Ewch i’r prif gynnwys

Dim cysylltiad rhwng haint COVID-19 yn ystod beichiogrwydd â marw-enedigaeth na marwolaeth babanod, yn ôl astudiaeth

23 Chwefror 2021

Nid yw haint COVID-19 yn gysylltiedig â marw-enedigaeth na marwolaeth newyddanedig gynnar, yn ôl astudiaeth newydd.

Fodd bynnag, canfu'r ymchwil, oedd yn cynnwys mwy na 4,000 o fenywod beichiog oedd ag achosion a amheuir neu a gadarnheir o COVID-19, bod menywod oedd wedi cael prawf positif yn fwy tebygol o roi genedigaeth yn gynnar.

Defnyddiodd yr ymchwil, a arweiniwyd gan Goleg Imperial Llundain ac a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Ultrasound in Obstetrics and Gynaecology heddiw, ddata o'r DU ac UDA. Lluniodd Canolfan Treialon Ymchwil (CTR) Prifysgol Caerdydd y gronfa ddata ar-lein o fenywod, yn ogystal â rheoli data a dadansoddiadau ystadegol yn yr astudiaeth.

Edrychodd y tîm ar 4,004 o fenywod beichiog oedd ag achosion a amheuir neu a gadarnheir o COVID-19. Ymhlith y rhain, roedd 1,606 ar gofrestrfa ddata PAN-COVID yn y DU, a reolir gan y CTR, ac roedd 2,398 o gofrestrfa ddata ar wahân yn yr Unol Daleithiau.

Dywedodd Julia Townson, uwch-gymrawd ymchwil sy'n gyfrifol am gyflwyno'r ymchwil yn y CTR: "Rwyf wrth fy modd bod y Ganolfan Treialon Ymchwil wedi gallu cydweithio â Choleg Imperial Llundain ar yr ymchwil bwysig hon. Mae wedi bod yn ymdrech enfawr gan y tîm gan eu bod wedi gorfod llunio'r gronfa ddata a'r dudalen we yn gyflym iawn, yn ogystal â glanhau a dadansoddi'r data."

Yn ôl yr ymchwil, a ariennir gan Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd y DU a Chanolfan Ymchwil Biofeddygol Imperial NISCHR, ni wnaeth unrhyw fabanod oedd yn rhan o’r astudiaeth farw o COVID-19 rhwng mis Ionawr ac Awst 2020. Hefyd, nid oedd unrhyw gynnydd yn y risg o farw-enedigaethau na phwysau geni isel.

Fodd bynnag, awgrymodd data'r DU a'r UD risg uwch o eni cyn amser (a ddiffinnir fel genedigaeth cyn 37 wythnos).

Yn nata'r DU, fe wnaeth 12% o fenywod oedd ag achosion a amheuir neu a gadarnheir o COVID-19 roi genedigaeth cyn amser – 60% yn fwy na'r gyfradd genedlaethol ar gyfartaledd, 7.5%. Yn nata'r UD, rhoddodd 15.7% o fenywod enedigaeth cyn amser, 57% yn fwy na chyfartaledd cenedlaethol yr UD, 10%.

Mae tîm yr astudiaeth yn dweud y gallai'r cysylltiad hwn fod o ganlyniad i feddygon yn penderfynu geni'r babi'n gynnar oherwydd pryderon am effaith haint COVID-19 ar y fam a'r babi.

Dywedodd yr Athro Christoph Lees, uwch-awdur yr astudiaeth o Goleg Imperial Llundain: "Mae'r canfyddiad nad yw haint COVID-19 yn cynyddu'r risg o farw-enedigaeth na marwolaeth babanod yn galonogol. Fodd bynnag, roedd yr achosion a amheuir neu a gadarnheir o COVID-19 yn gysylltiedig â risg uwch o enedigaeth cyn amser ac nid yw'n gwbl glir pam."

Dywedodd Dr Ed Mullins, sydd hefyd o Imperial: "Mae'r astudiaeth hon yn cefnogi'r gwaith o flaenoriaethu menywod beichiog, neu fenywod sy'n bwriadu mynd yn feichiog wrth ddewis pwy sy'n cael y brechiad, a mesurau presennol sy'n amddiffyn menywod beichiog rhag cael eu heintio, er mwyn lleihau genedigaeth cyn amser."

Roedd cyfran y babanod a anwyd i famau ag achosion a gadarnhawyd o COVID-19, a gafodd brawf positif wedi hynny ar gyfer feirws SARS-CoV-2 (sy'n achosi COVID-19) yn 2% yn astudiaeth y DU, ac 1.8% yn astudiaeth yr UD.

Nid oedd gan y rhan fwyaf o fenywod yn yr astudiaeth unrhyw gyflyrau a oedd yn bodoli eisoes, fel diabetes neu gyflwr anadlol fel asthma. Yn astudiaeth y DU bu farw wyth o'r menywod, tra bu farw pedair menyw yn astudiaeth yr UD.

Mae tîm yr astudiaeth yn dweud, er bod y cyfraddau marwolaethau hyn yn uwch na'r disgwyl ar gyfer menywod sy'n rhoi genedigaeth, maen nhw'n debyg i'r cyfraddau marwolaethau a ddisgwylir ymhlith oedolion sydd ag achosion a gadarnhawyd o haint COVID-19 pan ystyrir y gyfran isel o fenywod beichiog sydd â COVID sy'n cael diagnosis. Mae hyn yn awgrymu nad yw menywod beichiog mewn mwy o berygl o farwolaeth o COVID-19 na menywod nad ydynt yn feichiog.

Rhannu’r stori hon