Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr o Gymru yn cyfrannu at ymdrech y DU i ddeall sut mae’r system imiwnedd yn ymateb yn ystod Covid-19

28 Awst 2020

Stock image of coronavirus

Mae tystiolaeth o'r pandemig yn dangos bod y system imiwnedd yn gallu helpu i amddiffyn pobl rhag Covid-19, ond gall hefyd achosi niwed mewn clefyd difrifol.

Mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a'r Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau yn rhan o ymdrech ledled y DU i nodi beth sy'n gwneud ymateb imiwnedd da neu wael i'r feirws.

Bydd Consortiwm Imiwnoleg Ryngwladol Covid-19 hefyd yn edrych ar sut y gall ffactorau fel oed effeithio ar yr ymateb imiwnedd i'r feirws SARS-CoV-2.

Dywedodd yr Athro Ian Humphreys sy'n arwain yr ymchwil ym maes heintiau yn Sefydliad Prifysgol Ymchwil Imiwnedd Systemau Prifysgol Caerdydd:

"Bydd yr ymchwil hon yn cynnig llawer o wybodaeth am agweddau da a drwg yr ymateb imiwnedd i'r feirws.

“Bydd y wybodaeth hon yn bwysig iawn wrth ddylunio strategaethau ymchwil newydd ar gyfer cleifion Covid-19 ac yn y ras ar gyfer brechlyn diogel ac effeithiol.”

Cefnogir y consortiwm ledled y DU gan gyllid gwerth £6.5m oddi wrth UKRI a'r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd (NIHR) a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Gwener 28 Awst 2020).

Bydd y gwaith yn helpu i nodi cleifion sydd â’r risg fwyaf o ddioddef clefyd difrifol, cynorthwyo meddygon wrth benderfynu ar driniaethau a chynorthwyo datblygu brechlynnau a thriniaethau newydd ar gyfer Covid-19 difrifol.

Rydym yn ymuno â’r imiwnolegwyr gorau yn y wlad i fynd i’r afael â Covid-19.

Yr Athro Awen Gallimore Professor

Bydd gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn arwain astudiaethau i archwilio:

  • Beth yw ymateb imiwnedd ‘da’ sy’n diogelu pobl rhag Covid-19 difrifol
  • Sut gall proteinau sy’n gysylltiedig â’r system imiwnedd achosi niwed yn ystod Covid-19 difrifol
  • Sut y gall y feirws geisio ‘osgoi’r’ system imiwnedd yn ystod haint

Ychwanegodd yr Athro Awen Gallimore o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Dyma ymdrech cenedlaethol cyffrous a hanfodol bwysig.

“Rydym yn ymuno â’r imiwnolegwyr gorau yn y wlad i fynd i’r afael â Covid-19.

“Bydd hyn yn ein galluogi i gasglu gwybodaeth yn hynod o gyflym a fydd yn ein helpu i reoli a chyrraedd terfyn y pandemig byd-eang hwn.”

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.