Cael eich magu a byw yn Grangetown
3 Awst 2022
Mae prosiect ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd wedi amlygu barn pobl ifanc yn Grangetown am eu gobeithion dros sicrhau cymuned well.
Yn ystod y gyfres o weithdai i blant a phobl ifanc rhwng wyth a 18 oed, buon nhw’n myfyrio ar effaith y pandemig ar eu bywydau yn ogystal â thrafod yr hyn sydd ei angen i wella'r gymdogaeth yn y dyfodol.
Gan nodi eu barn ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw, mae'r cynllun yn galw am:
- Cymdogaeth fwy diogel a glanach – gyda phwyslais ar adennill ardaloedd segur neu leoedd y cefnwyd arnyn nhw, yn ogystal â strydoedd diogel;
- Rhagor o bwyslais ar chwarae – gan gynnwys lonydd chwarae i blant iau, caffis sydd hefyd yn glybiau a gweithgareddau i bobl ifanc yn eu harddegau, cyfleoedd i chwarae yn benodol i ferched a menywod ifanc, yn ogystal ag offer chwarae i blant hŷn;
- Symud at fyw'n wyrddach – sy'n cynnwys gwella’r parciau sydd eisoes yno, ynghyd â rhagor o lystyfiant a bioamrywiaeth yn yr ardal yn ogystal â’r gallu i deithio’n wyrdd ac yn llesol;
- Cymuned sy'n helpu pawb — gan gynnwys dyluniadau sy'n ystyried anghenion pobl anabl, mannau diogel i fenywod, canolfan gymorth iechyd meddwl, cymorth tai a chyflogaeth yn ogystal â gweithgareddau a gweithdai i'r henoed.
Bellach, bydd y tîm ymchwil yn gwerthuso eu canfyddiadau ac yn penderfynu ar un prosiect i wella'r ardal sy'n ceisio mynd i'r afael â mater a godwyd gan y bobl ifanc. Bydd yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae Eleeza Khan, 16 oed, sydd newydd orffen ei harholiadau TGAU yn Ysgol Stanwell, wedi byw yn Grangetown ar hyd ei hoes.
Dyma a ddywedodd hi: “Roedd y pandemig yn anodd gan nad oeddwn i erioed wedi gwneud addysg gartref o'r blaen. Mae gen i bedair chwaer ac roedd yn rhaid inni rannu dyfeisiau i wneud ein gwaith ysgol. Ond ar ôl ychydig o amser gwnaethon ni ddod i arfer ag ef a helpais i fy chwaer fach gyda'i gwaith hefyd.
“Roedd bod yn rhan o’r prosiect ymchwil yn ddiddorol a pheth braf yw bod pobl wedi gwrando ar ein barn. Gwnaethon ni sôn am ein hoff leoedd yn Grangetown. Fy hoff le yw Pafiliwn Grange — bob tro bydda i’n mynd yno mae rhyw weithgaredd neu’i gilydd wrthi’n digwydd.
“Yn fy marn i, mae’r sbwriel yn broblem fawr yn Grangetown y mae angen mynd i'r afael ag ef ac rwy'n credu y gallai fod rhagor o ardaloedd gwyrdd. Pan fydd gennych chi gymdogaeth sy’n braf, mae'n peri ichi werthfawrogi ble rydych chi yn lle mynd ymhellach i ffwrdd.”
Mae Moneab Nekeb, 13 oed, yn byw yn ardal Glan-yr-Afon ac yn mynd i Ysgol Uwchradd Fitzalan. Dyma a ddywedodd: “Roeddwn i'n hoffi’r ffordd roedd y prosiect wedi dod â phobl ifanc at ei gilydd i siarad am eu hardal, hynny yw, os oes angen newidiadau ac a ddylid gwneud hynny yn syth neu nes ymlaen.
“Rwy'n hoffi’r ffaith bod yna lawer o bethau megis y pafiliwn sy'n helpu'r gymuned. Gallwch chi dreulio amser yn yr ardd ac mae llyfrgell lle gallwch chi ddarllen llyfrau ac eistedd.
“Rwy'n credu y gallai fod rhagor o ardaloedd cymunedol a rhagor o barciau ar gyfer pobl ifanc a'r rheini sydd ychydig yn hŷn.”
Dyma a ddywedodd arweinydd y prosiect, Dr Matluba Khan, yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: “Mae wedi bod yn fraint cael gweithio a dysgu gan y bobl ifanc hyn sydd mor angerddol am yr ardal lle maen nhw'n byw. Maen nhw wedi dangos gweledigaeth ar gyfer Grangetown sy’n gynhwysol ac yn gadarnhaol a gallai hyn wella lles y gymuned gyfan.
“Mae'n amlwg bod y pandemig wedi cael effaith ddofn ar lawer ohonyn nhw. Clywsom straeon am bobl ifanc a oedd yn teimlo'n 'bryderus' ac yn 'ofnus', eu bod yn teimlo bod y byd yn cau amdanyn nhw a’u bod wedi hen ddiflasu ar y cyfan.
“Bydd y gwaith y mae’r bobl ifanc wedi'i wneud gyda ni nawr yn sail ar gyfer cynllun adfer a phecyn cymorth i lywio Strategaeth Adfer ac Adnewyddu Dinas Caerdydd. Mawr obeithiaf y bydd yn sicrhau bod barn ac anghenion pobl ifanc yn ganolog i ddatblygiad Grangetown yn y dyfodol.”
Mae'r academyddion Dr Tom Smith a Dr Neil Harris, hefyd o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio a Dr Mhairi McVicar o Ysgol Pensaernïaeth Cymru hefyd yn rhan o'r fenter.
Mae Shoruk Nekeb, a raddiodd mewn pensaernïaeth ac sy’n breswylydd lleol, wedi bod yn gynorthwyydd ymgysylltu â’r gymuned ar y prosiect.
Dyma a ddywedodd Shoruk, sydd hefyd yn gyfarwyddwr Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange: “Rwy'n credu ei bod yn wych y bydd y prosiect yn cynnwys un prosiect ymyrraeth fydd yn mynd i'r afael â dymuniadau pobl ifanc ar gyfer yr ardal. Mae'n dangos iddyn nhw fod eu barn yn bwysig.”
Mae gan y prosiect, sy’n ychwanegu at lwyddiant prosiect ymgysylltu cymunedol blaenllaw'r Brifysgol, y Porth Cymunedol, nifer o bartneriaid, gan gynnwys Pafiliwn Grange a Phanel Cynghori Ysgolion Grangetown, yn ogystal â Thîm Dinas sy’n Dda i Blant yng Nghyngor Caerdydd.