Ewch i’r prif gynnwys

Iechyd menywod mewn perygl oherwydd amharodrwydd i ragnodi meddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd

1 Mawrth 2023

Yn ôl ymchwil, mae amharodrwydd ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ragnodi a dosbarthu meddyginiaethau i fenywod beichiog yn peryglu iechyd y menywod hynny.

Canfu’r astudiaeth a gynhaliwyd gan ymchwilwyr yn BPAS (Gwasanaeth Cynghori ar Feichiogrwydd Prydain), Prifysgol Caerdydd, Pregnancy Sickness Support a Choleg Prifysgol Llundain, er bod angen i ragnodwyr sicrhau cydbwysedd rhwng y budd i’r fam a niwed posibl i’r ffetws wrth ragnodi yn ystod beichiogrwydd, nad oedd amgylchiadau unigol menywod bob amser yn cael eu hystyried, ac nad oedd menywod yn cael eu cynnwys yn llawn yn y broses o wneud penderfyniadau.

Bu i’r astudiaeth ddadansoddi 7,090 o fenywod a chyfweld â 34 o fenywod a oedd yn feichiog neu wedi bod yn feichiog yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Nododd y tîm lawer o enghreifftiau lle defnyddiodd gweithwyr iechyd proffesiynol ofn o niweidio'r ffetws yn rheswm dros gyfiawnhau gwrthod rhagnodi neu ddosbarthu meddyginiaethau a fyddai’n cael eu hargymell fel arall. Cafodd hyn effaith sylweddol nid yn unig ar iechyd menywod, ond hefyd ar eu lles emosiynol.

Dywedodd yr Athro Julia Sanders, Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Yn ystod yr astudiaeth, clywsom gan lawer o fenywod beichiog lle nad oedd meddyginiaethau angenrheidiol yn cael eu rhoi iddynt. Roedd hyn yn ymwneud yn arbennig â meddyginiaethau ar gyfer salwch difrifol, poen beichiogrwydd a chyflyrau iechyd meddwl.

“Cafodd rhai menywod eu hatal rhag cael meddyginiaethau a argymhellwyd oherwydd bod meddygon yn gwrthod eu rhagnodi neu fod fferyllwyr yn gwrthod eu dosbarthu. Rhagnodwyd meddyginiaethau i fenywod eraill, ond roedd diffyg gwybodaeth yn golygu nad oedd ganddynt yr hyder i'w cymryd. Mae’r astudiaeth hon yn awgrymu bod angen i bob un ohonom weithio’n galetach i sicrhau bod menywod beichiog yn gallu cael gafael ar y meddyginiaethau cywir iddyn nhw a’u babi.”

Mae canllawiau cenedlaethol ar gael ar ragnodi meddyginiaethau i fenywod beichiog. Er na ddylid defnyddio rhai meddyginiaethau fel thalidomide neu isotretinoin, mae'r rhan fwyaf o feddyginiaethau eraill yn ddiogel ac yn cael eu defnyddio'n eang yn ystod beichiogrwydd.

Dywedodd Clare Murphy, Prif Weithredwr BPAS: “Mae mwyafrif helaeth y menywod beichiog yn y DU yn dweud eu bod yn defnyddio meddyginiaeth ar gyfer cyflyrau tymor byr neu gronig, ac mae rhagnodi diogel ac effeithiol yn elfen hanfodol o ofal cynenedigol. Ac eto, mae'n amlwg o'n hymchwil bod iechyd a lles menywod yn cael eu niweidio gan ymagwedd or-ofalus. Mae hinsawdd ddiwylliannol i’w cael lle mae anghenion menywod beichiog eu hunain yn aml yn cael eu hystyried yn eilradd i'w ffetws. Mae goblygiadau go iawn i hyn.”

Dywedodd yr Athro Marian Knight, Athro Iechyd Mamau a Phlant ym Mhrifysgol Rhydychen, na chwaraeodd ran yn yr ymchwil: “Mae’r gwaith hwn yn dangos yn amlwg iawn yr heriau y mae menywod beichiog yn eu hwynebu wrth geisio cael gafael ar feddyginiaethau yn ystod beichiogrwydd. Mae menywod yn cael cyngor anghyson, ac yn aml, nid yw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cydnabod pwysigrwydd cymryd meddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd ar gyfer cyflyrau sy'n benodol i feichiogrwydd neu gyflyrau iechyd a oedd gan y fam yn barod. Gall hyn, weithiau, arwain at ganlyniadau trasig, naill ai i’r menywod neu eu babanod. Mae’n bwysig bod staff sy’n gofalu am fenywod beichiog yn cydnabod manteision cymryd meddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd, yn ogystal â sut i gael gafael ar wybodaeth o ansawdd uchel am ddiogelwch meddyginiaethau.”

“Mae’r ymchwil hwn yn amlygu nad yw canllawiau cenedlaethol yn cael eu defnyddio’n aml. Mae arnom angen darparwyr gofal iechyd gwybodus sy'n teimlo'n hyderus wrth bresgripsiynu i fenywod beichiog, i fenywod deimlo'n rhan o'u triniaeth a'u bod wedi'u grymuso, ac am fwy o ymchwil i driniaethau ar gyfer cyflyrau gwanychol yn ystod beichiogrwydd. Bydd gwneud hynny yn gwella diogelwch a phersonoli rhagnodi yn ystod beichiogrwydd ac yn gwella’r gofal y mae menywod yn ei dderbyn,” ychwanegodd yr Athro Julia Sanders.