Ewch i’r prif gynnwys

Y Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd yn arddangos llwyddiannau diweddar

5 Gorffennaf 2023

Mae ymchwil Prifysgol Caerdydd i harneisio a deall y system imiwnedd yn sicrhau iechyd cyhoeddus byd-eang.

Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o fod wedi arddangos gwaith y Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd mewn digwyddiad diweddar. Mae'r sefydliad yn ganolfan arbenigedd ar gyfer imiwnoleg ac imiwnotherapi. Gan ganolbwyntio ar ganser, clefydau heintus, clefydau llidiol a achosir gan y system imiwnedd yn ogystal â’r cymhlethdodau cysylltiedig, mae’n cynhyrchu ymchwil arloesol sy’n trawsnewid y broses o roi diagnosis a thrin cleifion yn ogystal â safon eu bywyd. Mae'n cyfuno dulliau bioleg data a systemau mawr â bioleg y labordy gwlyb, a meddygaeth glinigol ac arbrofol i ddeall y rôl y mae'r system imiwnedd yn ei chwarae mewn clefydau.

Tîm craidd y Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd (o'r chwith i'r dde), yr Athro Simon Jones (Cyd-gyfarwyddwr ac Arweinydd Thema Aml-forbidrwydd), yr Athro Awen Gallimore (Cyd-gyfarwyddwr ac Arweinydd Thema Imiwno-Oncoleg), yr Athro Kathy Triantafilou (Cyd-gyfarwyddwr ac Arweinydd Thema Niwroimiwnoleg), yr Athro Ian Humphreys (Cyd-gyfarwyddwr Arweiniol ac Arweinydd Thema Heintiau a Phandemeg), a Dr Robert Andrews (Arweinydd Thema Gwyddor Data).

Mae gwaith y sefydliad yn seiliedig ar 5 thema ymchwil:

  • Imiwno-oncoleg - Ym maes imiwnotherapi ar gyfer canser, mae’r sefydliad yn canolbwyntio’n benodol ar nodi atebion i broblemau a fydd o fudd i ystod eang o gleifion, gan gynnwys strategaethau modiwleiddio imiwnedd sy’n amrywio o addasu meddyginiaethau presennol at ddibenion gwahanol i fodiwleiddio micro-amgylchedd tiwmorau drwy ddefnyddio triniaethau therapiwtig pwrpasol sy'n seiliedig ar feirysau.
  • Clefydau heintus a phandemigau – Mae gwyddonwyr y sefydliad yn astudio'r pathogenau sy'n achosi clefyd a sut mae'r system imiwnedd yn ymateb i heintiau. Maent yn defnyddio'r prosesau hyn i ddatblygu technolegau fel llwyfannau brechlyn newydd gyda'r nod o ddatblygu strategaethau i'n hamddiffyn rhag bygythiadau heintus byd-eang.
  • Amlforbidrwydd – Mae cleifion â salwch cronig yn arddangos cyflyrau tymor hir eraill (amlforbidrwydd), gan effeithio ar ansawdd eu bywyd, eu hymateb i therapi a’u hadferiad. Mae gwyddonwyr y sefydliad yn archwilio'r mecanweithiau sy'n cysylltu'r cyflyrau hyn mewn canser, clefydau heintus, a chyflyrau imiwn-gyfryngol i wella diagnosis cleifion a chanlyniadau triniaeth.
  • Niwroimiwnoleg – Mae gwyddonwyr y sefydliad yn adeiladu ar gryfderau lleol mewn imiwnedd cynhenid a llid, geneteg dementia, modelu system gyfan a niwroddelweddu ynghyd â dadansoddiad cyfrifiadurol i ddod o hyd i fecanweithiau moleciwlaidd anhwylderau niwroinflammatory a dylunio ymyriadau therapiwtig ar gyfer cyflyrau o'r fath.
  • Data a deallusrwydd artiffisial - Mae'r sefydliad yn ceisio dehongli bioleg gymhleth y system imiwnedd a hyrwyddo darganfod bioleg imiwnedd newydd a datblygu profion diagnostig a therapiwteg trwy integreiddio data o dechnolegau arbrofol ar raddfa fawr a chymhwyso Deallusrwydd Artiffisial.

Cynhaliwyd y digwyddiad ddydd Mawrth 27 Mehefin yn Adeilad Morgannwg. Cafwyd y cyfle i weld y gwaith gwerthfawr y mae’r sefydliad yn ei wneud, a chafwyd cyflwyniadau gan bob un o'r cyd-gyfarwyddwyr, Gwyddonwyr y Sefydliad ac Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa. Ymhlith y gwesteion oedd ymchwilwyr, gwyddonwyr a chlinigwyr o Brifysgol Caerdydd a'r GIG.

Roedd yr arddangosfa yn gyfle gwych i ddod â'n cymuned ymchwil at ei gilydd, nid yn unig i ddathlu llwyddiannau diweddar ond i gynllunio esblygiad ein sefydliad yn y dyfodol a'r sawl gweithgaredd cyffrous sydd ar y gweill.
Yr Athro Ian Humphreys Athro Pathogenesis Feirysol a Chyd-gyfarwyddwr Arweiniol y Sefydliad Ymchwil ar Imiwnedd Systemau

Mae’r Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd yn rhan o fuddsoddiad gwerth £5.4 miliwn gan Brifysgol Caerdydd mewn 5 sefydliad arloesi ac ymchwil sy’n mynd i’r afael â’r problemau mwyaf sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi a’r amgylchedd.

Rhannu’r stori hon

Dewch i wybod rhagor am ein sefydliadau a'r gwaith y maent yn ei wneud.