‘Dim llawer o fudd’ i gynnal profion o bryd i’w gilydd o gleifion a allai fod â Covid-19
15 Hydref 2020
Yn ôl gwerthusiad ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd ac Ysbyty Athrofaol Cymru, prin iawn yw’r budd a gyflawnir drwy gynnal profion o bryd i’w gilydd o gleifion a allai fod â Covid-19, a gallai fod yn ddrud iawn. Y gobaith oedd y byddai hyn yn helpu i ragfynegi eu prognosis wrth iddynt gyrraedd adrannau achosion brys.
Daeth ymchwilwyr â chanfyddiadau labordy a chlinigol ynghyd yn ysbyty mwyaf Cymru ar ôl ton gyntaf y pandemig. Cafodd hyn ei wneud drwy ddefnyddio adnodd gofal iechyd electronig sydd newydd ei greu ac sy’n ceisio dysgu o ofal arferol yn y GIG. Wrth ei ddefnyddio am y tro cyntaf, fe wnaethant werthuso a oedd cynnal profion labordy o bryd i’w gilydd yn ychwanegu gwerth y tu hwnt i'r profion arferol sy’n cael eu cynnal mewn adrannau brys.
Mae cleifion yr amheuir bod Covid-19 arnynt yn cael ystod helaeth o brofion gwaed wrth gael eu derbyn i chwilio am heintiau bacteriol sy'n cydfodoli, niwed i'r galon, clotiau gwaed neu am yr hyn a elwir yn “gorlid” (hyperinflammation). Gall hyn gostio mwy na £20 y prawf, a gyda miloedd o brofion yn cael eu cynnal bob mis mewn un ysbyty, mae’r costau’n gallu cynyddu'n gyflym.
Mae canfyddiadau’r tîm yn awgrymu y dylid symud oddi wrth sgrinio systematig wrth gael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd bod y budd yn parhau i fod yn “aneglur”. Mae eu gwaith wedi'i gyflwyno i'w adolygu'n annibynnol gan wyddonwyr eraill, ond mae wedi'i gyhoeddi ar medRxiv.
Daeth y grŵp, gan gynnwys imiwnolegwyr, adran achosion brys, gofal critigol, clefyd heintus, a gwyddonwyr data, i'r casgliad y dylai’r profion hyn dargedu cleifion ag anghenion clinigol penodol lle mae eu budd wedi'i ddiffinio'n gliriach.
“Fe wnaethon ni werthuso’r gwasanaethau i helpu i arwain ymarfer clinigol a defnydd cost-effeithlon o adnoddau yn nhonnau Covid-19 yn y dyfodol yn ein canolfan, yn unol ag argymhellion gan Goleg Patholegwyr Brenhinol y DU,” meddai Dr Mark Ponsford, hyfforddai academaidd clinigol o Gymru yn Is-Adran Haint ac Imiwnedd Prifysgol Caerdydd, a arweiniodd yr astudiaeth.
“Mae canlyniadau ein dadansoddiad yn awgrymu nad yw cynnal y profion ychwanegol hyn yn rhoi llawer o wybodaeth prognostig ychwanegol i helpu clinigwyr i asesu a yw rhywun mewn perygl o farw neu angen triniaeth gofal dwys."
Yn yr astudiaeth hon, edrychodd yr ymchwilwyr ar ganlyniadau clinigol cleifion sy'n oedolion a dderbyniwyd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2020, ochr yn ochr â chostau profion unigol a data ar ganlyniadau clinigol.
Mae'r a gynhelir o bryd i’w gilydd yn cynnwys:
- Procalcitonin - sy’n nodi haint bacterial
- Troponin - sy’n nodi niwed i'r gallon
- D-dimer - sy’n nodi clotiau gwaed
- Ferritin - sy’n nodi cysylltiad â “gorlid” (hyperinflammation)
- Lactate dehydrogenase - sy’n nodi llid yr ysgyfaint
Fe wnaethant ddarganfod nad oedd y profion hyn yn gwella haeniad risg cleifion Covid-19 yn annibynnol wrth ystyried mesurau arferol a demograffeg sylfaenol fel oedran.
Canfu’r ymchwilwyr fod profion “craidd”, fel cyfrif gwaed llawn a gweithrediad arennol, ymhlith eraill, yn cynnig gwerth rhagfynegol tebyg i brofion ychwanegol drutach fel y rhai oedd y nodi llid neu anaf i’r galon.
Dywedodd Dr Jonathan Underwood, ymgynghorydd mewn clefydau heintus a meddygaeth acíwt, ac uwch-awdur ar yr astudiaeth: “Gall gofyn am ormod o brofion labordy hefyd gynyddu nifer y canlyniadau cadarnhaol ffug gyda’r potensial i arwain at ymyriadau pellach a allai fod yn niweidiol a diangen. Mae ein canfyddiadau yn argymell symud i ffwrdd o brofion systematig o gleifion yr amheuir bod Covid-19 arnynt wrth gael eu derbyn i adrannau achosion brys. Yn hytrach, dylid targedu profion helaeth at gleifion ag arwyddion clinigol penodol."
Dywedodd Ross Burton, myfyriwr ymchwil doethurol gyda'r Adran Haint ac Imiwnedd ac awdur cyntaf ar y cyd ar yr astudiaeth: “Dyma’r prosiect cyntaf i ddefnyddio cronfa ddata electronig newydd, a grëwyd fel menter ar y cyd rhwng tîm Technoleg Gwybodaeth y GIG ac Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Mae'n dangos potensial y dull hwn i'n helpu i ddeall a gwella ein hymateb i'r pandemig, a rôl ehangach gwyddoniaeth data mewn gofal iechyd.”
Mae'r astudiaeth wedi'i chyflwyno i'w hadolygu gan gymheiriaid.