Ewch i’r prif gynnwys

Beth mae'n ei olygu i fod yn Fwslim ym Mhrydain?

14 Rhagfyr 2020

Pupils of St Teilo's Church in Wales High School being interviewed for the project
Pupils of St Teilo's Church in Wales High School being interviewed for the project. Image credit: Centre for the Study of Islam in the UK

Mae disgyblion ysgol uwchradd yn rhannu eu barn am yr hyn bod yn Fwslim ym Mhrydain yn ei olygu gyda chymorth adnoddau dysgu ac addysgu rhad am ddim a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain yn rhaglen naw gwers sy’n seiliedig ar ymchwil gymdeithasegol arloesol. Mae’n rhoi dealltwriaeth i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3 o'r hyn y mae Mwslimiaid yn ei brofi yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

Gan ymgorffori hanesion uniongyrchol o ystod o ffynonellau, mae'r adnodd yn seiliedig ar Gwrs Ar-lein Agored Enfawr Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain (MOOC) llwyddiannus Canolfan Islam-y DU. Mae academyddion hefyd yn cefnogi athrawon Addysg Grefyddol trwy ddylunio cwrs DPP cysylltiedig, a gaoff ei gyflwyno ym mis Ionawr 2021.  16 Rhagfyr 2020 yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

Dywedodd arweinydd y prosiect, Dr Matthew Vince, o'r Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU, sy’n rhan o Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd y Brifysgol: “Yn y gorffennol, mae addysgu Addysg Grefyddol wedi cael ei beirniadu am ganolbwyntio gormod ar ddiwinyddiaeth a chredoau ar draul profiad pobl yn y gymdeithas fodern. Mae Islam wedi bod yn arbennig o agored i gamgynrychioli a safbwyntiau ystrydebol. Nod ein hadnoddau addysgu yw cywiro hynny trwy ddangos profiad go iawn unigolion a chymunedau.

Er bod yr adnoddau ar gyfer unrhyw un sy’n addysgu Addysg Grefyddol ledled y DU, rydym yn teimlo y byddant yn cyd-fynd yn dda â Chwricwlwm newydd Cymru, gan roi hyblygrwydd i athrawon eu defnyddio’n llawn neu eu haddasu yn unol ag anghenion penodol eu disgyblion.

Dr Matt Vince Honorary Research Fellow

Mae'r adnoddau'n cofnodi barn Mwslimiaid yn y DU.

Dywedodd Hanan, myfyriwr a gyfrannodd at y prosiect: “Rwy’n credu bod Islam yn rhywbeth sy’n rhoi gobaith i chi oherwydd bod rhywbeth yno, mae rheswm dros eich bywyd. Mae'n rhoi rheswm, pwrpas i chi fyw ac mae'n rhoi arweiniad mewn bywyd i chi fel nad ydych chi’n teimlo eich bod ar goll.”

Ychwanegodd myfyriwr Hamza: “Heddwch yw Islam, nid fel yr hyn sy’n cael ei bortreadu yn y newyddion. Mae bod yn grefydd heddwch yn rhywbeth sy’n fy arwain bob dydd. ”

Dywedodd Marie Timberlake, athrawes yn Academi Gilbert Inglefield yn Swydd Bedford, ac sydd wedi defnyddio'r deunyddiau mewn gwersi: “Defnyddiwyd yr adnoddau i ddatblygu ein darpariaeth cwricwlwm ym Mlwyddyn 8 ac maent wedi bod yn boblogaidd dros ben gyda’r plant. Roeddent yn mwynhau'r dull personol yr oedd yr uned yn ei gynnig, ac roedd yn wych cael y fideos i'w dangos i'r plant gan eu bod yn caniatáu iddynt uniaethu â phobl, yn hytrach na darllen gwybodaeth ar dudalen yn unig.

“Roedd y disgyblion yn arbennig o hoff o gysylltiadau hanesyddol a daearyddol yn y gwersi ac roeddent wrth eu bodd â'r gwersi "mynegiant trwy gelf ". Roedd yn ddiddorol eu cyflwyno i'r cysyniad o Gymdeithaseg gan nad oedden nhw wedi'i brofi'n uniongyrchol o'r blaen. Heb os, byddwn yn ailddefnyddio'r adnoddau hyn yn y dyfodol. ”

Dywedodd Dr Abdul-Azim Ahmed, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslimaidd Cymru: “Rydym yn falch o weld bod arbenigedd ac ymchwil academaidd wedi cael eu defnyddio er mwyn paratoi gwersi a deunydd hyfforddi sy'n cofnodi amrywiaeth profiadau Mwslimaidd ym Mhrydain.

Mae'n arbennig o werthfawr bod y deunydd yn hybu lleisiau a phrofiadau Mwslimiaid eu hunain. Mae hyn yn helpu i ddangos nad crefydd dramor yw Islam, ond un sy’n fyw ac yn cael ei ymarfer gan filiynau o bobl ym Mhrydain heddiw.

Dr Abdul-Azim Ahmed

Dywedodd Stephen Pett o RE Today: Mae Islam ymhlith y pynciau mwyaf poblogaidd yn CA3 ac addysgu ar lefel TGAU, ac mae'r adnodd hwn yn cynnig DPP ystyrlon a manwl ar gyfer athrawon a ffyrdd diddorol o archwilio'r ffordd y mae Mwslimiaid yn byw. Mae'n gosod yr astudiaeth o Islam mewn cyd-destunau adnabyddus, gan gynnig cyfleoedd ystyrlon a diddorol i ddysgu.

“Bydd cyfoeth o adnoddau cysylltiedig ar gael i athrawon, gan gynnwys ymchwil ddiweddar, arloesol, i ehangu a chynyddu eu gwybodaeth eu hunain am eu pwnc. Mae'n newyddion gwych bod yr adnoddau hyn ar gael yn rhad ac am ddim ac yn ddigidol erbyn hyn. Mae hyn yn helpu i sicrhau y gall pawb ymgysylltu'n llawn â'r cwrs.”

Er mwyn lawrlwytho'r adnoddau addysgu llenwch yr arolwg hwn a dilynwch y ddolen a anfonir wedyn.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.