Gofalu am Gleifion Obstetrig sy’n ddifrifol wael (ar-lein)
Mae'r cwrs ar-lein hwn yn un o gyfres o bedwar gan y tîm Gofal Critigol yn yr Ysgol Meddygaeth.
Mae gofalu am y claf obstetrig sy’n ddifrifol wael yn gymhleth, ac mae nifer yr achosion yn y grŵp hwn o gleifion yn cynyddu. Mae astudiaeth ddiweddar yn nodi bod angen gofal critigol lefel 3 ar 10% o fenywod beichiog yn ystod ton gyntaf COVID-19, a bod GIG y DU yn nodi bod 20% o dderbyniadau Gofal Critigol COVID-19 yn fenywod beichiog heb eu brechu, ym mis Hydref 2021.
Cwrs dysgu hunangyfeiriedig yw hwn, sy'n cynnwys tua 7-10 awr o astudio. Bydd y cynnwys ar gael trwy'r wythnos i chi weithio drwyddo yn eich amser eich hun.
Ymrestru ar y cwrs hwn
Dyddiad dechrau | Diwrnodau ac amseroedd |
---|---|
17 Mehefin 2024 | 17, 18, 19, 20, 21 Mehefin 2024 |
Ffi |
---|
£60 |
Ar gyfer pwy mae hwn
Mae’n addas ar gyfer unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gofalu am gleifion obstetrig sy’n ddifrifol wael neu’n acíwt, neu sydd hefyd â chymhlethdodau; gan gynnwys obstetryddion meddygol a hyfforddeion anesthetig,meddygon teulu, nyrsys, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol sy’n rhoi gofal cyn mynd i’r ysbyty.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Byddwch chi’n dysgu am adnabod, rheoli a gofalu am y menywod obstetrig sy'n mynd yn ddifrifol wael yn ystod beichiogrwydd, esgor neu'r cyfnod ôl-enedigol.
Byddwch chi’n cael y cyfle i ddysgu am reoli cyflyrau arbenigol ar gyfer y grŵp hwn – cleifion â chymhlethdodau; cyflyrau sy’n gofyn cael derbyniad i ofal critigol, gan gynnwys cyneclampsia, brych yn gwahanu, thrombo-emboledd ac emboledd hylif amniotig (AFE), gwaedlif, clefyd sydd gan y fam eisoes, cyflenwi a monitro ocsigen, a sepsis obstetrig.
Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth yn cael eu dangos drwy fyfyrio personol a thasgau ar-lein yn y modiwl.
Manteision
Byddwch chi, eich claf, a'u teuluoedd yn elwa ar eich dealltwriaeth o'r dystiolaeth a'r damcaniaethau sy'n llywio’r gofal a roddir i gleifion obstetrig acíwt a difrifol wael. Lluniwyd y cwrs hwn yn benodol i'w gyflwyno'n gyfan gwbl ar-lein.
Byddwch chi’n elwa ar ddysgu ar eich cyflymder eich hun, gyda sesiynau dan arweiniad tiwtor, sesiynau wedi'u recordio ymlaen llaw, darllen dan arweiniad, ac ymarferion rhyngweithiol.
Anogir trafodaeth er mwyn i chi gael y cyfle i rwydweithio a chyfnewid syniadau gyda'ch cyfoedion.
Rydym wedi cyfyngu ar nifer y lleoedd er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad dysgu gorau posibl.
Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau TG drwy gydol y cwrs.
Dull cyflwyno
Cynhelir y cwrs ar-lein hwn drwy blatfform dysgu'r Brifysgol (Dysgu Canolog); mae'r cwrs yn cynnwys cyflwyniadau wedi'u recordio a chyfryngau clywedol eraill, testunau ysgrifenedig, canllawiau, deunydd darllen a argymhellir, a dolenni gwe.
Bydd tîm y modiwl ar gael i roi cymorth ac arweiniad trwy’r fforymau trafod. Byddan nhw hefyd yn cynnal gweminar cyflwyniadol byw.
Asesu
Byddwch yn dangos eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth drwy fyfyrio personol a thasgau ar-lein yn neunyddiau’r cwrs.