Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes Caerdydd yn sicrhau’r sgôr uchaf bosibl unwaith eto ar gyfer amgylchedd ymchwil yn REF 2021

12 Mai 2022

Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn un o ddwy ysgol fusnes yn unig yn y DU sydd wedi sicrhau’r sgôr uchaf bosibl unwaith eto ar gyfer amgylchedd ymchwil yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF).

Mae'r canlyniad hwn yn adlewyrchu diwylliant colegol, cynhwysol a chyfranogol yr Ysgol, a'n hethos o ran Gwerth Cyhoeddus, lle mae ymchwilwyr yn cyfrannu ymchwil drylwyr, meddylgar ac ymgysylltiol sy'n cael effaith ar eu disgyblaethau a chymdeithas yn ehangach.

Roedd cyflwyniadau’r Ysgol yn cynnwys ymchwil i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau o ran cyflog, hawliau anabledd, buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a gwella perfformiad llywodraeth leol.

Mae'r REF yn asesu ansawdd ymchwil prifysgolion ym mhob disgyblaeth mewn ffordd gadarn a thrylwyr. I gyd, cymerodd 157 prifysgol yn y DU ran, a chafodd gwaith mwy na 76,000 o staff academaidd ei gyflwyno.

Mae asesiadau o amgylchedd yn gwerthuso'r strategaeth, yr adnoddau a'r seilwaith sy'n cefnogi ymchwil ac sy’n galluogi effaith.

Ar gyfer REF 2021, cyflwynodd yr Ysgol waith 100 o ymchwilwyr ychwanegol mewn cymhariaeth â 2014. O gyfuno hyn â sgôr Cyfartaledd Pwynt Gradd yn y chwartel uchaf, mae Ysgol Busnes Caerdydd yn 2il ymhlith 108 o ysgolion busnes yn y DU ar gyfer Pŵer Ymchwil (arwydd o ansawdd a maint ein cyflwyniad).

Dywedodd yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd: “Rwyf mor falch o weld ein hamgylchedd ymchwil colegol a chydweithredol yn cael ei gymeradwyo yng nghanlyniadau REF 2021, yn ogystal â’n hethos o ran Gwerth Cyhoeddus.

“Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys yn adlewyrchu ein cymuned ymchwil gynhwysol.

“Hoffwn ddiolch i’m holl gydweithwyr am eu holl gyfraniadau at ein diwylliant ymchwil bywiog a rhyngddisgyblaethol sy’n cyfuno rhagoriaeth academaidd ryngwladol ag effaith gymdeithasol sylweddol ac eang.”

Darganfyddwch ragor am ein cyflwyniad i REF 2021 a’n hymchwil.

Darganfyddwch ragor am effaith ein hymchwil.

Rhannu’r stori hon

Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yw’r system a ddefnyddir i asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU.