Ewch i’r prif gynnwys

95% o'r ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg gyda'r gorau yn y byd neu'n rhyngwladol ragorol

12 Mai 2022

Fire service

Yng nghanlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 12 Mai), nodwyd bod 95% o'r ymchwil yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd yn swyddogol gyda’r gorau yn y byd, neu'n rhyngwladol ragorol, o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd.

Mae REF yn asesiad annibynnol o ansawdd ymchwil ar draws sefydliadau addysg uwch y DU. Mae'r canlyniadau diweddaraf hyn yn cadarnhau bod yr Ysgol yn ganolfan ragoriaeth sydd gyda’r gorau yn y byd, a’i bod yn y 7fed safle yn gyffredinol (ymhlith 93) yn y DU, a 3.55 yw sgôr ei chyfartaledd pwynt gradd.

Dyfarnwyd y sgôr uchaf posibl (4.00) i amgylchedd ymchwil yr Ysgol hefyd. Mae’r amgylchedd hwn yn cael ei ystyried yn un sy’n helpu i gynhyrchu ymchwil ryngwladol ragorol, o ran ei bywiogrwydd a’i chynaliadwyedd.

“Mae'r canlyniad hwn nid yn unig yn dangos ymroddiad a safon ein staff. Mae hefyd yn cadarnhau'r effaith gadarnhaol y mae ein hymchwil wedi'i chael ar gymdeithas drwy lywio polisïau cyhoeddus a deilliannau iechyd. Mae cael dyfarniad 4* am ein hamgylchedd ymchwil yn gyflawniad anhygoel. Mae hefyd yn llwyddiant pwysig fydd yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr yn ein Hysgol.”
Yr Athro Petroc Sumner Professor and Head of School of Psychology

Mae’r ymchwilwyr yn ein Hysgol yn gweithio ar draws maes eang seicoleg er mwyn mynd i’r afael â heriau o bwys sy’n wynebu cymdeithas a’r amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys newid y ddeddfwriaeth yn y DU sy’n ceisio lleihau gwastraff plastig untro drwy godi tâl ar y rhai sy’n defnyddio plastig o’r fath, cyflwyno gwasanaeth cenedlaethol newydd i gefnogi mabwysiadu brodyr a chwiorydd a phlant mewn gofal sy’n anodd eu lleoli, yn ogystal â newid canllawiau i wasanaethau brys y DU.

Mae’n werth cofio ein bod wedi cyflawni’r canlyniad hwn er i ni bron â dyblu nifer y staff academaidd a gyflwynodd ar gyfer REF 2021. Roedd y cyflwyniad yn adlewyrchiad o ddull cynhwysol o gefnogi rhagoriaeth ymchwil ar draws pob disgyblaeth. Fe gyflawnwyd hyn trwy gynorthwyo ymchwilwyr Caerdydd i gyflawni ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth. Mae’r ffaith inni gyflwyno 100% o’n hymchwil, yn ogystal â’r twf sylweddol yn ein cymuned ymchwil yn ystod cyfnod REF 2021, yn brawf o hyn.

Darllenwch y nodweddion amlycaf ym mhrif astudiaethau achos o effaith yr Ysgol Seicolega gyflwynwyd i REF 2021.

Rhannu’r stori hon

Mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar draws sbectrwm seicoleg i fynd i’r afael â heriau o bwys sy’n wynebu’r gymdeithas a’r amgylchedd.