Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddwr o fri yn dathlu ymchwilwyr Tsieineaidd

21 Ebrill 2021

Red illustrated Ox

Mae pennod o lyfr a gafodd ei chyd-ysgrifennu gan arbenigwr Busnes a Rheolaeth Ryngwladol o Brifysgol Caerdydd wedi cael sylw mewn detholiad o gyhoeddiadau dylanwadol gan ymchwilwyr o Tsieina.

Mae'r rhestr, a luniwyd gan Springer Nature, yn cynnwys deg ar hugain o'r papurau ymchwil a ddyfynnwyd fwyaf a phenodau llyfrau wedi'u lawrlwytho ym meysydd Busnes a Rheolaeth, Economeg, Gwleidyddiaeth a'r Gyfraith hyd at fis Rhagfyr 2020, yn seiliedig ar wybodaeth y cyhoeddwr.

Fe wnaeth Dr Yue Xu, darlithydd yn Adran Marchnata a Strategaeth Ysgol Busnes Caerdydd, gyd-ysgrifennu’r bennod ‘Independent or Interdependent Innovation: The Case of Huawei 'ar gyfer casgliad wedi'i olygu am y cwmni technoleg rhyngwladol Tsieineaidd o'r enw Huawei Goes Global.

Mae’r bennod, a ysgrifennwyd gyda’r Athro Cynorthwyol Xingkun Liang o Adran Rheoli Gwybodaeth Prifysgol Peking, yn canolbwyntio ar broses arloesi Huawei ac mae’n esbonio sut mae cwmnïau sydd wedi ymuno â’r maes yn hwyrach yn gallu rheoli eu cyd-ddibyniaeth a’u hannibyniaeth yn fwriadol wrth ddal i fyny.

Mae’r rhestr yn rhan o gasgliad a guradwyd o’r cyhoeddiadau mwyaf dylanwadol diweddaraf gan ymchwilwyr o Tsieina ar draws BMC, Nature Portfolio, Palgrave Macmillan a Springer gan gynnwys 300+ o gyfnodolion arwyddocaol.

“Rydw i wrth fy modd bod Springer Narure wedi amlygu ein hymchwil yn y casgliad arbennig hwn. Yn y bennod, fe wnes i a Xinghun drin a thrafod ystyr arloesedd annibynnol. Mae hwn yn gysyniad poblogaidd a ddefnyddir yn eang ym myd busnes Tsieina. Roedd yn gyfle hynod ddiddorol i archwilio gwir ystyr y term. Ac mae wedi bod yn fraint gweld maint yr effaith a’r gwaith yn cael ei werthfawrogi fel hyn.”

Dr Yue Tina Xu Lecturer in International Business and Management

Lansiwyd y casgliad yn rhan o’r Ŵyl Wanwyn Tsieineaidd i nodi Blwyddyn Newydd yr Ychen 2021.

Meddai Niels Peter  Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Springer Nature (Books): “Ar achlysur Gŵyl y Gwanwyn mae tîm cyfan Springer Nature Books yn dymuno blwyddyn hapus a llwyddiannus yr ychen i’r gymuned ymchwil Tsieineaidd.”

Darllenwch ymchwil Dr Xu ar Huawei yn Springer Nature.

Rhannu’r stori hon

Fel myfyriwr PhD byddwch yn cael eich integreiddio'n llawn i gymuned ymchwil ac academaidd yr Ysgol.