GIRO-ZERO yn sicrhau cyllid gan y llywodraeth
29 Ebrill 2021
![Vehicle crossing bridge at dusk](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0010/2516698/Freight-vehicle-crossing-bridge.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Bydd £400k o gyllid gan Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y DU yn helpu arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd ac Universidad de Los Andes i lywio'r sector cludo nwyddau yn Colombia at strategaeth dim allyriadau.
Bydd prosiect GIRO-ZERO yn cyflymu gwaith adnewyddu a thechnolegau cerbydau i leihau'r milltiroedd a deithir, y tanwydd a ddefnyddir, a'r CO2e a allyrrir gan gerbydau'n gweithredu yn y sector cludo nwyddau ar ffyrdd Colombia.
Gan ddefnyddio arbenigedd y tîm mewn logisteg, trafnidiaeth, gwyddoniaeth rheoli ac economeg, bydd y prosiect yn asesu hyfywedd mabwysiadu technolegau amgen, megis technolegau cerbydau carbon isel fel cerbydau trydan, hydrogen a biodanwyddau, ac offer cynllunio deinamig sy'n gwella'r broses o gynllunio a gweithredu teithiau a redir gan gwmnïau cerbydau yng Ngholombia.
Bydd dadansoddi meintiol, modelu dadansoddol a chyfnewid gwybodaeth rhwng partneriaid y prosiect a'i randdeiliaid allweddol yn ceisio meithrin gallu hefyd.
Mae'r ymchwilwyr sy'n rhan o GIRO-ZERO yn cynnwys:
- Prifysgol Caerdydd - Dr Vasco Sanchez Rodrigues (Arweinydd Prifysgol Caerdydd a Phrif Arbenigwr), Dr Emrah Demir, Dr Wessam Abouarghoub a'r Athro Anthony Beresford (Prif Arbenigwyr).
- UniAndes – Dr Carlos Eduardo Hernández Castillo (Arweinydd y Prosiect), yr Athro Gordon Wilmsmeier a Dr Juan Pablo Bocarejo Suescun (Prif Arbenigwyr).
![Lorry parked in port](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/2516705/Freight-vehicle-loaded-with-goods.jpg?w=575&ar=16:9)
Dywedodd Dr Vasco Sanchez Rodrigues, Prif Academydd Prifysgol Caerdydd ar y prosiect a Darllenydd mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau: “Rydym ni wrth ein bodd gyda'r cyllid hwn, yn enwedig gan y bydd prosiect GIRO-ZERO yn sail ar gyfer cyllid ychwanegol am bedair blynedd arall o ymchwil gydweithredol. Caiff y cyllid ychwanegol ei ddefnyddio i lywio a hwyluso gweithredu'r argymhellion sy'n codi o'r prosiect...”
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/2564331/598319-1632238760289.jpeg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
“Mae'r prosiect yn enghraifft arall o Ysgol Busnes Caerdydd yn sefydlu ac yn cyfnerthu ymchwil ryngwladol gydweithredol yn Ne America, yn cynnwys cydweithrediadau a ddatblygwyd ers 2019 gyda UDD (Chile), UNCuyo (yr Ariannin) ac Ysgol Peirianneg UniCamp (Brasil).”
“Mae ein cydweithrediad strategol gydag Universidad de los Andes (Colombia) a phrifysgolion eraill De America yn gam at nod Ysgol Busnes Caerdydd o gael presenoldeb sefydledig mewn marchnadoedd addysg uwch anhraddodiadol.”
“Bydd y cydweithio rhyngwladol rhwng Universidad de los Andes ac Ysgol Busnes Caerdydd yn cynnig strategaethau a all gynyddu mabwysiadu arferion cynaliadwy a throsglwyddo gwybodaeth bresennol a newydd i'r sector cludo nwyddau ar y ffyrdd drwy wneud offer ar gyfer monitro a gwella rhinweddau gwyrdd fflydoedd lorïau yng Ngholombia.”
Roedd y prosiect, fydd yn rhedeg rhwng 1 Chwefror 2021 a 31 Ionawr 2022, ymhlith 1,406 o gyflwyniadau i Banel Rhaglen Pact Colombia-y DU ym mis Awst 2020.
Roedd cydymdrech y ddau sefydliad ar gynnig GIRO-ZERO yn golygu bod y prosiect yn un o bymtheg yn unig i dderbyn cyllid.