Ewch i’r prif gynnwys

Ysmygu a gordewdra yn cynyddu'r risg o Covid-19 difrifol a sepsis, mae astudiaeth newydd yn awgrymu

24 Medi 2020

Stock image of coronavirus

Mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr, gan gynnwys o Brifysgol Caerdydd, wedi nodi tystiolaeth enynnol sy'n awgrymu y gall ysmygu a gordewdra gynyddu'r risg o Covid-19 difrifol.

Canfu'r ymchwilwyr hefyd fod yr un peth yn wir am y risg o ddatblygu sepsis, ymateb llidiol peryglus sy'n wynebu llawer o gleifion sydd â heintiau eraill.

Mae'r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Circulation heddiw, yn tynnu sylw at y ffaith bod rhoi'r gorau i ysmygu a cholli pwysau yn debygol o fod yn ymyriadau effeithiol ar gyfer lleihau'r risg o ddatblygu sepsis a Covid-19 difrifol.

Edrychodd yr astudiaeth ar ddata 3,199 o gleifion â Covid-19 difrifol a 10,154 o gleifion â sepsis, ac archwiliodd ffactorau risg a ragwelwyd yn enynnol, fel Mynegai Màs y Corff (BMI, mesur o ordewdra) ac ysmygu. Llwyddodd yr ymchwilwyr i asesu a oedd presenoldeb yr arwyddbyst genynnol hyn yn gysylltiedig â thebygolrwydd cynyddol o Covid-19 difrifol neu sepsis.

Dywedodd Dr Mark Ponsford, hyfforddai academaidd clinigol o Gymru ym Mhrifysgol Caerdydd, ac awdur cyntaf yr astudiaeth: “Gall astudiaethau arsylwi fod yn agored i ragfarn - er enghraifft oherwydd ffactorau dryslyd fel sut mae cleifion yn cael eu recriwtio neu ddata'n cael ei gasglu. Fe ddefnyddion ni ddull o’r enw ‘Mendelian Randomisation’, techneg sy’n harneisio ein gwybodaeth am sut mae ein cyfansoddiad genynnol yn rhagdueddu i BMI mwy neu ysmygu. Yn gyffredinol, mae'r ffactorau dryslyd hyn yn effeithio lai ar y dull hwn.

“Wrth astudio setiau data genynnol mawr sydd ar gael i'r cyhoedd o boblogaethau nodweddiadol o'r DU a Norwy, gwelsom ni fod ysmygu a gordewdra yn cynyddu'r risg o ddatblygu sepsis. Gan gymhwyso'r dull hwn i astudiaethau cysylltiad genynnol o Covid-19 difrifol, gwelsom ni’r un canlyniad. Mae hyn yn ychwanegu at y corff cynyddol o dystiolaeth bod lleihau ysmygu a gordewdra yn bwysig i iechyd y cyhoedd, ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymchwil sy'n archwilio'r cysylltiadau rhwng yr ymateb imiwnedd a'r nodweddion hyn.”

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.