Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigwyr y Brifysgol yn rhannu barn, yn goleuo ac yn ysbrydoli yng Ngŵyl y Gelli 2023

26 Mai 2023

Gŵyl y Gelli
Cynhaliwyd Gŵyl y Gelli eleni o ddydd Iau 25 Mai tan ddydd Sul 4 Mehefin 2023. Llun trwy garedigrwydd Elisabeth Broekaert.

Bydd arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn trafod darganfyddiadau gwyddonol, datblygiadau ym maes technoleg a chwestiynau am genedligrwydd gerbron cynulleidfaoedd yn yr ŵyl lenyddiaeth fyd-enwog.

Bydd y datblygiadau diweddaraf ym maes deallusrwydd artiffisial a datblygiadau arloesol a ddeilliodd o ymchwil annhebygol ar yr agenda yn rhan o sgyrsiau Cyfres Caerdydd Gŵyl y Gelli eleni.

Mae’r ŵyl, a gynhelir yn nhref lyfrau’r Gelli Gandryll yn y canolbarth rhwng 25 Mai a 4 Mehefin, yn croesawu enillwyr Gwobr Nobel a nofelwyr, gwyddonwyr a gwleidyddion, haneswyr, amgylcheddwyr a cherddorion i rannu’r syniadau diweddaraf ym myd y celfyddydau a’r gwyddorau gerbron cynulleidfaoedd chwilfrydig.

Yn y gyntaf o ddwy sgwrs dan arweiniad Prifysgol Caerdydd yn yr ŵyl eleni, bydd Matthew Hopkins, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, yn ein tywys ar wibdaith o amgylch y technolegau diweddaraf ym maes deallusrwydd artiffisial.

Boed ChatGPT, 'ffug ddelweddau dwfn' neu geir sy’n gyrru eu hunain, bydd Matthew yn trafod sut mae technolegau deallusrwydd artiffisial yn gweithio, pam maen nhw’n gweithio, beth maen nhw’n ei wneud ac ym mha ffordd maen nhw’n ddiffygiol ar hyn o bryd.

Dyma a ddywedodd Matthew, sydd yn 2il flwyddyn ei PhD sy’n astudio ffyrdd o ddatblygu deallusrwydd artiffisial sy’n wydn ac yn egluradwy: "Ein cyfrifoldeb ni yw llunio deallusrwydd artiffisial ac mai cychwynbwynt hwnnw yw ei fod yn deg, yn ddiduedd ac yn ddiogel. Rydyn ni wrthi o hyd yn ceisio deall sut i wneud hynny.

"Diolch i’r drefn, mae ffocws ar y math hwn o ymchwil wedi gwthio’r maes hwn yn ei flaen yn enfawr yn ddiweddar. Rwy'n edrych ymlaen at siarad am bopeth sy’n ymwneud â deallusrwydd artiffisial gyda chynulleidfaoedd y Gelli."

Prynwch docynnau ar gyfer y sgwrs, Trusted and transparent AI for a safe and secure future, ddydd Sul 28 Mai am 13:00 ar lwyfan Cymru.

Mewn sgwrs arall, a hithau’n gyd-gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, bydd yr Athro Laura McAllister o Brifysgol Caerdydd yn cymryd rhan mewn digwyddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig.

Ynghyd â’r cyd-gadeirydd a Chyn-Archesgob Caergaint Dr Rowan Williams, aelod y comisiwn Miguela Gonzalez a Chyfarwyddwr y Sefydliad Auriol Miller, bydd yr Athro McAllister yn trafod yr heriau dirfodol sy’n wynebu’r DU, gwaith y comisiwn a’r opsiynau i sicrhau dyfodol Cymru.

Dyma a ddywedodd: "Mae’r Comisiwn hwn yn gyfle unigryw i Gymru ddangos arweiniad cyfansoddiadol a sicrhau ei bod ar flaen y gad wrth ymdrin â Phrydain sy’n newid yn gyflym.

"Mae wedi bod yn amlwg o’n sgyrsiau gyda phobl Cymru nad yw’r un hen drefn yn gweithio i ni ac rydym nawr yn edrych ar dri opsiwn cyfansoddiadol a allai."

Prynwch docynnau ar gyfer eu trafodaeth, Wales: Independence and other options, nos Fawrth 30 Mai am 19:00 yn The Hive.

Yn yr ail sgwrs yng Nghyfres Caerdydd, bydd Gianluca Bianchi, myfyriwr PhD yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd, yn myfyrio ar syniadau ymchwil yr ymddengys eu bod yn aneglur neu hyd yn oed yn ddiwerth ond sydd mewn gwirionedd yn arwyddocaol.

Wrth drafod pam mae cysyniad ymchwil yn weithgaredd gwerth chweil, bydd Gianluca yn sôn am nifer o astudiaethau gan gynnwys ymchwil ar ffrwydradau bychain mewn tyllau du a arweiniodd, credwch neu beidio, at greu Wi-Fi.

Dywedodd Gianluca, sydd ar hyn o bryd ym mlwyddyn gyntaf ei PhD yn astudio sefydlogrwydd silffoedd iâ yn yr Antarctig: "Yn y byd academaidd, mae ymchwil yn amrywio o fod yn berthnasol ar unwaith i fod yn hynod o aneglur a haniaethol. Yn aml mae'n anodd dweud a oes gan ymchwil sy'n swnio'n rhyfedd gymwysiadau cymdeithasol ymarferol.

"Yn fy sgwrs yn y Gelli, byddaf yn amlygu nad yw ymchwil lwyddiannus yn cael ei reoli gan y maes pwnc na defnydd uniongyrchol, a bod pob ymchwil yn dod o hyd i ddefnydd mewn rhyw ffordd neu’i gilydd."

Prynwch docynnau ar gyfer y sgwrs, Useless research and its uses, ddydd Sadwrn 3 Mehefin 2023 am 11:30 yn The Hive.