Ewch i’r prif gynnwys

Dyngarwr yn cyllido ysgoloriaethau i astudio Islam yn y DU

10 Mai 2018

Yousef Abdul Latif Jameel

Bydd rhodd o £850,000 gan ddyngarwr i gyllido ymchwil i Islam yn y DU, gyda phwyslais unigryw ar gyfrifoldebau cymdeithasol ysgolheigion, yn gwneud "gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau Mwslimiaid Prydain."

Unwaith eto mae Yousef Abdul Latif Jameel yn cefnogi ysgoloriaethau MA a PhD yng Nghanolfan Astudiaethau Islam yn y DU Prifysgol Caerdydd fel rhan o Raglen Academaidd Yousef Jameel.

Dyma ei bedwaredd rhodd i'r ganolfan sy'n golygu ei fod wedi rhoi cyfanswm o dros £2.5m ers ei rodd gyntaf yn 2009.

Sefydlwyd y ganolfan, sy'n rhan o Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd y Brifysgol, yn 2005 ac erbyn hyn hi yw'r prif sefydliad academaidd ar gyfer ymchwil ac addysgu am Islam a Mwslimiaid ym Mhrydain.

Dywedodd Mr Jameel: "Rwyf i'n falch iawn i barhau i gefnogi'r Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Bydd ysgoloriaethau Jameel yn caniatáu i'r myfyrwyr gorau ymgymryd ag ymchwil i'r materion pwysig sy'n effeithio ar Fwslimiaid ym Mhrydain yn y 21ain ganrif, gan helpu i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o Islam yn y gymdeithas ehangach."

Dywedodd Cyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Sophie Gilliat-Ray: "Mae'r cyllid newydd hwn yn atgyfnerthu enw da Prifysgol Caerdydd fel y lle gorau ar gyfer astudiaeth gwyddor gymdeithasol o Islam a Mwslimiaid ar lefel ôl-raddedig ym Mhrydain.

"Mae Mr Jameel yn gwerthfawrogi'r ffaith fod ein hymchwil yn cael ei gyfeirio at wella gwybodaeth am Islam a chymunedau Mwslimaidd ym Mhrydain gan anelu at wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau Mwslimiaid Prydain."

Bydd rhodd Mr Jameel yn darparu naw ysgoloriaeth MA, tair ysgoloriaeth PhD, dwy swydd ôl-ddoethurol a swydd weinyddol ran amser.

Mae un o'r ysgolheigion ôl-ddoethurol yn arbenigwr mewn crefydd/Islam yn y cyfryngau, ac yn benodol, ymwneud Mwslimiaid â newyddiaduraeth.

Mae gwaith blaenorol ysgolheigion Jameel wedi cynnwys archwilio gweithgaredd economaidd menywod Mwslimaidd; sut mae Islam yn hyrwyddo llesiant a lles cymdeithasol; a cherddoriaeth Fwslimaidd ym Mhrydain.

Dywedodd TJ Rawlinson, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol: "Rydym yn hynod o ddiolchgar am ein partneriaeth barhaus gyda Mr Jameel."

Mae Mr Jameel yn gofyn i bob ysgolhaig wirfoddoli gyda'r gymuned Fwslimaidd leol i "feithrin ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb cymdeithasol", sy'n ategu'r ethos cryf o ymgysylltu cymunedol sy’n rhan o ymchwil a gweithgareddau'r ganolfan.

Dywedodd yr ysgolhaig PhD Matthew Vince, sydd wedi gwirfoddoli fel cynorthwyydd addysgu mewn ysgol gynradd Fwslimaidd leol, mai gwirfoddoli yn y gymuned oedd un o agweddau mwyaf deniadol yr ysgoloriaethau.

Dywedodd: "Mwynheais i fy nghyfnod yn yr ysgol yn fawr, ac roedd y cyfle i roi rhywbeth yn ôl yn hynod o bwysig i fi yn academaidd ac yn bersonol.

"Mae ysgoloriaeth Jameel yn unigryw am y rheswm hwn; mae'n gwreiddio ei hymrwymiad i ymgysylltu cymunedol yn ei model o ysgolheictod i feithrin cysylltiadau parhaus rhwng academyddion a'r gymuned ehangach."

Dywedodd Laura Jones, a gwblhaodd ysgoloriaeth MA y llynedd: "Mae ysgoloriaeth Jameel wedi bod yn hynod o werthfawr i fi i wella fy sgiliau ymchwil cymdeithasol, maes rwyf yn rhagweld y byddaf yn parhau ynddo yn fy ngyrfa yn y dyfodol. Galluogodd y sgiliau a'r wybodaeth a gefais drwy'r MA fi hefyd i sicrhau swydd yn cydlynu cynhadledd ryngwladol ar gyd-fyw heddychlon, ar ôl cwblhau fy ngradd.

"Golygodd elfen ymgysylltu cymunedol y cwrs, yn enwedig gweithio gyda mosgiau lleol, fy mod yn cael dealltwriaeth werthfawr ar gyfer fy ymchwil ôl-raddedig, ynghyd â chyfleoedd gwaith maes, ac roeddwn yn gallu rhoi rhywbeth yn ôl i'r cymunedau a gyfrannodd at fy ngwaith."

Rhannu’r stori hon

Dysgwch fwy am sut mae Prifysgol Caerdydd wedi cael budd o fod â ffrindiau a chefnogwyr hael fel chi.