Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr yn dylunio model newydd er mwyn deall achosion clefyd Alzheimer

9 Mawrth 2020

Person doing jigsaw

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi cyfuno’r holl ffactorau risg ar gyfer clefyd Alzheimer am y tro cyntaf er mwyn cynhyrchu model newydd o’r clefyd fydd, gyda lwc, yn helpu i gyflymu’r broses o ddarganfod triniaethau newydd.

Mae’r Model Aml-bleth yn ffordd newydd o edrych ar glefyd Alzheimer. Fe’i ddatblygwyd gan yr Athro Julie Williams, Dr Rebecca Sims a Dr Matt Hill o Sefydliad Ymchwil Dementia yn y Deyrnas Unedig (UKDRI) yn y Brifysgol, ac fe’i cyflwynir yng nghyfnodolyn Nature Neuroscience.

Cynhyrchwyd y model trwy edrych ar yr holl ffactorau risg genetig hysbys er mwyn hybu dealltwriaeth o’r hyn sy’n achosi clefyd Alzheimer a sut mae’n datblygu.

Eisoes nodwyd mwy na 50 o enynnau ac mae’r Ddamcaniaeth Aml-bleth yn defnyddio’r rhain - ac effaith miloedd o enynnau eraill - i edrych yn fanylach nag erioed o’r blaen ar sylfaen y clefyd.

Mae dementia ar 850,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig, a chlefyd Alzheimer yw’r ffurf fwyaf cyffredin ar y cyflwr hwnnw. Nid oes modd gwella’r clefyd, sy’n achosi problemau gyda’r cof a meddwl.

Meddai’r Athro Williams, cyfarwyddwr UKDRI yng Nghaerdydd: “Mae’r gwaith yr ydym ni a gwyddonwyr eraill wedi’i wneud dros yr 20 mlynedd ddiwethaf yn torri tir newydd o ran geneteg ac mae eisoes wedi dangos i ni bod nifer o elfennau i glefyd Alzheimer.

Julie Williams
Professor Julie Williams

“Mae’r Model Aml-bleth yn rhagdybio bod newidiadau i un neu’r cyfan o’r elfennau hyn yn cydweithio i raeadru’r clefyd. Mewn geiriau eraill, rydym bellach yn gwybod bod modd achosi clefyd Alzheimer gan nifer o wahanol ddiffygion mewn cyfansoddiad genetig.

“Trwy ddefnyddio’r dull amlweddog hwn, gallwn dargedu ein gwaith ymchwil yn fanwl, a gweithio’n gyflymach fyth at ddatblygu therapïau newydd.”

Mae ymchwilwyr eisoes yn gallu rhagfynegi’r rhai oedd yn debygol o ddatblygu clefyd Alzheimer gyda lefel gywirdeb o ryw 80% trwy edrych ar effaith gyfun yr holl enynnau sy’n cyfrannu at hynny. Yn achos y rhai sydd â’r risg uchaf o ran geneteg gallant ragfynegi’r tebygolrwydd eisoes yn y rhan fwyaf o achosion.

Mae’r model Alzheimer sydd wedi’i ddefnyddio dros yr 20 mlynedd ddiwethaf - hypothesis amyloid - wedi gallu edrych ar un elfen o’r clefyd yn unig h.y. sut mae placiau protein amlyloid yn ffurfio yn yr ymennydd ac yn ysgogi dememtia, ond nid yw’r dull hwn wedi arwain at greu triniaethau effeithiol.

Mae’r model hwn yn edrych ar effaith llawer o enynnau ar y cyd, yn ogystal â dadansoddiad o’r prosesau cellog sy’n gysylltiedig â chlefyd Alzheimer fel annormaleddau yn ymateb imiwn yr ymenydd neu wahaniaethau o ran sut mae’r ymennydd yn prosesu colestrol. Mae’n ystyried ffactorau amgylcheddol hefyd fel heneiddio ac anawsterau fasgwlaidd.

“Mae clefyd Alzheimer yn dechrau tua 20 mlynedd cyn i’r symptomau ddod i’r amlwg,” meddai’r Athro Williams, “ac ar hyn o bryd, nid wyddwn beth sy’n ei ysgogi.

“Mae’r dull hwn yn caniatáu i ni edrych ar bob un o’r gwahanol ffactorau a chydrannau perthnasol. Pan fyddwn yn gwybod beth sy’n digwydd yng nghamau cynharaf y clefyd ar lefel gellog a genetig, gallwn nodi targedau newydd ar gyfer triniaeth a therapïau ataliol.

Ni fydd un driniaeth benodol i wella clefyd Alzheimer yn ôl pob tebyg - bydd llawer o wahanol driniaethau i dargedu prosesau amrywiol, yn yr un modd â chlefyd y galon. Mae ein hymchwil yn ymosod ar y clefyd cymhleth hwn o sawl cyfeiriad.

Yr Athro Julie Williams Professor of Neuropsychiatric Genetics & Genomics

Meddai Bart De Strooper, Cyfarwyddwr UKDRI: “Rydym yn ymfalchïo yn y trosolwg gwych hwn o sylfaen enetig clefyd Alzheimer, gan un o dimau mwyaf blaenllaw’r byd yn Sefydliad Ymchwil Dementia’r Deyrnas Unedig. Bydd y cynnydd aruthrol a wnaed at ddeall yr eneteg gymhleth sy’n sylfaen i’r cyflwr o gymorth mawr i ni wrth ddadansoddi cyfnodau cynnar y clefyd, pan fydd ymyrraeth ar ffurf triniaeth yn fwyaf tebygol o fod yn effeithiol.

“Mae hyn yn pwysleisio ymhellach yr angen am ddull gweithredu cyfannol, o sawl ongl, wrth astudio clefydau niwro-ddirywiol. Er mwyn torri tir newydd, bydd yn rhaid i ni harneisio ystod eang o arbenigedd, ar draws y maes ymchwil, gan sicrhau bod gwybodaeth newydd a gesglir yn cael ei chyfuno i ddarparu darlun cyflawn o achosion a sbardunau dementia.”

Mae canolfan ymchwil dementia Caerdydd, a gostiodd £20m, yn un o saith canolfan yn y Deyrnas Unedig sy’n ceisio canfod ffyrdd newydd o ddeall, rhoi diagnosis, trin ac atal dementia, a gofalu am y bobl sydd â’r cyflwr.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.