Ewch i’r prif gynnwys

Tair cymuned sy'n byw ger bryngaerau hanesyddol o'r Oes Haearn yn cydweithio ar brosiect newydd

24 March 2022

Mae prosiect sydd wedi helpu miloedd o bobl i ddysgu rhagor am hanes eu hardal yn ehangu i ddau safle newydd.

Mae CAER Connected yn adeiladu ar y partneriaethau cyd-ymchwil archeolegol a hanesyddol, sydd wedi ennill gwobrau, a ddatblygwyd gan Brosiect Treftadaeth CAER (CAER) a'i bartner cymunedol Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), dros y degawd diwethaf.

Hyd yma, mae mentrau CAER wedi canolbwyntio ar gymunedau Caerau a Threlái yng Nghaerdydd, ac mae dros 19,000 o gyfranogwyr o bob oed wedi manteisio ar y cyfle i ddarganfod stori Bryngaer Caerau – heneb gynhanesyddol bwysig, nad oedd wedi derbyn llawer o sylw’n flaenorol. Maent wedi defnyddio ymchwil archeolegol a hanesyddol i’w hysbrydoli i, greu gwaith celf, ffilmiau, menter gymdeithasol, a chynnal gweithgareddau creadigol eraill.

Nawr, mae'r prosiect yn digwydd mewn sefydliadau cymunedol ym Mhenparcau, Ceredigion a Chroesoswallt, Swydd Amwythig – lle ceir dwy fryngaer arall. Yn dilyn cyfres o ymweliadau a digwyddiadau cyfnewid – yn ystod y rhain bydd ffocws ar greadigrwydd a chelf, bydd y prosiect cydweithredol yn arwain at arddangosfa deithiol o waith y trigolion lleol.

Dywedodd Dr Oliver Davis, o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, Prifysgol Caerdydd: "Mae hon yn bennod newydd gyffrous yn hanes prosiect CAER. Mae pob un o'r tair cymuned sy'n Gysylltiedig â CAER yn wynebu heriau cymdeithasol ac economaidd gwahanol, ond mae eu bryngaerau cynhanesyddol syfrdanol sy'n darparu tirnodau trawiadol yn eu tirweddau lleol, yn dreftadaeth gyffredin iddynt i gyd.

"Mae perthynas gref yn bodoli eisoes rhwng y grwpiau gweithredu cymunedol dros dreftadaeth, sydd ar bob safle. Bydd CAER Connected yn adeiladu ar y cyfeillgarwch a'r partneriaethau hyn drwy ddatblygu a chyflwyno ystod o ymatebion artistig a chreadigol sy'n myfyrio ar y profiadau tebyg, ac yn mynd i’r afael â’r gwahanol heriau, mae’r cymunedau hyn yn eu hwynebu.

"Mae perthynas gref yn bodoli eisoes rhwng y grwpiau gweithredu cymunedol dros dreftadaeth, sydd ar bob safle. Bydd CAER Connected yn adeiladu ar y cyfeillgarwch a'r partneriaethau hyn drwy ddatblygu a chyflwyno ystod o ymatebion artistig a chreadigol sy'n myfyrio ar y profiadau tebyg, ac yn mynd i’r afael â’r gwahanol heriau, mae’r cymunedau hyn yn eu hwynebu."

Dr Oliver Davis CAER Heritage Project Co-director

"Wrth wneud hynny, byddwn yn mynd ati i, ddatblygu hyder a sgiliau, creu rhwydweithiau cymorth cymheiriaid, rhannu arbenigedd ac, yn hollbwysig, yn archwilio sut y gall treftadaeth leol roi budd i bobl drwy greu gweledigaethau o'r gorffennol a'r dyfodol."

Datblygwyd Bryngaer Caerau yn safle treftadaeth gymunedol gyda chymorth grant sylweddol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Cafodd canolfan gymunedol, a chanddi ardal chwarae a llwybrau hanesyddol, ei hagor yn swyddogol gan y Prif Weinidog Mark Drakeford y llynedd.

Mae bryngaerau o'r Oes Haearn yn aneddiadau cynhanesyddol ar ardaloedd uchel o dir, sydd wedi’u siapio a'u hamgáu, fel arfer, gan ragfuriau sylweddol wedi’u hadeiladu o bridd, sy'n cynnig golygfeydd syfrdanol o'r tirwedd o'u cwmpas. Yn draddodiadol, mae archeolegwyr wedi ystyried bryngaerau yn strwythurau amddiffynnol; ac eto mae dehongliadau mwy diweddar yn cynnig dadl argyhoeddiadol eu bod yn henebion sydd â’u gwreiddiau’n ddwfn yn y gymdeithas: mynegiant trawiadol o hunaniaeth gymunedol a adeiladwyd gan ddwylo hynafol.

Ysbryd cymunedol

Mae Helen McCarthy, sy'n byw nepell o Fryngaer Caerau, wedi bod yn rhan o Brosiect CAER ers 2013. Magwyd ei rhieni a’i gŵr yn Nhrelái.

