Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn cynnig profion coronafeirws i filoedd o staff a myfyrwyr

23 Medi 2020

Cardiff University COVID-19 testing lab

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnig profion coronafeirws (Covid-19) i staff a myfyrwyr nad ydyn nhw'n dangos unrhyw symptomau.

Mae'r Brifysgol yn un o blith llawer o brifysgolion Grŵp Russell sy'n gweithio i sefydlu gwasanaeth sgrinio Covid-19 ar raddfa fawr ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Caiff holl staff a myfyrwyr y Brifysgol ar y campws wahoddiad i ofyn am brawf SARS-CoV-2, y coronafeirws sy'n achosi Covid-19, ar ôl cyrraedd y campws.

Dywedodd yr Is-Ganghellor yr Athro Colin Riordan ei fod yn gobeithio y byddai hyn yn anfon neges glir fod y Brifysgol yn awyddus i "gadw pawb yn ddiogel" ac anogodd staff a myfyrwyr i gymryd rhan yn y rhaglen wirfoddol am ddim.

Gofynnir i fyfyrwyr nad ydyn nhw'n dangos unrhyw symptomau drefnu apwyntiad mewn un o dair gorsaf brofi bwrpasol yn y brifysgol, yn Adeilad Hadyn Ellis ym Maendy, Tŷ'r Coleg ym Mharc y Mynydd Bychan a Chanolfan Gymdeithasol Tal-y-bont. Bydd y Brifysgol hefyd yn trefnu man casglu/gollwng ar gyfer profion cartref a gwasanaeth casglu symudol i staff a myfyrwyr wrth roi'r gwasanaeth ar waith.

Mae'r prawf yn golygu rhoi sampl o boer a gaiff ei ddadansoddi ar y safle, a'r nod yw darparu’r canlyniad o fewn 48 awr. Bydd rhaid i unrhyw un sy'n profi'n bositif hunanynysu - ynghyd â holl aelodau eraill yr aelwyd - yn unol ag arweiniad diweddaraf iechyd cyhoeddus a rhaid iddyn nhw geisio prawf gan y GIG i gadarnhau’r canlyniad.

Yn y cyfamser, dylai unrhyw un sydd â symptomau wrth iddyn nhw gyrraedd Caerdydd hunanynysu a threfnu prawf drwy gynllun profi Llywodraeth Cymru.

Meddai’r Athro Riordan: "Rydym ni'n annog yr holl staff a myfyrwyr asymptomatig sy'n dod i'r campws yn rheolaidd i fanteisio ar ein gwasanaeth profi coronafeirws am ddim.

"Ein nod yw canfod unrhyw heintiau, clystyrau neu achosion cyn gynted â phosibl fel y gallwn gymryd camau i atal lledaeniad. Nid yw hyn yn lle'r holl fesurau eraill rydym ni wedi'u rhoi ar waith - ond bydd yn rhoi rhagor o sicrwydd i ni y byddwn yn gallu ymateb yn gyflym os gwelwn ni gynnydd yn yr haint yng nghymuned y Brifysgol.

"Mae Prifysgol Caerdydd yn sefydliad gwirioneddol fyd-eang ac rydym ni'n awyddus i anfon neges glir i'n darpar fyfyrwyr ledled y byd ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cadw'n ddiogel.

Bydd pob mesur newydd y byddwn ni’n ei gyflwyno yn ein galluogi i gyflwyno profiad myfyriwr sydd mor agos at y pecyn cyflawn â phosibl. Mae hwn yn gyfnod heriol, a gobeithiwn y bydd profi myfyrwyr yn helpu i roi mwy o hyder a normalrwydd i fywyd y myfyrwyr.

Professor Colin Riordan

Bydd y rhaglen yn profi cymuned gyfan y Brifysgol ar y campws o ddiwedd mis Medi ymlaen. Caiff staff a myfyrwyr sy'n gweithio neu sy'n dysgu mewn lleoliadau clinigol, y cynigir profion iddyn nhw'n gyntaf, ynghyd â'r rhai sy'n byw mewn neuaddau preswyl, eu blaenoriaethu ar gyfer profion mwy rheolaidd.

Mae gan y Brifysgol y gallu i gynnal miloedd o brofion yr wythnos mewn labordy pwrpasol yn Ysgol y Biowyddorau. Yn dilyn sgrinio cychwynnol cymuned y Brifysgol, cynhelir rhaglen o brofion rheolaidd hefyd drwy gydol y flwyddyn academaidd i fonitro'r sefyllfa.

Mae'r gwasanaeth yn un o lu o fesurau amddiffynnol sy'n cael eu rhoi ar waith gan y Brifysgol, gan gynnwys:

  • Canllawiau llym ar y nifer o bobl a gaiff fod ar y campws i sicrhau bod ymbellhau cymdeithasol yn cael ei barchu;
  • Ymbellhau gorfodol o 2m (hyd yn oed os bydd canllawiau Llywodraeth Cymru yn newid i 1m);
  • Defnyddio gorchuddion wyneb yn adeiladau'r Brifysgol;
  • Llwybrau cerdded un ffordd o amgylch y campws;
  • Cyfleusterau golchi dwylo a glanhau ychwanegol

Dywedodd arweinydd y rhaglen brofi, yr Athro Andrew Westwell, Deon Ymchwil ac Arloesedd Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd: "Mae creu llwyfan profi firws Covid-19 yn y cyfnod eithriadol hwn yn rhan o fuddsoddiad sylweddol yn iechyd a lles cymuned ein Prifysgol.

Bydd gwasanaeth profi am ddim Prifysgol Caerdydd i fyfyrwyr a staff, ochr yn ochr ag awdurdodau iechyd cyhoeddus lleol, yn sicrhau gwybodaeth gynnar i helpu i gynnal campws Covid-ddiogel.

Yr Athro Andrew D. Westwell Reader in Medicinal Chemistry

Meddai Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr y Brifysgol: "Nid yn unig fydd y gwasanaeth profi yn ein galluogi i roi gwell sicrwydd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, ond bydd hefyd yn parhau i fonitro drwy gydol y flwyddyn.

"Rydym ni’n gweithio'n agos gyda'r GIG i roi cefnogaeth ychwanegol os bydd angen.

"Drwy sefydlu system rhybudd cynnar fel hyn, ochr yn ochr â'r holl fesurau eraill sydd gennym, y gobaith yw y gallwn ddechrau edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod gydag egni a chyffro o'r newydd."

Bydd y gwasanaeth sgrinio ar waith erbyn diwedd y mis pan fydd pob myfyriwr ac aelod staff ar y campws yn derbyn gwahoddiad ebost i gymryd rhan. I fyfyrwyr bydd hyn yn fuan ar ôl cofrestru.

https://youtu.be/IAPWBmQ1Ivc