Ewch i’r prif gynnwys

Pobl ifanc yn dweud beth maen nhw ei eisiau ar gyfer lle maen nhw'n byw

14 Chwefror 2023

Mae disgyblion ysgol yn eistedd o amgylch bwrdd gyda menyw sy'n dal llyfr, mae pawb yn edrych ar y camera
Dr Matluba Khan gyda disgyblion ysgol

Mae gweledigaeth ar gyfer Grangetown well wedi cael ei lansio gan bobl ifanc yn rhan o brosiect Prifysgol Caerdydd.

Yn eu hadroddiad, Grangetown i Gael eich Magu Ynddi (Grangetown to Grow Up In), fe nododd plant a phobl ifanc rhwng wyth a 18 oed y gwelliannau yr hoffent eu cael ar gyfer eu cymdogaeth .

Gan fyfyrio ar yr hyn yr hoffent ei weld yn cael ei flaenoriaethu, mae’r grŵp yn galw am gyfleusterau chwarae mwy cynhwysol sy’n darparu ar gyfer plant ag anableddau, yn ogystal â mannau penodol i ferched ifanc gyfarfod a chwarae.

Lansiwyd y cynllun ym Mhafiliwn Grange, lle cyflwynodd plant a phobl ifanc eu casgliadau i Gyngor Caerdydd ac arweinwyr grwpiau cymunedol i ystyried sut y gallent weithio tuag at weithredu’r cynigion.

Y llynedd, cynhaliwyd cyfres o weithdai, gan roi cyfle i blant a phobl ifanc Grangetown amlygu’r hyn yr oeddent yn ei hoffi am fyw yno a’r hyn yr hoffent ei weld yn gwella, yn dilyn yr heriau a brofon nhw yn sgîl y pandemig.

Yn ôl y bobl ifanc, mae meysydd brys eraill ar gyfer gweithredu yn cynnwys:

  • Rhagor o finiau ailgylchu ar gyfer gwahanol fathau o wastraff.
  • Mentrau i wella ein cymdogaeth, parciau a meysydd chwarae gyda rhagor o ardaloedd eistedd, golau a gwyrddni.
  • Gwell cefnogaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc.
  • Lloches i bobl ddigartref.
  • Ffyrdd a strydoedd diogel.

Dywedodd Eleeza Khan, 16, oedd yn rhan o'r prosiect: "Roedd gweithio ar y prosiect yn ffordd wych o gymryd rhan yn fy nghymuned a lleisio fy mhryderon yn ogystal â phryderon y rhai o'm cwmpas.

"Roedd yn ffordd wych o ddysgu am y gwahanol ardaloedd a llefydd yn Grangetown, a'r hyn sy'n cael ei wneud eisoes i'w gwella. Gan symud ymlaen o'r cynllunio, hoffwn nawr weld y syniadau hyn yn cael eu gweithredu a lleisiau plant Grangetown yn cael eu clywed. Rwy'n edrych ymlaen at amgylchedd mwy addas i blant fyw ynddo."

Bu i Ysgol Uwchradd Fitzalan; Ysgol Gynradd Parc Ninian; Ysgol Gynradd Grangetown; Ysgol Hamadryad gynorthwyo gyda’r gweithdai.

Mae i’r fenter, sy’n tyfu o lwyddiant prosiect Porth Cymunedoly Brifysgol, nifer o bartneriaid, gan gynnwys Pafiliwn Grange a Phanel Cynghori Ysgolion Grangetown, yn ogystal â Thîm Caerdydd sy’n Dda i Blant yng Nghyngor Caerdydd.

Meddai'r Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Canghellor Sarah Merry: “Mae Caerdydd yn nesáu at wireddu ei huchelgais o ddod yn Ddinas sy’n Dda i Blant UNICEF y DU, sy’n gosod plant a phobl ifanc wrth ei chalon a lle mae eu hawliau’n cael eu parchu gan bawb.

Mae prosiect Grangetown i Gael eich Magu Ynddi yn enghraifft wych o sut mae ethos cyfeillgar at blant y cyngor yn cael ei rannu gyda phartneriaid ledled Caerdydd a sut, trwy weithio mewn partneriaeth, rydyn ni i gyd yn creu dinas lle gall plant a phobl ifanc rannu eu lleisiau a chael mewnbwn ar y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud a fydd yn effeithio arnynt.

“Bydd hyn yn sicrhau bod Caerdydd yn lle gwych i fyw a thyfu i fyny ynddo.”

Dyma a ddywedodd arweinydd y prosiect, Dr Matluba Khan, o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: “Dylai plant a phobl ifanc Grangetown fod yn falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni. Mae eu barn yn rhan annatod o'r weledigaeth hon o Grangetown well, un sy'n gynhwysol o safbwynt bawb."

Mae eu gwaith yn dangos bod gan bobl o bob oed ran i’w chwarae wrth wella’r ardal y maent yn byw ynddi.

Dr Matluba Khan Lecturer in Urban Design

Ymhlith yr academyddion eraill sydd wedi bod yn gysylltiedig mae Dr Tom Smith a Dr Neil Harris, hefyd o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio a’r Athro Mhairi McVicar o Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

Mae Shoruk Nekeb, a raddiodd o’r Ysgol Pensaernïaeth, ac sy’n byw’n lleol, wedi bod yn gynorthwy-ydd ymgysylltu cymunedol ar y prosiect ac wedi gweithio’n agos gyda’r plant.

Dywedodd: "Dros y misoedd diwethaf rwyf wedi bod yn lwcus i weithio gyda phlant a phobl ifanc Grangetown. Mae wedi bod yn braf mynd i fy hen ysgol uwchradd i gynnal gweithdai yn y llefydd lle ges i fy magu ac uniaethu â rhai o'r profiadau mae'r bobl ifanc yn eu profi o hyd, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach.

"Roedd y prosiect hwn yn caniatáu i'r holl ddata sydd wedi'u casglu gael eu mapio allan ar fap, ac fe’i cyflwynwyd yn ôl i lawer o randdeiliaid pwysig yn y ddinas. Roedd y prosiect hwn yn golygu llawer i mi gan ein bod wir eisiau sicrhau canlyniadau diriaethol o'r ymchwil hon. Byddwn i wrth fy modd yn gweld y model hwn ym mhob cwr o'r ddinas a gweithredoedd yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Rhannu’r stori hon

I wybod mwy am y gwaith rydym yn wneud a’r cymunedau mae’n helpu.