Ewch i’r prif gynnwys

Adroddiad ar effaith Covid-19 ar gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig yn arwain at newid yng Nghymru

20 Hydref 2020

Stock image of man in a mask looking out of the window

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd wedi croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad ar effaith Covid-19 ar gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig (BAME) Cymru.

Yr Athro Emmanuel Ogbonna yw cadeirydd yr Is-Grŵp Economaidd-gymdeithasol Ymgynghorol Covid-19 BAME a sefydlwyd gan Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford mewn ymateb i'r pandemig. Gwnaeth adroddiad  y Grŵp ar y ffactorau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol ynglŷn â pham fod risg uwch gan gymunedau BAME yn sgil y feirws dros 30 argymhelliad.

Yn ei hymateb i'r canfyddiadau, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi dechrau ar nifer o gamau gweithredu. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Adnodd Asesu Risg COVID-19 ar gyfer Gweithlu BAME Cymru, a gyflwynwyd yn gyntaf mewn lleoliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Addaswyd fersiwn ar gyfer lleoliadau Addysg, ac mae fersiwn mwy cyffredinol ar gael ar gyfer gweithleoedd.
  • Mae gohebiaeth Covid-19 'Cadw Cymru'n Ddiogel' wedi'i chyfieithu i 36 o ieithoedd er mwyn iddi fod ar gael yn hawdd i gymunedau amrywiol.
  • Mae’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn cael ei baratoi i ddatblygu camau pellach ar anghydraddoldeb, a chaiff ei gyflwyno ar ddiwedd tymor y Cynulliad hwn.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn llunio Uned Gwahaniaethu ar sail Hil i Gymru i bwyso am gydraddoldeb hiliol.
  • Mae gweithgor cwricwlwm BAME newydd wedi'i sefydlu roi cyngor ar a gwella addysg ar bynciau sy’n gysylltiedig â chymunedau a phrofiadau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig ar draws pob rhan o gwricwlwm yr ysgol.
  • Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus i sicrhau cynrychiolaeth well o bobl BAME ac anabl.
  • Llinell gymorth i roi Cyngor BAME, fel prosiect peilot chwe mis i ddechrau.

Dywedodd yr Athro Ogbonna o Ysgol Busnes Caerdydd: "Rydym ni'n falch gyda natur gynhwysfawr ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad ac yn ei ganmol am y mentrau sydd wedi'u sefydlu hyd yma."

Gobeithio y gallwn gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i roi ein hargymhellion ar waith yn llawn er mwyn i ni allu gwneud Cymru'n enghraifft ddisglair o amrywiaeth a chynhwysiant ethnig.

Yr Athro Emmanuel Ogbonna Professor of Management and Organizational Behaviour

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip, Jane Hutt: "Roedd yr adroddiad gan Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol COVID-19 Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig y Prif Weinidog yn gosod anghydraddoldeb hiliol yng Nghymru yng nghyd-destun COVID-19.  Mae’r adroddiad yn nodi'n glir lawer o’r materion y mae angen inni fynd i’r afael â nhw, ac yn gosod sylfaen bwysig ar gyfer y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru, y byddaf i yn ei arwain.

"Nid yw ein hymateb cychwynnol i’r adroddiad yn rhestr derfynol o’r camau sy’n cael eu cymryd, ond mae’n rhoi cipolwg ar ein cynnydd hyd yma yn erbyn ei argymhellion. Byddwn yn adolygu ein cynnydd yn rheolaidd wrth i’r Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol barhau i gyfarfod ac wrth i nifer o’r argymhellion gael eu datblygu ymhellach a’u hymgorffori yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol."

Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog: "Rwyf i’n ddiolchgar i Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol Ymgynghorol BAME Cymru ar COVID-19 yr Athro Emmanuel Ogbonna am ei waith caled a’i argymhellion. Mae ei adroddiad yn un difrifol a phwerus, sy’n tynnu sylw at yr anghydraddoldebau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn ac sy’n effeithio ar bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig yng Nghymru. Mae angen gwneud newidiadau mawr drwy’r gymdeithas er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd llawer o gamau ar hyd y ffordd, ond rydym ni’n cydnabod bod ffordd bell i fynd eto. Rhaid i ni  edrych yn ofalus ac yn onest ar strwythurau a systemau cymdeithas ac ystyried ble a sut y gallwn wneud newidiadau a fydd o fudd i bawb.

"Nawr yw’r amser i weithredu, ac mae’r llywodraeth hon yn ymrwymo i greu etifeddiaeth barhaus i Gymru, lle caiff pawb eu trin yn deg a chael yr un cyfleoedd i ddatblygu."

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.