Mae nifer y bobl yng Nghymru sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol wedi cynyddu mwy na dwywaith yn ystod y pandemig, yn ôl adroddiad
16 Gorffennaf 2021
Mae COVID-19 wedi gwaethygu’r mathau o anghydraddoldeb iechyd meddwl y mae pobl yng Nghymru eisoes yn eu hwynebu, yn ôl adroddiad newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Mae'r dadansoddiad, a wnaed gan academyddion yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, yn datgelu bod nifer y bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol wedi cynyddu o 11.7% yn ystod y cyfnod yn union cyn y pandemig i 28.1% erbyn mis Ebrill 2020.
Er bod iechyd meddwl pawb yng Nghymru wedi dioddef i ryw raddau yn ystod y pandemig a’r cyfnodau clo cysylltiedig, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at yr effaith anghymesur ar fenywod, oedolion iau, y sawl ar incwm isel a’r rheiny o gefndir Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Dywed yr ymchwilwyr fod y canfyddiadau yn tynnu sylw at her iechyd cyhoeddus hollbwysig i Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd i ddod gan fod iechyd meddwl yn elfen allweddol sy’n gyrru llwyddiant addysgol, enillion yn y dyfodol, cyflogaeth ac iechyd corfforol pobl.
Dyma a ddywedodd Jesús Rodríguez, Cynorthwyydd Ymchwil sy’n gweithio ar raglen Dadansoddi Cyllid Cymru’r Ganolfan ac awdur yr adroddiad: “Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith affwysol ar iechyd meddwl poblogaeth Cymru.
“Er nad yw iechyd meddwl yr un grŵp wedi bod yn arbennig o dda, mae iechyd meddwl menywod, oedolion iau, y sawl ar incwm isel a’r rheiny o gefndir Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi bod yn waeth. Mae’r bwlch o ran iechyd meddwl rhwng y cyfoethocaf a’r tlotaf hefyd wedi ehangu yn ystod y pandemig, ac rydyn ni’n disgwyl y bydd galw sylweddol ar wasanaethau iechyd meddwl yn ystod y blynyddoedd i ddod.
“Rydyn ni’n gwybod y gall y mathau hyn o effeithiau ar iechyd meddwl ddylanwadu'n negyddol ar addysg, cyflogaeth ac iechyd unigolyn yn y dyfodol. Felly, bydd angen adnoddau sylweddol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl wrth symud ymlaen.”
Er mwyn ymchwilio i effaith COVID-19 ar iechyd meddwl yng Nghymru, defnyddiodd yr ymchwilwyr ddata o ‘Understanding Society UK Household Longitudinal Study’ (UKHLS), sef astudiaeth arhydol a ofynnodd i’r sawl a gymerodd ran roi gwybod am symptomau megis trafferth i gysgu, canolbwyntio, problemau o ran gwneud penderfyniadau, straen a theimlo’n isel a bod pethau’n ormod.
Er bod adroddiadau blaenorol wedi defnyddio’r UKHLS i ddadansoddi tueddiadau yn y DU, dyma’r adroddiad cyntaf i ganolbwyntio a chyflwyno data ar Gymru’n unig.
Nod y tîm oedd meintioli effaith pandemig COVID-19, y cyfnodau clo a’r cyfyngiadau cymdeithasol ar iechyd meddwl yng Nghymru drwy edrych ar y cyfnod cyn pandemig COVID-19 (2009-2019) a’r cyfnod yn ystod y pandemig (mis Ebrill 2020 hyd at fis Mawrth 2021).
Gwnaeth y tîm werthuso’r deilliannau o ran iechyd meddwl drwy ddefnyddio Holiadur Iechyd Cyffredinol 12 eitem – dangosydd a ddefnyddir yn aml i astudio cyflyrau iechyd meddwl unigol megis gorbryder, iselder neu straen.
Canfu'r adroddiad y canlynol:
- Cynyddodd nifer y bobl yng Nghymru a nododd broblemau iechyd meddwl difrifol o 11.7% cyn y pandemig i 28.1% erbyn mis Ebrill 2020.
- Oedolion ifanc rhwng 16 a 24 oed oedd â’r dirywiad mwyaf yn eu hiechyd meddwl o ganlyniad i COVID-19, ac roedd eu dangosydd cyfartalog wedi gwaethygu 24% o'i gymharu â'r cyfnod cyn y pandemig.
- Ar gyfartaledd, roedd gan fenywod lefelau gwaeth o iechyd meddwl ar ôl i’r pandemig ddechrau o’u cymharu â dynion.
- Erbyn mis Mehefin 2020, rhoddodd unigolion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru wybod bod ganddyn nhw, ar gyfartaledd, fwy na 4.1 o broblemau a oedd yn gysylltiedig â thrallod meddwl, tra bod Prydeinwyr Gwyn wedi nodi 2.7, sef gwahaniaeth o 55% mewn termau cymharol.
- Ehangodd y bwlch o ran iechyd meddwl rhwng y sawl ar yr incwm isaf ac uchaf yn sylweddol yn ystod y pandemig. Gwaethygodd sgoriau iechyd meddwl pobl ar incwm isel 39% erbyn mis Tachwedd 2020, o gymharu â dirywiad o 6.5% ar gyfer y sawl sy'n ennill yr incwm uchaf.
Cyhoeddwyd yr adroddiad yn dilyn dadansoddiadau'r tîm o’r pwysau cyllidebol yn y dyfodol ar Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2021. Ymhlith y rheiny roedd adroddiad ar y GIG a Chyllideb Cymru , a nododd bwysau a galw sylweddol am wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Darllenwch COVID-19 yng Nghymru: yr effaith ar iechyd meddwl a lles yn llawn, yma.