Ewch i’r prif gynnwys

Hyfforddiant addysg weithredol i weithwyr proffesiynol Ocado

26 Ionawr 2021

Supermarket delivery vehicle in rural setting

Mae arbenigwyr o adran Rheoli Logisteg a Gweithrediadau Ysgol Busnes Caerdydd wedi lansio rhaglen newydd o hyfforddiant gweithredol  i wella ac ehangu sgiliau dadansoddi a meddal rheolwyr canol ac iau Ocado.

Cynlluniwyd y rhaglen 9 mis yn benodol i ateb gofynion dysgu Ocado, a dechreuodd ddydd Llun 25 Ionawr 2021 dan arweiniad Cyfarwyddwr y Cwrs Dr Vasco Sanchez Rodrigues a'r Cyd-Gyfarwyddwr Dr Emrah Demir.

Oherwydd y cyfyngiadau clo ar draws y DU i leddfu pandemig Coronafeirws (COVID-19), cynhelir y cwrs ar-lein gan gyfuno anghenion hyfforddi a blaenoriaethau ymchwil a amlinellwyd gan Ocado ar draws eu gweithrediadau rheoli'r gadwyn gyflenwi a logisteg, gan gynnwys:

  • rhagweld galw
  • optimeiddio stocrestr
  • rheoli trafnidiaeth
  • llwybro cerbydau
  • cynaladwyedd
  • e-fasnach
  • y berthynas â chyflenwyr.

Dywedodd Dr Vasco Sanchez Rodrigues, Darllenydd mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae'r cwrs hyfforddi hwn yn rhan allweddol o'r bartneriaeth gref mae Prifysgol Caerdydd wedi'i datblygu gydag Ocado ers 2017...”

“Nod y cwrs yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddatblygiad proffesiynol staff iau Ocado trwy ddatblygu prosiectau sy'n canolbwyntio ar heriau a blaenoriaethau cyfredol Ocado. Mae disgwyl y bydd gan rai o'r prosiectau oblygiadau cyllido ac ymchwil cadarnhaol hefyd.”

Yr Athro Vasco Sanchez Rodrigues Professor in Sustainable Supply Chain Management

Ychwanegodd Dr Emrah Demir, Darllenydd mewn Gwyddor Rheoli ac Athro Cysylltiol PARC mewn Gweithgynhyrchu a Logisteg yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae ein perthynas strategol gydag Ocado yn cryfhau o hyd, ac yn gadael inni ddysgu drwy ymarfer a siapio ein hymchwil ein hunain...”

“Bydd y cyfle hyfforddi diweddaraf hwn yn cryfhau'r cydweithio ac yn cynnig syniadau a chwestiynau ymchwil newydd i ni. Caiff amrywiaeth eang o bynciau eu trin yn y sesiynau, fydd yn cyfrannu at gynllunio gweithredol ac agenda cynaladwyedd Ocado.”

Yr Athro Emrah Demir Professor of Operational Research, The PARC Professor of Manufacturing and Logistics, Deputy Head of Section (Learning and Teaching)

Dywedodd Mark Watson, Cyfarwyddwr Dadansoddi Cadwyn Gyflenwi a Chynllunio Logisteg Grŵp Ocado: "Rydym yn gweithio gydag Ysgol Busnes Caerdydd gan ei bod yn dîm academaidd galluog a phrofiadol iawn ac y gorau yn ei maes. Trwy gael y berthynas unigryw hon, gwnaethom greu rhywbeth pwrpasol iawn sy'n bodloni gofynion ar gyfer cynlluniau datblygu unigol ac sydd o fudd aruthrol i Ocado hefyd."

Cyflwynir y rhaglen bwrpasol gan arbenigwyr o Adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau Ysgol Busnes Caerdydd, yn cynnwys Dr Vasco Sanchez Rodrigues, Dr Emrah Demir, Dr Paul Wang, Dr Laura Purvis, Dr Yingli Wang a Barry Evans, gyda chefnogaeth Tîm Addysg Weithredol yr Ysgol.

I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygu rhaglen ddysgu bwrpasol ar gyfer eich sefydliad, cysylltwch â Executive-education@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.