Canolfan ymchwil dementia £20m
25 Hydref 2018
Heddiw, agorwyd canolfan ymchwil newydd gwerth £20m sydd â'r nod o ddod o hyd i driniaethau effeithiol ar gyfer dementia ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae dros 70 o wyddonwyr o bob cwr o'r byd wedi cael eu recriwtio i'r ganolfan gyda'r nod o ehangu'r grŵp i 100 yn y dyfodol agos.
Mae Canolfan Caerdydd yn un o chwech sydd, gyda'i gilydd, yn ffurfio Sefydliad Ymchwil Dementia Y Du (UK DRI) sydd wedi'u sefydlu ledled Prydain gyda chyfanswm buddsoddiad gwerth £290m.
Bydd UK DRI Caerdydd yn adeiladu ar gryfderau ymchwil ym meysydd geneteg dementia, imiwnoleg; dadansoddeg gyfrifiadurol; modelu cellog a system gyfan; a niwro-ddelweddu, er mwyn canfod mecanweithiau a therapïau ar gyfer clefydau Alzheimer a mathau eraill o ddementia.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mwy na 40 o enynnau sy'n cyfrannu at y risg o glefyd Alzheimer wedi cael eu darganfod a bydd y tîm yng Nghaerdydd yn defnyddio'r wybodaeth honno i weithio ar ddamcaniaethau a darganfyddiadau newydd.
Bydd canolbwyntio ar dystiolaeth glir sy'n dangos bod atebion i'w cael o fewn system imiwnedd yr ymennydd, byddant yn gweithio ar sawl rhaglen ymchwil ar wahân ond wedi'u cydgysylltu a fydd yn modelu clefyd Alzheimer mewn amrywiol ffyrdd, gan gynnwys drwy fôn-gelloedd y gellir eu drawsnewid yn niwronau, yn gelloedd imiwnedd a chelloedd eraill. Byddant hyd yn oed yn gallu cyfuno'r celloedd hyn er mwyn creu ymenyddiau bach iawn neu organoidau (meithriniadau cell 3D sy'n ymgorffori rhai o nodweddion allweddol organ).
Dywedodd yr Athro Julie Williams, Cyfarwyddwr UK DRI ym Mhrifysgol Caerdydd: "Gydag achos newydd o ddementia yn cael diagnosis yn rhywle yn y byd bob pedair eiliad rydyn ni'n anelu at sicrhau newid sylweddol yn y ffordd rydyn ni'n astudio'r set hon o glefydau.
"Yma yn UK DRI ym Mhrifysgol Caerdydd rydyn ni'n cyfuno technegau newydd i ddadlennu mecanweithiau dementia er mwyn i ni allu trawsnewid y rhagolygon ar gyfer dioddefwyr a darpar ddioddefwyr.
Ystyrir bod creu UK DRI yng Nghaerdydd yn anrhydedd i Gymru ac yn arwydd o gryfder cynyddol ymchwil wyddonol arloesol yn y wlad. Fe'i hariennir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, Ymchwil Alzheimer y DU a'r Gymdeithas Alzheimer, gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth sylweddol i Ganolfan Caerdydd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: "Mae hwn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol ledled y DU i ymchwil dementia yng Nghymru. Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y cyfleuster blaenllaw hwn yn dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r afiechyd dinistriol hwn, ac mae'n rhan o'n cynllun i wneud Cymru'n genedl sy’n cefnogi pobl â dementia, fel y nodir yn ein Cynllun Gweithredu Dementia.”
Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi galluogi tîm Caerdydd i osod microsgop Opera Phenix robotig £1m sy'n gallu sganio a dadansoddi miloedd o gelloedd unigol ar gyflymder uchel. Gwnaed y microsgop hwn sydd o'r radd flaenaf yng Nghymru ac mae'n enghraifft o'r dechnoleg ddiweddaraf yn cael ei defnyddio gan y tîm.
Er y bydd y prif ymchwil yn canolbwyntio ar glefyd Alzheimer, bydd hefyd ganfyddiadau perthnasol ar gyfer clefydau Huntington a chlefyd Parkinson.
Ychwanegodd yr Athro Bart De Strooper, Cyfarwyddwr UK DRI: "Mae’r weledigaeth ar y cyd rhwng pob un o ganolfannau'r DU yn ganolog i lwyddiant y sefydliad, a bydd creadigrwydd ar y ffiniau yn ein harwain i ddeall dementia go iawn a sut i fynd i'r afael ag ef. Fe ddewiswyd y canolfannau gennym ar sail gwyddoniaeth arloesol a rhagorol, tystiolaeth o arweiniad cadarn, sut maent yn cyd-fynd â nodau UK DRI yn gyffredinol, a’u gallu i dyfu a chydweithio wrth i waith y sefydliad fynd o nerth i nerth.
Welsh Government funding has enabled the Cardiff team to install a £1m robotic Opera Phenix microscope which is able to scan and analyse thousands of individual cells at high speed. This state-of-the-art microscope was made in Wales and is an example of the latest technology being utilised by the team.
Although the principal research will focus on Alzheimer’s disease there will also be relevant findings for Huntington’s and Parkinson’s diseases.
Professor Bart De Strooper, UK DRI Director, said: “The shared vision between our UK DRI centres is at the heart of the institute’s success, and creativity at the borders will lead us to truly understand dementia and how to tackle it. We selected our six centres based on innovative, excellent science; evidence of strong leadership; the alignment of goals with the UK DRI as a whole; and the ability to grow and collaborate as the institute gathers pace.
Dywedodd Sue Phelps, Cyfarwyddwr Gwlad Cymdeithas Alzheimer Cymru, arianwyr fu’n rhan o’r broses o sefydlu Sefydliad Ymchwil Dementia y DU: “Mae’r bartneriaeth unigryw hon, sy’n dod ag arbenigedd chwe phrifysgol ar draws y DU ynghyd, gan gynnwys tîm arbennig o ymchwilwyr blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n gweithio’n ddiflino i guro dementia. Mae’n cynnig gobaith am ddyfodol gwell i bobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia, ac am fyd heb ddementia.
“Bydd ymchwil yn curo dementia.”