Ewch i’r prif gynnwys

Gwahaniaethau yng gwaed cleifion â Covid hir

5 Ebrill 2023

Hand poked on a row of wooden dominoes, with the words

Mae ymchwil newydd wedi canfod gwahaniaethau yn llofnod moleciwlaidd gwaed cleifion sy'n gwella'n llwyr o Covid-19 a'r rheini sy'n cael Covid hir.

Ymchwiliodd yr astudiaeth, a oedd yn cynnwys Prifysgol Caerdydd, i samplau gwaed cleifion Covid-19 yn ystod camau gwahanol o'r clefyd, gan gynnwys y camau cynnar a chleifion â Covid hir. Dangosodd fod wahaniaethau mawr yn yr ymatebion imiwnedd rhwng y rheini a oedd wedi gwella a'r rheini a ddatblygodd gymhlethdodau hirdymor.

Dyma a ddywedodd yr Athro Bernhard Moser o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, a oedd yn rhan o'r tîm ymchwil: “Cafodd nifer sylweddol o gleifion a heintiwyd â Sars-Covid-2 yn ystod y pandemig Covid hir, sef cyflwr llidiol cronig a nodweddir gan flinder, poen yn y cyhyrau, diffyg anadl a symptomau eraill.

“Ar hyn o bryd nid yw'r rheswm pam mae rhai cleifion â Covid-19 yn cael Covid hir yn hysbys ond hwyrach bod sawl ffactor ynghlwm. Efallai y bydd deall y clefyd hwn ar y lefel foleciwlaidd yn well yn arwain at drin cleifion mewn ffyrdd newydd.”

Amlygodd yr ymchwil fod cleifion â Covid hir yn dangos gwahaniaethau o ran cemocinau, sef grŵp o broteinau sy’n cael eu secretu mewn ymateb i Covid-19 ac sy’n peri ymatebion llidiol o ran imiwnedd.

Dyma a ddywedodd yr Athro Moser: “Dangosodd ein hymchwil fod gan gleifion Covid-19 lefelau uwch o gemocinau a bod hyn yn cyfrannu at y llid sy’n digwydd pan fydd pobl yn cael eu heintio â Covid-19. Yn bwysig hefyd felly, gwelsom hefyd fod cleifion â Covid-19 yn creu priod wrthgyrff yn erbyn cemocinau.

“Yn y cleifion hynny sy'n gwella ar ôl Covid-19, dangosodd dadansoddiadau moleciwlaidd o'r gwrthgyrff hyn eu bod yn niwtraleiddio swyddogaeth set o gemocinau, gan awgrymu eu bod yn gweithio yn erbyn llid ac yn cyfrannu at y broses o ddatrys y clefyd.

“Ond yn achos y cleifion hynny â Covid hir, mae priod wrthgyrff sy'n gweithio yn erbyn tri math gwahanol o gemocinau ar goll, gan awgrymu bod y ffaith nad yw’r rhain yn cael eu creu’n cyfrannu at lid cronig sy'n sail i covid hir.

“Mae'r astudiaeth hon yn dangos bod y llofnod moleciwlaidd yn y gwaed yn wahanol rhwng cleifion sy'n gwella'n llwyr yn sgil Covid-19 a’r cleifion hynny sy'n datblygu'r cyflwr llidiol cronig sy'n gysylltiedig â Covid hir. Mae priod wrthgyrff ar gyfer rhai cemocinau yn fuddiol i gleifion â Covid-19 yn yr ystyr yr ymddengys eu bod yn atal Covid hir rhag datblygu.”

Mae'r tîm yn gobeithio y bydd eu hymchwil yn gosod y sylfeini hwyrach i ddatblygu triniaethau yn y dyfodol ar gyfer y rheini sy'n byw gyda Covid hir.

“Mae'r astudiaeth hon wedi datgelu therapi posibl newydd fydd yn atal Covid hir drwy drin cleifion â Covid-19 sy’n meddu ar y priod wrthgyrff hyn. Bydd astudiaethau yn y dyfodol yn adnabod y priod wrthgyrff mwyaf buddiol y gellir eu defnyddio mewn treialon clinigol,” ychwanegodd yr Athro Moser.

Rhannu’r stori hon

Beth ydym wedi bod yn ei wneud i fynd i’r afael â’r feirws.