Ewch i’r prif gynnwys

Mae cydnabyddiaeth, cred ac ymateb emosiynol i dwyllwybodaeth yn ffactorau allweddol o ran ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol, yn ôl adroddiad

23 February 2021

Mae pobl yn fwy tebygol o gredu straeon newyddion ffug a’u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol os yw darllenwyr yn credu eu bod wedi'u gweld o'r blaen, yn ôl ymchwil.

Dywed academyddion yn Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd fod eu addroddiad yn cynnig esboniadau newydd i'r rhesymau dros pam y gall honiadau hurt ddenu sylw ar y cyfryngau cymdeithasol.

Lluniodd y tîm stori newyddion ffug a'i dangos i 8,630 o ddinasyddion mewn 12 gwlad wahanol yn Ewrop cyn asesu eu hymatebion. Roedd y stori ffug am ddolffin lleiddiol comiwnyddol yn mynd i gyrchfan wyliau boblogaidd, yn fwriadol debyg i adroddiadau blaenorol yn y cyfryngau ar ddefnyddio dolffiniaid a morfilod ar gyfer gweithgareddau ysbïo gan lywodraethau.

Roedd mwy na hanner (53%) y rhai a oedd yn credu eu bod yn cofio clywed y stori newyddion yn credu'r cynnwys i ryw raddau, o'i gymharu â 10% o'r rhai nad oedd yn cofio clywed y stori.

Y rhai a oedd yn cofio’r stori a’r rhai oedd yn credu’r stori oedd yn ymateb fwyaf emosiynol i’r cynnwys. Ym mhob gwlad, dangosodd y data gysylltiad arwyddocaol rhwng emosiwn ac ymgysylltiad ymddygiadol - fel clicio ar y ddolen neu rannu'r stori ag eraill.

Yn ôl yr Athro Kate Daunt, o’r Rhaglen Ymchwil am Ddadansoddi Cyfathrebiadau o Ffynonellau Agored, (OSCAR): "Mae profi ymatebion dinasyddion i newyddion ffug trwy ddangos yr un stori a gafodd ei dyfeisio iddynt wedi caniatáu inni ddod i gasgliadau ystyrlon ynghylch lledaeniad twyllwybodaeth. Mae ein canlyniadau'n tynnu sylw at bwysigrwydd 'effaith wirionedd rithiol', lle mae unigolion yn fwy tebygol o gredu neges y maent yn dod ar ei thraws dro ar ôl tro dros amser. Er bod y rhan fwyaf yn amau’r stori, roedd nifer fawr o'r rhai a holwyd yn credu’r stori i raddau gwahanol yn rhannol oherwydd eu bod yn teimlo eu bod wedi'i gweld o'r blaen."

Mae ein canfyddiadau yn dangos bod pobl yn fwy tebygol o ymateb yn emosiynol a rhannu stori os ydyn nhw'n ei chredu. Mae'n dangos y technegau seicolegol cymhleth sydd ar waith gan y rhai sy'n lledaenu twyllwybodaeth.

Yr Athro Kate Daunt (née Reynolds) Reader in Marketing

Dywedodd ychydig llai na hanner (46%) y dinasyddion y byddent yn rhyngweithio â'r stori newyddion mewn rhyw ffordd gydag 16% o'r ymatebwyr yn nodi y byddent yn ymgysylltu â'r stori trwy ddwy ffordd neu fwy. Dywedodd bron i draean o'r rhai a holwyd y byddent yn clicio ar y ddolen yn y neges ar y cyfryngau cymdeithasol (29%) a dywedodd 13% y byddent yn dweud wrth ffrindiau a theulu all-lein amdani.

Ar gyfartaledd, roedd pobl a ddywedodd y byddent yn rhyngweithio â'r stori yn iau, wedi derbyn llai o flynyddoedd o addysg, yn fwy tebygol o nodi eu bod yn perthyn i grŵp lleiafrifol ac yn fwy crefyddol.

Gofynnwyd i'r ymatebwyr a edrychodd ar y stori sut roedd wedi gwneud iddynt deimlo. Mae'r canlyniadau'n dangos bod 29% o'r rhai a holwyd wedi teimlo dicter ar ôl ei darllen, tra bod 15% wedi teimlo'n ofnus, 42% wedi synnu a 17% wedi cyffroi.

Roedd y data'n dangos bod effaith emosiynol yn sbardun allweddol o ran ymgysylltu, gyda 78% o'r rhai a oedd yn teimlo'n 'ofnus iawn', 70% o'r rhai a oedd wedi’u 'synnu’n fawr' ac 84% a oedd yn 'wedi’u cyffroi’n fawr' yn dweud y byddent wedi rhyngweithio â'r stori mewn rhyw ffordd.

Dywedodd yr ymchwilydd Bella Orpen: “Mae'r canfyddiadau hyn yn taflu goleuni ar pam mae rhai darnau o dwyllwybodaeth yn derbyn mwy o sylw nag eraill a pham y gallai rhai pobl fod yn fwy tueddol o gael eu dylanwadu ganddynt. Mae emosiynau, adweithedd seicolegol ac ymgysylltu â'r cyfryngau cymdeithasol yn bwysig wrth feithrin sylw dinasyddion at dwyllwybodaeth. Mae'r data'n dangos gwendidau sy'n benodol i wledydd gwahanol o ran mecanweithiau a all gynyddu'r tebygolrwydd o rannu twyllwybodaeth."

Casglwyd y data drwy arolwg ar raddfa fawr a ddyluniwyd gan Brifysgol Caerdydd mewn 12 gwlad. Cafodd ei rannu trwy blatfform ar-lein Qualtrics rhwng 18 Mawrth a 30 Ebrill 2020. Defnyddiodd yr arolwg 53 cwestiwn i asesu canfyddiadau, gwendidau a gallu dinasyddion i adnabod twyllwybodaeth a newyddion ffug. Rhoddwyd cwotâu ar y samplu i sicrhau cynrychiolaeth deg o oedran, rhyw a lleoliad ar gyfer pob gwlad.

Mae'r Sefydliad yn aelod o Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd (SPARK) - casgliad o grwpiau ymchwil gwyddorau cymdeithasol blaenllaw sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu atebion arloesol i broblemau cymdeithasol trwy weithgaredd ymchwil cydweithredol. Bydd wedi'i chydleoli mewn hwb arloesedd newydd, sbarc, yn hwyrach eleni.