Ewch i’r prif gynnwys

Cytundeb yn mynd i’r afael â chlefyd Alzheimer

3 Medi 2020

Brain

Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi cytundeb gyda Cytox i helpu’r cwmni i ddatblygu pecyn asesu risg genetig ar gyfer clefyd Alzheimer.

O dan y drwydded, bydd Cytox o Rydychen a Manceinion yn defnyddio eiddo deallusol (IP) y Brifysgol ynghylch algorithmau sgorio risg polygenig ar gyfer darogan dyfodiad clefyd Alzheimer yn y dyfodol.

Bydd Cytox yn cael hawliau masnacheiddio unigryw i Eiddo Deallusol a gwybodaeth a gynhyrchir o dan ei gydweithrediad parhaus â Phrifysgol Caerdydd, ynghyd â hawliau heb fod yn gyfyngedig i IP pellach gan Brifysgol Caerdydd.

Mae Cytox yn ymgorffori'r dechnoleg a ddiffinnir yn y drwydded wrth ddatblygu genoSCORETM, pecyn asesu risg genetig i nodi'r cleifion sydd fwyaf mewn perygl o ddirywiad gwybyddol o glefyd Alzheimer. Mae genoSCORETM yn gwella recriwtio cleifion treial clinigol i astudiaethau clinigol clefyd Alzheimer ac yn cynorthwyo meddygon i reoli cleifion mewn ymarfer clinigol.

Mae Cytox yn gobeithio lansio genoSCORETM fel cynnyrch sydd wedi'i gofrestru i'w ddefnyddio'n broffesiynol yn yr UD ac Ewrop, tua diwedd 2020.

Dywedodd yr Athro Julie Williams, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dementia Caerdydd: “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Cytox wrth i’r cwmni geisio nodi unigolion sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd Alzheimer."

Mae'n bwysig ein bod yn defnyddio canfyddiadau ein hymchwil er budd cynllunio treialon clinigol, ymarfer clinigol yn y dyfodol a’r gymdeithas ehangach.

Yr Athro Julie Williams Professor of Neuropsychiatric Genetics & Genomics

Dywedodd Dr Richard Pither, Prif Swyddog Gweithredol Cytox: "Mae Prifysgol Caerdydd yn un o’r sefydliadau o safon fyd-eang sy’n datblygu algorithmau sgorio risg polygenig mewn anhwylderau niwrolegol. Yn dilyn cydweithrediad llwyddiannus a ariannwyd gan Innovate UK, mae Cytox yn falch iawn o sicrhau cytundeb trwydded i allu datblygu a masnacheiddio'r dechnoleg ymhellach. Mae Cytox wedi ymrwymo i alluogi gwelliannau mewn ymchwil a datblygu clinigol, ac ymarfer clinigol yn y dyfodol gyda chlefyd Alzheimer."

Heb therapïau cyffuriau newydd, amcangyfrifir y bydd baich cost economaidd a gofal iechyd dementia – gan gynnwys clefyd Alzheimer – yn fwy na £750bn y flwyddyn yn y degawd nesaf.

Nid yw Alzheimer’s – clefyd cymhleth iawn gyda ffactorau risg yn seiliedig ar eneteg, ffordd o fyw, oedran a’r amgylchedd – wedi gweld unrhyw therapi cyffuriau cymeradwy newydd er 2003, ac mae 99.6% o’r treialon clinigol yn methu.

Mae cynhyrchion genoSCORETM a genoTORTM yn defnyddio sgorio risg polygenig  i wella canlyniadau treialon clinigol trwy haenu cleifion a nodweddu genetig clefyd Alzheimer.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.