Dyma a ddywedodd: "Mae fy mam yng nghyfraith yn dal i fyw yn y tŷ cyngor ble’i ganed 91 mlynedd yn ôl, felly mae'n amlwg bod rhywbeth positif yma, sy’n gwneud i bobl fod eisiau aros yn ardal. Dwi’n credu mai’r ysbryd cymunedol yw’r ‘rhywbeth’ hwnnw. Mae’r bobl yn gyfeillgar ac yn barod i helpu’i gilydd, ond yn anffodus, caiff yr ardal ei gweld fel lle difreintiedig â chanddo lefelau uchel o drosedd gan rai pobl o’r tu allan.

"Mae ACE a Phrosiect Treftadaeth CAER a'i bartneriaid wedi helpu i herio'r ddelwedd hon gan arddangos ein hardal mewn gwell goleuni.  Maent yn credu’n gryf bod gan bawb rywbeth i'w gynnig, ac yn gweithio’n galed iawn i ennyn diddordeb pobl, o bob gallu, a chanddynt bob math o dalentau.  O ganlyniad i hyn, rydym wedi canfod artistiaid, ffotograffwyr ac awduron, a myrdd o dalentau eraill yn ein cymuned. "

Helen McCarthy

"Yn fy marn i, dim ond pethau da all ddod o CAER Connected, gan y byddwn ni gyd yn gallu dysgu o safleoedd a phrofiadau ein gilydd. Rwy'n credu y byddai cymdeithasau’r bryngaerau hyn wedi cyfathrebu ac ymweld â’i gilydd yr holl filoedd hynny o flynyddoedd yn ôl, felly mae cyfathrebu â’n gilydd drachefn yn teimlo’n beth naturiol."

Ffocws creadigol

Mae John Swogger yn archeolegydd ac artist, ac mae ef a Diana Baur yn gyd-drefnwyr Grŵp Creadigrwydd Hillfort. Fe wnaethant sefydlu’r grŵp ddwy flynedd yn ôl, er mwyn dwyn yr holl gelf weledol, cerddoriaeth ac ysgrifennu sydd wedi, ac yn, cael eu creu am Hen Fryngaer Croesoswallt, ynghyd.

Dyma a ddywedodd: "Mae'r fryngaer yn ffocws creadigol ac yn ysbrydoliaeth i lawer o artistiaid, cerddorion ac eraill yn yr ardal gan fod ganddi le mor arbennig nid yn unig yng nghalonnau pobl, ond yn eu bywydau bob dydd. Dyma lle rydyn ni'n mynd i, gerdded gyda’r ci, cael chwa o awyr iach, ac i ddangos atyniadau’r ardal i ymwelwyr.

"Mae'n ganolog i dirwedd weledol y dref - i'w gweld o'r eiliad rydych chi’n dynesu at y dref ar yr A483, ac i'w gweld o bron bob man yn y dref ei hun. Mae hefyd yn ffocws oherwydd yr ymdrechion i ddiogelu'r safle a'i leoliad rhag datblygiadau pellach o dai."

"Fe wnaethom ddewis bod yn rhan o CAER Connected er mwyn, gwneud cysylltiadau â chymunedau bryngaerau eraill, a dysgu o'u profiadau, ond hefyd i rannu ein profiadau ein hunain: beth mae'n ei olygu i gael ein hysbrydoli'n greadigol gan y lle rydyn ni’n ei alw’n gartref, a sut y gallwn ni ddefnyddio hynny i helpu i amddiffyn y lleoedd a'r pethau sy'n bwysig i ni."

Gwlad y Cewri

Lleolir Bryngaer Pen Dinas ym mhentref Penparcau yng Ngheredigion. Wedi'i lleoli'n agos i'r môr, mae'n sefyll rhwng dwy afon, yr Ystwyth a Rheidol, ac mae iddi ddwy ran wahanol. Mae ei safle amlwg ar y gorwel yn golygu ei bod i’w gweld o bellteroedd.

Dywedodd Dr Alan Chamberlain, sy'n Uwch Gymrawd Ymchwil ac yn aelod o Grŵp Hanes a Threftadaeth Penparcau: "Mae gallu ymgysylltu â chymunedau eraill y tu allan i Benparcau sydd wedi cael profiadau gwahanol ac sy'n gallu rhannu eu harbenigedd, yn amhrisiadwy.

"Mae Pen Dinas yn safle anhygoel, sy'n mynd yn ôl i gyfnod cyn yr Oes Haearn. Mae tomen gladdu o'r Oes Efydd ar gopa'r safle. Ceir hefyd fythau a chwedlau am Maelor Gawr y brenin gawr a'i feibion a fu'n byw ar Ben Dinas! Mae'n safle hynod bwysig i'r gymuned leol. Dyma'r warchodfa natur leol fwyaf ym Miosffer Dyfi UNESCO ac mae'n lle y gall pobl fynd iddo i, gerdded gyda’u cŵn, i ymlacio, neu i ddysgu am hanes a diwylliant yr ardal. Mae'r golygfeydd tuag at Fae Ceredigion a Phen Llŷn yn syfrdanol.

"Yn rhan o'r prosiect hwn rydym yn gobeithio gallu datblygu amrywiaeth o weithgareddau sy'n cysylltu archaeoleg a chelf, a fydd yn cefnogi lles y gymuned."

Pen Dinas excavation 2021 (C) Toby Driver

Ariennir y prosiect ymchwil gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. (AHRC).

Rhannu’r stori hon