Ewch i’r prif gynnwys

Cymru sydd â'r gyfran isaf o swyddi yn y DG y gellid eu gwneud gartref, yn ôl astudiaeth

5 Awst 2020

Person working at home stock image

Mae dadansoddiadau'n awgrymu bod gweithwyr o Gymru yn cael llai o gyfleoedd i weithio gartref o gymharu â'r rhai yng ngweddill y DG.

Mae'r papur hysbysu o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn amcangyfrif bod ychydig llai na dwy ran o bump (39.9%) o weithlu Cymru yn gallu gweithio gartref, ffigur sy'n is na chyfartaledd y DG o 45.2% ac yn sylweddol is na Llundain lle mae 58.7% yn gallu gweithio gartref.

Fodd bynnag, mae Cymru'n cymharu'n ffafriol â rhai o brif economïau Ewrop, gan gynnwys yr Almaen, Iwerddon a'r Ffindir.

Mae'r ymchwil yn canfod bod y potensial i weithio gartref yn amrywio yn ôl sector a galwedigaeth a'i fod yn gysylltiedig â lefelau incwm uwch.

Mae staff uwch, rheoli a phroffesiynol yn fwy tebygol o allu gweithio gartref, gan awgrymu y bydd gweithwyr ar incwm uwch wedi gallu rheoli cadw pellter cymdeithasol yn well trwy weithio gartref.

Yn y cyfamser, ychydig iawn o gyfle sydd gan rai sectorau a galwedigaethau, ar gyflog is yn gyffredinol, i gynyddu eu hamser yn gweithio o gartref, gan gynyddu peryglon iechyd posibl yn ogystal â'r risg o golli cyflogaeth, oriau ac incwm yn ystod yr argyfwng. Mae'r rhain yn cynnwys y sectorau adeiladu, manwerthu a lletygarwch.

Dywedodd awdur yr adroddiad, Jesús Rodríguez: “Mae cyfran y swyddi y gellir eu cyflawni i ffwrdd o weithleoedd wedi bod yn ffactor pwysig ym mherfformiad yr economi yn ystod yr argyfwng hwn. Gyda bron i ddwy ran o bump o weithwyr Cymru yn gallu gweithio gartref, mae economi Cymru wedi cael cyfle i barhau i weithredu o dan fesurau cadw pellter cymdeithasol.

“Fodd bynnag, mae’r rhai sy’n gweithio gartref yn ystod ac ar ôl yr argyfwng yn tueddu i ennill cyflog uwch. Mae gweithwyr iau a llai addysgedig yn tueddu i fod mewn galwedigaethau a diwydiannau heb fawr o botensial i weithio gartref."

Dyma ffordd arall y bydd y pandemig yn gwaethygu’r anghydraddoldebau economaidd presennol yn economi Cymru. Dylai llywodraethau ganolbwyntio ar gefnogi’r rheiny sy’n ysgwyddo’r baich economaidd mewn sectorau agored i niwed ac ansefydlog.

Mae'r ymchwil yn dangos y bydd gan newid parhaol i lefelau uwch o weithio gartref oblygiadau economaidd sylweddol, o ddylanwadu ar lefelau cynhyrchiant rhanbarthol ledled y DG, i leihau'r galw am rai swyddi.

Dywedodd Jesús Rodríguez: “Nid yw’n hysbys pa mor hir bydd y cyfyngiadau symud yn parhau a sut bydd patrymau gweithio yn newid dros y tymor hwy.

“Bydd y newid i weithio gartref yn effeithio ar rannau o Gymru yn wahanol. Er enghraifft, nid oes band eang ar gael ar gyflymder derbyniol mewn rhannau helaeth o rai ardaloedd yn y DG, gan olygu bod gweithio gartref yn anoddach yn yr ardaloedd hynny. Bydd gweithio gartref hefyd yn cael effaith sylweddol ar y galw am swyddi, megis gwasanaethau glanhau neu arlwyo sydd ar hyn o bryd yn gwasanaethu gweithwyr swyddfa mewn trefi a dinasoedd.

“Er y bydd swyddi newydd yn dod i’r amlwg hefyd, rôl y llywodraeth fydd rheoli pontio o’r fath, yn bennaf trwy gynnig rhwyd ​​ddiogelwch a chefnogaeth fwy cynhwysfawr i’r rhai yr effeithir arnynt.”


Rhannu’r stori hon

We undertake innovative research into all aspects of the law, politics, government and political economy of Wales, as well the wider UK and European contexts of territorial governance.