Ewch i’r prif gynnwys

Mae bregusrwydd yn ffactor yr un mor bwysig ag oedran neu gyflyrau iechyd gwaelodol o ran risg marwolaeth yn sgîl Covid-19, yn ôl astudiaeth

29 June 2020

Stock image of intensive care

Yn ôl astudiaeth newydd, mae bregusrwydd yn ffactor yr un mor bwysig ag oedran neu gyflyrau iechyd gwaelodol wrth bennu a yw rhywun yn debygol o farw o Covid-19.

Awgryma’r dadansoddiad o 1,564 o gleifion ysbyty mewn 10 safle yn y DU ac un yn yr Eidal gan arbenigwyr ym maes gofal geriatrig fod cydberthynas rhwng bregusrwydd â’r risg o farw a’r amser y mae claf yn ei dreulio yn yr ysbyty.

Cafodd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd heddiw yn The Lancet Public Health, ei chynnal gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Coleg y Brenin, Llundain, Ymddiriedolaethau GIG Salford Royal a Gogledd Bryste, ymhlith eraill. Dyma’r astudiaeth gyntaf i archwilio effaith bregusrwydd ar y risg o farwolaeth yn ystod y pandemig presennol.

Dywed yr ymchwilwyr fod eu canfyddiadau yn dangos bod asesiad o fregusrwydd yn hanfodol er mwyn llywio penderfyniadau clinigol wrth drin Covid-19 – gan annog ymarferwyr i’w ddefnyddio er mwyn asesu risg claf o farw.

Dywedodd prif ymchwilydd a phrif awdur yr astudiaeth, Dr Jonathan Hewitt o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae canllawiau NICE sydd ar waith ers mis Mawrth yn argymell defnyddio bregusrwydd er mwyn asesu cleifion Covid-19 – ond dydyn ni ddim yn gwybod i ba raddau y mae hyn yn cael ei ddefnyddio yn ymarferol.”

“Mae ein hastudiaeth ni yn dangos ei fod yn hanfodol ar gyfer gofal rheng flaen; dylai pob claf sy’n dioddef o Covid-19 gael asesiad o’i fregusrwydd oherwydd rydym yn gwybod bod bregusrwydd – ni waeth beth yw eich oedran neu ba gyflyrau iechyd gwaelodol sydd gennych – yn effeithio ar eich tebygolrwydd o wella o’r afiechyd hwn.”

Hyd yma, y mae’r ffocws wedi bod ar oedran a phroblemau iechyd eraill ond rydym ni’n credu y dylai’r ffocws droi at fregusrwydd er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn triniaeth briodol, wedi’i thargedu.

Dr Jonathan Hewitt Clinical Senior Lecturer

Mae bregusrwydd yn gyflwr clinigol sy’n cael ei nodweddu gan golled o egni, lles a gwydnwch sy’n gwneud pobl yn agored i newidiadau sydyn yn eu hiechyd a’u risg o gael eu cymryd i’r ysbyty, yr angen am ofal tymor hir neu farwolaeth.

Dywedodd Dr Kathryn McCarthy, un o brif awduron yr astudiaeth a llawfeddyg yn Ymddiriedolaeth Gogledd Bryste y GIG sy’n ymchwilio i fregusrwydd: “Mae angen codi ymwybyddiaeth o fregusrwydd fel cysyniad ac o’i ddefnydd fel dull o asesu, mewn ysbytai ac yn y gymuned.

“Mae asesu bregusrwydd yn gyflym a diffwdan, ac mae’r hyfforddiant sydd ei angen i’w gyflawni yn syml. Gallai bregusrwydd gael ei asesu fel mater o drefn gan Feddygon Teulu neu geriatregwyr mewn gofal sylfaenol, neu hyd yn oed mewn cartrefi gofal, a fyddai’n golygu bod y wybodaeth wrth law pan fydd claf yn cael ei dderbyn i’r ysbyty.

