Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth yn bwriadu lleihau'r risg o Covid-19 pobl sy'n profi digartrefedd

8 Medi 2020

Homeless man asleep on the floor

Pobl sy'n profi digartrefedd ers Covid-19 yn rhan o ymchwil yn asesu'r gefnogaeth y maent wedi'i derbyn.

Mae'r astudiaeth, y cyntaf o'i fath yn y DU, yn cael ei harwain gan academyddion Prifysgol Caerdydd a'r Ganolfan Effaith Ddigartrefedd. Bydd yn asesu'n gadarn pa opsiynau tai sydd fwyaf tebygol o gynnig deilliannau cadarnhaol. Mae'r bartneriaeth arloesol hon wedi cael cyllid gan Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol sydd yn rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).

Ar ddechrau cyfnod clo Covid-19, cafodd llawer o bobl ddigartref gynnig o lety brys er mwyn hwyluso hunan-ynysu diogel. Wrth i awdurdodau lleol ddechrau creu trefniadau tai mwy addas i'r rheiny sy'n byw mewn gwestai a llety brys arall ar hyn o bryd, bydd yr astudiaeth hon yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr o ran taclo digartrefedd a lleihau Covid-19.

Bydd awdurdodau lleol yn Lloegr sy'n cymryd rhan yn cefnogi'r tîm ymchwil i ddilyn unigolion dros gyfnod o 12 mis i werthuso sut maen nhw, gan edrych ar sefydlogrwydd tai, iechyd a lles.

Y nod yw lleihau cyfradd heintio Covid-19, yn ogystal â lleihau'r risg o gyn-gysgwyr ar y stryd yn dychwelyd i ddigartrefedd.

Dywedodd Dr Peter Mackie, Prif Archwilydd yr astudiaeth, o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd: "Mae pandemig Covid-19 wedi arwain at newidiadau radical o ran polisïau ac ymatebion ymarferol i ddigartrefedd. Am y tro cyntaf, mae digartrefedd wedi cael ei ystyried yn argyfwng.

Bydd yr astudiaeth gydweithredol hon, sy'n ceisio barn pobl ddigartref, yn rhoi cipolwg newydd ar effeithiolrwydd ymatebion awdurdodau lleol. Bydd hefyd yn helpu i lywio polisïau ac arferion i'r dyfodol er budd y rheiny yr mae digartrefedd yn effeithio arnynt.

Yr Athro Peter Mackie Personal Chair, Director of Impact and Engagement

Dywedodd Dr Ligia Teixeira, Prif Weithredwr y Ganolfan Effaith Ddigartrefedd: "Wrth i ni wynebu byd sydd wedi newid yn sylweddol oherwydd y coronafeirws, mae'n rhaid i ni gymryd y cyfle i ddefnyddio tystiolaeth i wella deilliannau ar gyfer y rheiny yr effeithir arnynt fwyaf. Y gobaith yw drwy gynnal y treial y byddwn yn gallu rhoi'r dulliau sydd eu hangen ar awdurdodau lleol sydd ag adnoddau cyfyngedig i sicrhau nad yw pobl yn dychwelyd i'r strydoedd."

Bydd yr astudiaeth yn cynnwys tair prif elfen:

  • Gwerthusiad effaith, er mwyn deall pa fathau o lety sydd â'r deilliannau gorau;
  • Elfen broses a gweithredu, er mwyn deall y rhwystrau a'r hwyluswyr a'r gwahaniaethau o ran sut mae modelau llety gwahanol yn cael eu defnyddio mewn gwahanol ardaloedd awdurdod lleol; ac,
  • Elfen gost, er mwyn deall pa fathau o lety sy'n cynnig y gwerth gorau am arian.

Mae'r astudiaeth, o'r enw Symud Ymlaen wedi cael £660,000 o gyllid gan UKRI yn rhan o'u rhaglen gyllid ar gyfer prosiectau tymor byr sy'n mynd ar ôl ac yn ceisio lleddfu effeithiau iechyd, cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol Covid-19. Mae'n cael ei datblygu'n gydweithredol rhwng y Ganolfan Effaith Ddigartrefedd, Prifysgol Caerdydd, Alma Economics, a grŵp o chwech o awdurdodau lleol partner.

Disgwylir i'r prosiect barhau am 18 mis. Ymysg ei gefnogwyr mae'r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau ac Awdurdodau Lleol (MHCLG), Bloomberg Associates a Comic Relief. Bydd y prosiect yn elwa ar gyngor arbenigol Tim Aubrey a Dennis Culhane, academyddion sy'n arwain y ffordd o ran ymyriadau digartrefedd o Brifysgol Ottawa a Phrifysgol Pennsylvania yn y drefn honno.

Ychwanegodd Dr Rebecca Cannings-John, arweinydd y gwerthusiad effaith o Ganolfan Ymchwil Treialon Prifysgol Caerdydd: "Symud Ymlaen yw'r treial cyntaf i gael ei gynnal yn y DU gyda phobl sy'n profi digartrefedd, ac rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio a'r Ganolfan Effaith Ddigartrefedd er mwyn ei alluogi.

Dyma astudiaeth bwysig fydd yn ychwanegu at y sail ymchwil, er mwyn helpu i lywio pa opsiynau tai allai gynnig y deilliannau gorau i bobl sy'n profi digartrefedd.

Dr Rebecca Cannings-John Research Fellow - Statistics

Wedi'i sefydlu yn 2018, mae'r Ganolfan Effaith Ddigartrefedd yn sefydliad annibynnol sy'n cefnogi'r defnydd o ddata a thystiolaeth er mwyn ceisio dod â diwedd cynaliadwy i ddigartrefedd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.