Ewch i’r prif gynnwys

Mae’n bosibl y bydd gwaith cloddio archeolegol mewn parc yn datgelu hanes sydd wedi bod ynghudd ers 2,000 o flynyddoedd

1 Gorffennaf 2022

Mae trigolion yn cloddio am gliwiau i ganfod yr hyn y tybia archeolegwyr y gallai fod yn anheddiad Oes yr Haearn, a hynny o dan eu parc lleol.

Mae Prosiect Treftadaeth Ailddarganfod Caerau a Threlái (CAER) , sef partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), ysgolion lleol, trigolion a phartneriaid treftadaeth, bellach wedi troi ei sylw at Barc Trelái, hanner milltir o  Fryngaer Caerau, sef safle treftadaeth o arwyddocâd cenedlaethol lle daeth archeolegwyr o Brifysgol Caerdydd ac aelodau o'r gymuned o hyd i wreiddiau’n ddiweddar sy’n dyddio o’r cyfnod Neolithig, Oes yr Haearn a’r cyfnod Rhufeinig a chanoloesol.

Bydd y gwaith cloddio’n canolbwyntio ar ardal o'r parc 200m i'r de o Fila Rufeinig Trelái, strwythur a gloddiwyd 100 mlynedd yn ôl gan Syr Mortimer Wheeler, y darlithydd Archaeoleg cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd. Tŷ moethus yw fila a hwyrach mai preswylydd y fila yn Nhrelái oedd Rhufeiniwr a oedd wedi cyrraedd y lle. Dangosodd Syr Mortimer i’r fila gael ei hadeiladu tua 130 OC, tua 60 mlynedd ar ôl y goncwest Rufeinig ac o leiaf 100 mlynedd ar ôl i bobl roi'r gorau i fyw yn y fryngaer.

Yn dilyn arolygon geoffisegol gan Dîm CAER a Dr Tim Young o GeoArch ym mis Ebrill eleni, darganfuwyd anheddiad caeedig ychwanegol yno sy'n cynnwys tŷ crwn yn hytrach nag adeilad Rhufeinig. Y gwaith cloddio diweddaraf hwn yw'r tro cyntaf i “Anheddiad Amgaeedig Trelái”, sydd newydd gael ei ddarganfod, fod yn destun cloddio archeolegol.

Yn ogystal â'r gwaith cloddio, fydd yn parhau tan Orffennaf 15, bydd diwrnod agored cymunedol gyda gweithgareddau i blant yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf, rhwng 11am a 3pm.

Dyma a ddywedodd cyd-gyfarwyddwr Prosiect Treftadaeth CAER Dr Oliver Davis, o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: “Ar ôl dwy flynedd heriol yn ystod y pandemig, mae pob un ohonon ni’n edrych ymlaen at wneud gwaith cloddio archeolegol ym Mharc Trelái, ardal sy'n llawn hanes, er ei fod efallai'n fwy adnabyddus y dyddiau hyn yn lle gwyrdd a phoblogaidd ar gyfer clybiau chwaraeon, cerddwyr cŵn a theuluoedd.

“Er nad ydyn ni wedi cael cadarnhad hyd yn hyn o'r hyn sydd o dan y pridd, mae'r anheddiad amgaeedig yn nodweddiadol o lawer o safleoedd Oes yr Haearn Ddiweddar yn y rhanbarth. Mae'n demtasiwn awgrymu bod y safle hwn hwyrach, yn ogystal â Fila Rufeinig Trelái gerllaw, yn dyddio o Oes yr Haearn, efallai tua'r un adeg ag y rhoddwyd y gorau i fyw ym Mryngaer Caerau.  A yw'n 'rhagflaenydd' cynharach y fila, ac efallai yn gartref i deulu pwysig a symudodd allan o'r fryngaer? Neu a oedd yn rhan o ystad y fila, ac o bosibl yn gartref i weithwyr yr ystad neu hyd yn oed yn gyfuniad o adeiladau at ddibenion diwydiannol?

“Beth bynnag y byddwn ni’n dod o hyd iddo, ein gobaith yw y bydd cynifer o bobl â phosibl yn cymryd rhan fel y gallan nhw ddysgu am y gorffennol hynod o ddiddorol yn yr ardal hon yng Nghaerdydd.”

Dr Oliver Davis Senior Lecturer, CAER Heritage Project Co-director (Study Leave 2022/3 (Semester 1))

Ar ddechrau'r 20fed ganrif, Parc Trelái oedd lleoliad Cae Ras Caerdydd. Cafodd ei ddefnyddio’n faes awyr ac roedd yn safle balwnau amddiffyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Dyma a ddywedodd Cyd-gyfarwyddwr ACE Dave Horton: 'Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda phobl leol a Phrifysgol Caerdydd i ddatgelu rhagor o wybodaeth am ein hanes cyffredin a rhyfeddol!  Mae gwaith cloddio blaenorol wedi rhoi inni hanesion hynod o ddiddorol am gymunedau'r gorffennol, yn ogystal â’n hysbrydoli i fynd ati i fyw gyda'n gilydd yn fwy cytûn.  Mae cymaint y gallwch chi ei wneud a’i ddarganfod o hyd drwy gymryd rhan ym mhrosiect Treftadaeth CAER!'

Bydd disgyblion o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, sy'n ffinio â'r parc, hefyd yn cymryd rhan yn y gwaith cloddio. Hyd yn hyn, mae pedwar o bobl ifanc o'r ysgol wedi derbyn ysgoloriaethau Treftadaeth CAER, sy'n rhoi cymorth i helpu myfyrwyr i gael lle ar raglen gradd.

Dyma a ddywedodd Martin Hulland, Pennaeth Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd: "Rydyn ni wrth ein boddau’n partneru gydag ACE a Phrifysgol Caerdydd unwaith eto i gloddio am dreftadaeth gyfoethog ein rhan ni o'r ddinas. Bydd disgyblion Blwyddyn 7 yn cymryd rhan amlwg yn y gwaith cloddio ac maen nhw’n gobeithio helpu i ddarganfod ystod o arteffactau cyffrous.

"Hoffen ni ddiolch i Brifysgol Caerdydd am eu cefnogaeth ragorol i'r ysgol. Mae'r profiadau hyn ac Ysgoloriaethau CAER yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'n disgyblion."

Y llynedd, agorwyd atyniad newydd i’r gymuned ac ymwelwyr gwerth £650,000, sef Canolfan Treftadaeth Gymunedol y Fryngaer Gudd – ger Bryngaer Caerau.

Am ragor o fanylion neu i gymryd rhan yn y gwaith cloddio, ffoniwch: 02920 003132 neu ebostiwch: caerheritage@aceplace.org neu ewch i www.caerheritage.org

Rhannu’r stori hon