“Gallai ein canfyddiadau newid dealltwriaeth pobl o berygl Covid-19 iddyn nhw’n bersonol. Er enghraifft, gallai pobl iau fod yn fregus ac mewn perygl ond ar ddeall eu bod nhw mewn grŵp risg isel, tra bod pobl hŷn nad ydynt yn fregus yn credu eu bod nhw mewn perygl a bod angen iddynt warchod eu hunain oherwydd eu hoed yn unig.

“Os yw rhywun yn credu eu bod nhw yn y categori bregus iawn yna fe ddylent gysylltu â’u meddyg teulu, oherwydd eu bod mewn perygl mwy o farw o Covid-19 os ydynt yn cael eu heintio. Ar ôl canfod bregusrwydd, mae nifer o fesurau ataliadol i’w cymryd er mwyn gwneud rhywun yn llai bregus, yn enwedig drwy ymarfer corff.”

Nod astudiaeth COPE (Covid-19 ymhlith pobl hŷn) oedd pennu pa mor gyffredin oedd bregusrwydd ymhlith cleifion Covid-19 – ac ymchwilio i’w effaith ar farwolaethau a hyd eu cyfnod yn yr ysbyty.

Roedd dwy rhan o dair o’r 1,564 claf a ddaeth i’r ysbyty o ganlyniad i Covid-19 yn 65 oed neu’n hŷn. Nid oedd pob un o’r grŵp hŷn yn fregus, gyda 65% o’r rheiny a oedd yn 65 oed neu’n hŷn yn y categori hwn, ac ystyrir 20% o’r rheiny o dan 65 oed yn fregus.

Dengys dadansoddiad arall fod cleifion a oedd yn hynod fregus 2.4 gwaith yn fwy tebygol o farw o Covid-19 na’r rheiny nad ystyriwyd yn fregus, ar ôl ystyried oed, problemau iechyd eraill a difrifoldeb y salwch pan fo claf yn cael ei dderbyn i’r ysbyty.

Yn ôl Dr Ben Carter, prif epidemiolegydd yr astudiaeth o Sefydliad Seiciatreg, Seicoleg a Niwrowyddoniaeth, Coleg y Brenin, Llundain a gydlynodd yr ymchwil: “Mae ein hastudiaeth yn dangos bod y gyfradd farw yn yr ysbyty 2.4 gwaith yn fwy ymysg y rhai mwyaf bregus o gymharu â’r lleiaf bregus ar ôl ystyried oed, problemau iechyd eraill a difrifoldeb y salwch pan fo claf yn cael ei dderbyn i’r ysbyty.

“Mae angen i ni feddwl am fregusrwydd â’r un difrifoldeb ag oedran neu gyflyrau iechyd gwaelodol wrth drin Covid-19 ac mae angen i ni edrych am ffyrdd o leihau bregusrwydd yn y boblogaeth gyffredinol fel mesur amddiffynnol.”

Ychwanegodd Dr Carter: “Gyda mesurau gwarchod yn cael eu llacio dros y misoedd nesaf, a’r posibilrwydd o ail don o Covid-19, bydd hi’n bwysig cael dangosydd ystyrlon er mwyn helpu i lywio penderfyniadau ynghylch pwy ddylai warchod eu hunain eto.

“Yn yr astudiaeth dangoson ni beth yw gwerth bregusrwydd wrth asesu’r risg o farw o Covid-19 a chredwn ni y gallai gynnig gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch a allai fod angen i bobl warchod eu hunain yn y dyfodol, a phryd.”

Cafodd yr ymchwil ei gynnal ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd, Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste, Coleg y Brenin, Llundain, Prifysgolion Aberdeen a Glasgow, Prifysgol Modena a Reggio Emilia, a bu’n cynnwys cleifion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste, Ymddiriedolaeth GIG Salford, GIG Glasgow Fwyaf a Clyde, GIG Grampian ac Ysbyty Athrofaol Modena Policlinico.

Dywed yr ymchwilwyr fod angen gwneud gwaith pellach er mwyn deall a allai gofal geriatrig, gweithgarwch corfforol a maeth da wella deilliannau cleifion bregus sy’n dioddef o’r afiechyd.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.