalysis yn y Sefydliad Arloesedd Sero Net: “Gall y darganfyddiad fod yn gam sylweddol tuag at economi tanwydd cynaliadwy sy’n seiliedig ar fethanol, gan ddefnyddio digonedd o fethan yn borthiant.

“Ar yr un pryd, mae’n rhoi’r cyfle i sefydlu economi gylchol sy’n cynnwys nwy tŷ gwydr critigol.

“Mae potensial cynhesu byd-eang methan 25 gwaith yn fwy na charbon deuocsid felly mae hwn yn gam hanfodol tuag at gyflawni sero net erbyn 2050.”

Mae'r papur, 'H2-reduced phosphomolybdate promotes room-temperature aerobic oxidation of methane to methanol' wedi'i gyhoeddi yn Nature Catalysis.

Rhannu’r stori hon

Dewch i wybod rhagor am ein sefydliadau a'r gwaith y maent yn ei wneud.